10. Ymchwiliad gan Banel y Gyfadran

10.1 Pan fydd y Gyfadran yn derbyn adroddiad ynghylch amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, bydd yn cynnull panel bychan i ymchwilio i'r achos. Bydd y panel yn cynnwys Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) neu enwebai ac o leiaf un aelod o'r staff academaidd nad yw'n gysylltiedig â'r asesiad dan sylw. Bydd Swyddog Ysgrifenyddol yn bresennol i gadw cofnodion o’r cyfarfod.

10.2 Pan fydd achos yn cael ei gyfeirio at banel y gyfadran ar ôl cyfweliad i bennu dilysrwydd y gwaith, ni chaniateir i aelodau'r panel cyfweld gymryd rhan ym mhanel y gyfadran. Gall y swyddog ysgrifenyddol, nad yw'n aelod o'r panel, fod yr un swyddog ysgrifenyddol ag a ddaeth i’r cyfweliad.

10.3 Bydd yr wybodaeth am y panel a'r gwahoddiad i gyfarfod y panel yn cael eu cyfathrebu i'r myfyriwr gan aelod o dîm gweinyddol y gyfadran.