15. Cosbau am Ymddygiad Academaidd Annerbyniol gan fyfyrwyr am raddau ymchwil uwchraddedig

15.1 Bydd y Brifysgol yn pennu un o’r cosbau a ganlyn am Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn traethawd ymchwil neu mewn gwaith arall a gyflwynir i'w arholi am radd ymchwil:

i) Methu’r traethawd ymchwil, gyda chyfle i’w ailgyflwyno;

ii) Methu’r traethawd ymchwil, heb gyfle i’w ailgyflwyno.

15.2 Yn achos modiwlau hyfforddiant ymchwil bydd Cadeiryddion Byrddau Arholi a phaneli y Gyfadran a’r Brifysgol yn pennu un o’r cosbau canlynol, gan ystyried graddau a difrifoldeb yr Ymddygiad Academaidd Annerbyniol a hanes blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.

i) Am drosedd gyntaf, ar wahân i honiadau difrifol lle byddai angen panel prifysgol fel arfer, marc o sero i'r asesiad ac amod i ailsefyll yr asesiad am farc modiwl wedi'i gapio.

ii) Am ail drosedd, neu honiad difrifol lle bydd angen panel prifysgol, marc o sero am y modiwl ac amod i ailsefyll y modiwl.

iii) Am drydedd drosedd, diarddel y myfyriwr o'r brifysgol yn barhaol.

Yn achos y ddwy gosb gyntaf, anfonir adroddiad i Bwyllgorau Monitro’r Gyfadran berthnasol ac Ysgol y Graddedigion, a'u hystyried wrth benderfynu a yw myfyriwr wedi dangos digon o gynnydd i gael symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf.