15. Cosbau am Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn cynlluniau gradd trwy gwrs (israddedig ac uwchraddedig)

15.1 Bydd y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) yn pennu un o'r cosbau canlynol. Nid yw'r rhain yn rhan o'r system bwyntiau ac ni fydd y troseddau'n cyfrif tuag at honiadau eraill o ymddygiad academaidd annerbyniol.

(i) Y gosb am drosedd gyntaf fydd rhoi rhybudd ysgrifenedig ffurfiol i'r ymgeisydd.

(ii) Y gosb am ail drosedd neu drosedd ddilynol fydd uchafswm marc o 39 lle mai 40 yw’r marc pasio neu 49 lle mai 50 yw’r marc pasio ar gyfer yr asesiad. Caniateir i fyfyrwyr ailsefyll am farc wedi'i gapio os byddant yn methu'r modiwl, gan ddibynnu a oes cyfleoedd i ailsefyll ar gael iddynt.

15.2 Ymagwedd dosturiol at uniondeb academaidd

Mae'r Brifysgol yn cydnabod y gall achosion cychwynnol neu fân o dorri’r rheolau o ran ymddygiad academaidd mewn rhai achosion ddeillio o arferion neu ofynion gwahanol mewn sefydliad addysgol blaenorol, neu system addysg, diwylliant academaidd gwahanol, neu oherwydd bwlch mewn dealltwriaeth rhwng gadael ac ail-ymuno â system addysg/addysg uwch, neu ddiffyg cefnogaeth i ddatblygu arfer ac ymddygiad academaidd da yn y gorffennol, neu amgylchiadau eraill. Mae'r Brifysgol hefyd yn cydnabod, yn unol â’r system gosbi ar sail pwyntiau, y gall unrhyw drosedd ddilynol arwain at gosb ddifrifol a allai fod â chanlyniadau difrifol i ddosbarth gradd y myfyriwr neu hyd yn oed eu gallu i gwblhau eu gradd.

Os mai honiad o Ymarfer Academaidd Annerbyniol a gadarnhawyd yw achos cyntaf, a mân y myfyriwr o dorri arfer academaidd ym mlwyddyn gyntaf eu presenoldeb ym Mhrifysgol Aberystwyth, a’i fod yn cyfeirio at gamgymeriad gwirioneddol, sy'n arwain at ymddygiad academaidd gwael yn hytrach nag ymddygiad academaidd annerbyniol, gall panel YAA / Cadeirydd y Bwrdd Arholi (neu enwebai) benderfynu cyfeirio'r achos i'r Llwybr Addysgol lle bydd y myfyriwr

  • yn cael eu gwahodd i gwblhau'r cwrs uniondeb academaidd ar-lein (https://libguides.aber.ac.uk/referencing, a/neu https://www.aber.ac.uk/en/is/help/ai/ os yw'n briodol) o fewn cyfnod penodol o amser (pum diwrnod gwaith fel arfer) a darparu tystiolaeth o gwblhau (ar gael ar BlackBoard).
  • yn gorfod mynychu unrhyw sesiynau ymarfer academaidd da pellach yn ôl cyfarwyddyd gan eu hadran academaidd.

Os yw'r myfyriwr yn cwblhau'r camau hyn o fewn yr amserlen a nodwyd, ni ddylid rhoi unrhyw gosb, a dylid marcio'r asesiad gan ddilyn y meini prawf marcio adrannol; os nad ydynt yn gwneud hynny, dylai'r adran gyfeirio’r myfyriwr yn ôl at y Gofrestrfa Academaidd a gellir dyfarnu’r gosb wreiddiol a fyddai wedi cael ei rhoi o dan y system seiliedig ar bwyntiau yn ddiweddarach.

Mae rhai enghreifftiau o fân-doriadau  o ran ymddygiad academaidd sy'n arwain at ymddygiad academaidd gwael yn hytrach nag ymddygiad academaidd annerbyniol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) cyfeirnodi gwael a llên-ladrad anfwriadol.

Y rheswm dros gynnwys dull addysgol o ran YAA yw atal honiadau pellach rhag digwydd yn effeithiol. Bydd unrhyw droseddau dilynol yn cyfrif fel ail drosedd (neu drydydd, os yw'n briodol) ar y system sy'n seiliedig ar bwyntiau.

Mewn achosion lle mae'r panel YAA o'r farn nad yw'r Llwybr Addysgol yn briodol, dylid cymhwyso'r cosbau fel y'u diffinnir yn y tabl cosbau.

15.3 Bydd Cadeiryddion Byrddau Arholi a phaneli Cyfadran a Phrifysgol yn pennu un o’r cosbau a nodir yn y Canllawiau ar Ymddygiad Academaidd.  Pennir y cosbau ar sail system sy’n seiliedig ar bwyntiau, gan ystyried yr elfennau a ganlyn:

(i) Hanes blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol;

(ii) Graddau a difrifoldeb yr Ymddygiad Academaidd Annerbyniol;

(iii) Y lefel astudio.

15.4 Ni ddylid ystyried honiadau blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wrth benderfynu a gafwyd ymddygiad o’r fath y tro hwn, ac ni ddylid tynnu sylw paneli at honiadau blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol hyd nes y penderfynir a yw’r honiad yn cael ei gadarnhau ai peidio. Wedi i benderfyniad gael ei wneud, gall y panel ystyried achosion blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol a gafodd eu cadarnhau wrth bennu’r gosb, fel y nodir yn y system sy'n seiliedig ar bwyntiau.

15.5 Ni all paneli gymryd amgylchiadau arbennig i ystyriaeth wrth benderfynu a gafwyd Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Er hynny, gall paneli ystyried amgylchiadau personol eithriadol wrth bennu cosbau, os gellir dangos bod y rhain yn berthnasol i’r achos. Mewn achosion o’r fath, rhaid i’r myfyriwr gyflwyno rheswm da i ddangos pam na ellid bod wedi cyflwyno amgylchiadau personol o’r fath i’r Gyfadran cyn hyn er mwyn gallu ystyried ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, neu addasiadau eraill i’r asesiad dan sylw. Bydd argymhellion i leihau’r cosbau, fel rheol o un lefel, ar sail amgylchiadau arbennig yn cael eu cyflwyno i’r Gofrestrfa Academaidd er mwyn i Bennaeth y Gofrestrfa Academaidd (neu enwebai) eu hystyried. Mewn achosion prin, gellir gwneud argymhelliad i leihau cosb o fwy nag un lefel a bydd fel arfer yn cael ei anfon at yr Hyrwyddwr Uniondeb Academaidd i'w ystyried.

15.6 Ni chaniateir i baneli ystyried yr effaith ar symud ymlaen wrth benderfynu a oes Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wedi digwydd. Fodd bynnag, gall paneli ystyried yr effaith ar symud ymlaen wrth bennu cosbau os yw'r gosb yn debygol o gael effaith anfwriadol ar y myfyriwr. Bydd argymhellion i leihau cosbau ar sail effaith anfwriadol yn cael eu cyflwyno i'r Gofrestrfa Academaidd er mwyn i Bennaeth y Gofrestrfa Academaidd (neu enwebai) eu hystyried.

15.7 Pennir y cosbau yn unol â’r system gosbau sy’n seiliedig ar bwyntiau. Mewn achosion eithriadol, gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol / Cadeirydd Panel y Gyfadran neu’r Brifysgol argymell cosb fwy difrifol. Dylid cyflwyno argymhellion i’r Gofrestrfa Academaidd, gan ddarparu achos ysgrifenedig llawn i gefnogi’r argymhellion. Mewn achosion o’r fath bydd y Gofrestrfa Academaidd mewn ymgynghoriad â’r Hyrwyddwr Uniondeb Academaidd yn pennu un o’r cosbau canlynol, neu gyfuniad ohonynt:

(i) Diarddel yr ymgeisydd o’r Brifysgol am gyfnod penodol neu yn barhaol;

(ii) Gwahardd y myfyriwr o unrhyw arholiad yn y Brifysgol yn y dyfodol.

15.8 Bydd achosion lle nodir anghysondeb yn cael eu cyfeirio at yr Hyrwyddwr Uniondeb Academaidd am benderfyniad terfynol.

15.9 Mewn achosion lle mae cosb YAA yn arwain at ddyfarnu dangosydd P, F neu N ar gyfer modiwl neu fodiwlau, ni fydd modd gwyrdroi'r dangosydd hwn gan argymhellion ar gyfer dangosydd H neu ganlyniad apêl academaidd - dylai unrhyw amgylchiadau arbennig fod wedi'u datgan eisoes adeg y panel (gweler 15.5), ac os yw'n briodol, eu hystyried wrth ddyfarnu'r gosb.   O dan y trefniant 'camgychwyn' yn Rhan Un, mae'r gosb YAA yn parhau i fod ar y cofnod ac ni chaniateir i fyfyriwr sydd â mwy nag 20 credyd o N gael ‘camgychwyn’.