11. Cyfweliad i bennu Dilysrwydd y Gwaith
11.1 Pan fydd Cadeirydd Bwrdd Arholi yn derbyn adroddiad ynghylch amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol lle ceir ansicrwydd ai gwaith y myfyriwr ei hun a gyflwynwyd, ac os nad yw’r aelod o staff yn gallu dod o hyd i dystiolaeth ddogfennol i gefnogi achos o YAA, er enghraifft os amheuir bod y gwaith wedi'i gael o fanc traethodau neu wedi’i gynhyrchu drwy feddalwedd AI, gall benderfynu y dylid cynnal cyfweliad i bennu dilysrwydd y gwaith.
11.2 Oherwydd bod rheswm i gredu nad gwaith y myfyriwr ei hun yw’r gwaith yn ei gyfanrwydd, diben y cyfweliad yw profi gwybodaeth y myfyriwr am y gwaith a gyflwynwyd ac i roi cyfle i'r myfyriwr ddangos mai ei waith ef/gwaith hi yw'r gwaith dan sylw, cyn ymchwiliad gan banel Ymddygiad Academaidd Annerbyniol (os yw’n briodol).
11.3 Bydd y panel cyfweld yn cynnwys Cadeirydd sy'n annibynnol ar yr honiad, ac arbenigwr yn y pwnc (fel arfer y marciwr a wnaeth yr honiad neu gydlynydd y modiwl). Rhaid cadw cofnod o'r cyfweliad ar ffurf cofnodion ysgrifenedig gan swyddog ysgrifenyddol y panel cyfweld, a gellir eu hychwanegu at y dystiolaeth ar gyfer yr honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
11.4 Bydd yr wybodaeth am y panel a'r gwahoddiad i gyfarfod y panel cyfweld yn cael eu cyfathrebu i'r myfyriwr gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi (neu enwebai).
11.5 Wedi'r cyfweliad bydd y panel yn rhoi eu barn am wybodaeth y myfyriwr am y gwaith ac yn rhoi'r rhesymau dros ddod i'r casgliad hwn. Caiff hyn ei adlewyrchu yng nghofnodion y cyfweliad.
11.6 Pan fydd y panel cyfweld yn penderfynu nad yw'r myfyriwr wedi dangos mai ei eiddo ef/heiddo hi yw'r gwaith dan sylw, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn cyfeirio'r achos at Banel YAA er mwyn cynnal ymchwiliad i honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, ynghyd â manylion yr honiad a'r adroddiad o'r cyfweliad.
11.7 Pan fo myfyriwr yn cyfaddef eu bod yn euog o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn rhan o’r broses gyfweld, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn cyfeirio'r achos at y Gofrestrfa Academaidd i benderfynu ar y gosb briodol. Ni fydd yn ofynnol i’r panel YAA gwrdd â'r myfyriwr. Bydd y myfyriwr yn cael cyfle i ofyn i’r panel YAA ystyried eu hachos os yw'r myfyriwr yn anfodlon â chanlyniad y cyfweliad.
11.8 Pan fydd y panel cyfweld yn penderfynu bod y myfyriwr wedi dangos mai ei eiddo ef/hi yw'r gwaith dan sylw, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn rhoi gwybod i gydlynydd y modiwl y dylid marcio'r gwaith yn unol â'r meini prawf a gyhoeddwyd gan yr Adran a rhoi gwybod i'r myfyriwr na chymerir unrhyw gamau pellach.
