12. Ymchwiliad gan Banel Prifysgol
12.1 Bydd y Brifysgol yn sefydlu Panel Sefydlog er mwyn ymchwilio i achosion lle amheuir Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Bydd pob Cyfadran yn enwebu aelod o staff academaidd i wasanaethu ar y Panel Sefydlog.
12.2 Pan dderbynnir honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol gan Gadeirydd Bwrdd Arholi, bydd y Gofrestrfa Academaidd yn trefnu cynnull Panel Prifysgol. Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig yn ymwneud â’r achos, ynghyd â’r holl dystiolaeth ysgrifenedig berthnasol.
12.3 Bydd tri aelod ar Banel y Brifysgol, wedi'u dethol o'r Panel Sefydlog; penodir un ohonynt yn Gadeirydd, a swyddog ysgrifenyddol i’r panel a fydd yn cadw cofnod o’r cyfarfod. Pan fo’n bosibl, ni fydd aelod o unrhyw Banel Prifysgol yn dod o Adran(nau) y myfyriwr. Mewn achosion lle mae aelod o'r panel yn dod o adran y myfyriwr, bydd y Cadeirydd yn rhoi gwybod i’r myfyriwr am hyn a gall y myfyriwr ofyn am banel newydd os oes gwrthdaro buddiannau. Ni ddylai unrhyw aelod o Banel Prifysgol fod wedi ymwneud ag achosion blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol ar gyfer yr un myfyriwr.
