8. Ymchwiliad gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi

8.1 Pan fydd y Cadeirydd yn derbyn adroddiad ynghylch amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, bydd yn ystyried yr achos a amheuir ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd.

8.2 Os bodlonir y Cadeirydd, ar sail pob tebygolrwydd, bod yr honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wedi'i gadarnhau, cyflwynir adroddiad ysgrifenedig i'r Gofrestrfa Academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gwirio bod y drefn wedi'i dilyn yn gywir, ac yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am y canlyniad a'r gosb a bennir. Bydd y myfyriwr hefyd yn cael gwybod bod ganddo/ganddi hawl i wneud cais am adolygiad neu ofyn i'r achos gael ei gyfeirio at Banel y Gyfadran er mwyn ymchwilio iddo.

8.3 Wedi i’r canlyniad gael ei gadarnhau i fyfyrwyr sydd ar gyrsiau a chanddynt achrediad proffesiynol, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn rhoi gwybod i gydlynydd y cynllun, a dylai’r cydlynydd ystyried a oes angen cyfeirio’r achos at y panel addasrwydd i ymarfer hefyd.

8.4 Os bodlonir y Cadeirydd nad oes achos o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, cyflwynir adroddiad ysgrifenedig i'r Gofrestrfa Academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gwirio bod y drefn wedi'i dilyn yn gywir cyn rhoi gwybod i'r myfyriwr am y canlyniad, a'i hysbysu na chymerir camau pellach.