14. Y drefn yn ystod y cyfarfod

14.1 Os ceir amheuaeth bod dau fyfyriwr neu ragor ynghlwm ag achosion cysylltiedig o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, gall Cadeirydd y panel benderfynu ymdrin â’r achosion ar y cyd. Fodd bynnag, rhoddir cyfle i bob myfyriwr wneud cais ar i’r achosion gael eu gwrando ar wahân.

14.2 Bydd y Cadeirydd yn cyflwyno crynodeb o'r achos yn erbyn y myfyriwr, gan gyfeirio at y dystiolaeth a gyflwynwyd i'w hystyried gan y panel. Caiff y panel ofyn cwestiynau i'r myfyriwr a’r arbenigwr ar gyfer y pwnc os yw’n bresennol.

14.3 Bydd gan y myfyriwr yr hawl i glywed yr holl dystiolaeth sy'n ymwneud â'r achos cyn ymateb i'r honiad, ac i fod yn bresennol i gyflwyno ymateb i'r panel. Ni cheir cyflwyno tystiolaeth ddogfennol ychwanegol, gan gynnwys tystiolaeth o amgylchiadau arbennig, i'r panel ar ddiwrnod y cyfarfod heb gael caniatâd penodol y Cadeirydd.

14.4 Pan fydd y dystiolaeth wedi'i chyflwyno ac ymateb y myfyriwr wedi'i gwblhau, bydd pawb, ac eithrio aelodau'r panel, a'r ysgrifennydd, yn gadael y cyfarfod.

14.5 Gall y Panel, ar ôl cyfarfod y panel neu’r cyfweliad i benderfynu ar ddilysrwydd y gwaith, gysylltu â'r adran academaidd berthnasol i ofyn am ddilysiad ar gyfer unrhyw hawliadau a wneir gan y myfyriwr, neu ofyn am ragor o wybodaeth y gallai ei hystyried wrth benderfynu ar ganlyniad. Gall unrhyw honiadau ffug arwain at gamau disgyblu pellach. Os nodir honiadau ffug ar ôl i gosb gael ei phennu, gellir adolygu'r gosb.

14.6 Os bodlonir y panel, ar sail pob tebygolrwydd, bod yr honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wedi'i gadarnhau, cyflwynir adroddiad ysgrifenedig i'r Gofrestrfa Academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gwirio bod y drefn wedi'i dilyn yn gywir, ac yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am y canlyniad, a'r gosb a bennir, a hefyd am yr hawl i wneud cais am adolygiad.

14.7 Wedi i’r canlyniad gael ei gadarnhau i fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar gyrsiau a chanddynt achrediad proffesiynol, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn rhoi gwybod i gydlynydd y cynllun, a dylai’r cydlynydd ystyried a oes angen cyfeirio’r achos at y panel addasrwydd i ymarfer hefyd.

14.8 Os bodlonir y panel nad oes achos o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, cyflwynir adroddiad ysgrifenedig i'r Gofrestrfa Academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gwirio bod y drefn wedi'i dilyn yn gywir cyn rhoi gwybod i'r myfyriwr am y canlyniad, a'i hysbysu na chymerir camau pellach.

14.9 Rhoddir gwybod am y canlyniad drwy ebost. Ni waeth ai canfyddiad y panel yw bod yr achos wedi'i gadarnhau ai peidio, fel rheol ni roddir gwybod i’r myfyriwr am y canlyniad ar lafar; ni thrafodir y penderfyniad â'r myfyriwr.