Cwestiynau Cyffredin am e-Gyflwyno - Cyffredinol
Noder fod y dudalen hon yn is-adran o'r ddogfen lawn Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno. Mae’r llawlyfr cyfan hefyd ar gael i’w lawrlwytho: Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno (PDF).
Ym mis Chwefror 2014 cytunodd y Bwrdd Academaidd y byddai’r holl waith seiliedig ar destun ar brosesydd geiriau yn cael ei gyflwyno’n electronig o fis Medi 2014. Bydd hyn yn darparu un system cyflwyno aseiniadau ledled y brifysgol a bydd yn galluogi staff i ddefnyddio amrywiaeth o offer i roi adborth cyfoethog.
Mae Grŵp Tasg a Therfynu E-gyflwyno, gyda chynrychiolwyr o blith y staff academaidd a gweinyddol ac Undeb y Myfyrwyr, wedi treulio’r flwyddyn academaidd hon yn ymchwilio i faterion yn ymwneud ag e-gyflwyno ac yn datblygu gweithdrefnau a phrosesau i helpu’r trawsnewid i e-gyflwyno. Y Cwestiynau Cyffredin hyn yw ffrwyth y gwaith hwn
Nodau
- Darparu un system gyson i fyfyrwyr ar gyfer cyflwyno aseiniadau (cam 1).
- Darparu adborth electronig i fyfyrwyr ar y mwyafrif o’u hasesiadau (cam 2)
- Darparu ffordd i staff farcio ar-lein a chyflwyno adborth electronig, os ydynt yn dymuno gwneud hynny (cam 2)
Amserlen
- Cam 1 – Bydd cyflwyno electronig yn weithredol ar gyfer yr holl fyfyrwyr a’r holl fodiwlau perthnasol o fis Medi 2014.
- Cam 2 – Adborth electronig i’r holl fyfyrwyr
Cynnwys
Cyffredinol
Pam ydym ni’n defnyddio cyflwyno electronig nawr?
Mae cyflwyno electronig (e-gyflwyno) yn cyfeirio at y broses a ddefnyddir pan fydd myfyriwr yn cyflwyno gwaith ar-lein i’w storio a’i adalw gan staff academaidd, gweinyddol neu staff arall i’w farcio a rhoi adborth. Gall hyn hefyd gynnwys gwirio am lên-ladrad gan ddefnyddio Turnitin*. Mae’n ddull effeithlon o gasglu gwaith i’w asesu gan fyfyrwyr:
- Mae’n caniatáu hyblygrwydd a hwylustod, e.e. gall myfyrwyr gyflwyno eu haseiniadau neu weld eu marciau ac adborth yn unrhyw le heb gyfyngiadau oriau swyddfa.
- Mae hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i staff ddarparu adborth cyfoethog i fyfyrwyr (gan gynnwys adborth sain).
- Mae’n caniatáu ar gyfer archifo aseiniadau, adborth a marciau y gellid cyfeirio atynt yn y dyfodol e.e. ar gyfer arholwyr allanol.
- Mae myfyrwyr eisoes yn ymgysylltu ar-lein gyda’r brifysgol mewn meysydd eraill fel defnyddio AberLearn Blackboard a’r amserlen ar-lein.
Gwasanaeth trydydd parti yw TurnItIn ac mae gan y Brifysgol drwydded i’w ddefnyddio. Mae’n caniatáu cyflwyno aseiniadau’n electronig drwy Blackboard ac mae’n darparu adroddiadau gwreiddioldeb. http://nexus.aber.ac.uk/xwiki/bin/view/Main/turnitin
Beth yw’r manteision i fyfyrwyr yn sgil defnyddio e-gyflwyno ac adborth?
- Un system drwy’r Brifysgol gyfan ar gyfer yr holl waith testun ar brosesydd geiriau sydd i’w asesu.
- Dim argraffu i fyfyrwyr.
- Gellir teipio adborth yn hytrach na’i ysgrifennu â llaw.
- Gall myfyrwyr weld eu hadborth ar unrhyw adeg drwy AberLearn Blackboard, sy’n eu galluogi i weithredu ar yr adborth yn rhwydd i wella perfformiad mewn aseiniadau yn y dyfodol.
Beth yw manteision defnyddio e-gyflwyno, marcio ac adborth i’r staff academaidd?
- Gall staff ddechrau marcio cyn gynted ag y bydd y dyddiad cyflwyno wedi pasio (does dim angen aros i’r swyddfa brosesu’r gwaith cwrs).
- Gall staff farcio i ffwrdd o’r swyddfa ar gyfrifiadur pen desg, gliniadur neu dabled.
- Ceir nifer o ddulliau ar gyfer cyflwyno gwell adborth ar waith myfyrwyr. Mae Turnitin yn ei gwneud yn hawdd i staff gofnodi clipiau sain byr gydag adborth llafar. Gall staff lunio set o sylwadau cyffredinol, y gellir eu llusgo a’u gollwng yn syth ar sgriptiau myfyrwyr. Gellir marcio sgriptiau ar-lein sy’n lleihau problemau y gallai myfyrwyr eu profi gyda darllen llawysgrifen.
- Gall defnyddio’r system i’w photensial llawn leihau’r nifer o negeseuon ebost gan fyfyrwyr, oherwydd gall myfyrwyr weld eu hadborth eu hunain yn uniongyrchol heb ymyrraeth y tiwtor.
- Bydd Arholwyr Allanol yn gallu gweld trywydd archwilio clir y broses safoni. Bydd tystiolaeth y broses i’w gweld drwy’r system ar-lein.
- Arbedion cost, amser a chynaladwyedd (llungopïo a ffeilio taflenni adborth).
- Gall staff academaidd adeiladu ‘cronfa’ o sylwadau cyffredin a gosod y sylwadau mwyaf priodol ar y daflen adborth.
- Y potensial ar gyfer gwella ansawdd a defnyddioldeb yr adborth yn ogystal â phrydlondeb.
- Lleihad yn yr achosion o ddiffyg casglu adborth ar asesiadau myfyrwyr o’r adrannau.
- Mae nifer o astudiaethau academaidd wedi dangos gwell ymgysylltu gydag adborth electronig. Dangosodd prosiect peilot e-adborth yn yr Adran Addysg bod myfyrwyr yn ymateb yn well i’w hadborth.
- Cysondeb gyda chydweithwyr mewn prifysgolion eraill. Mae’r mwyafrif o brifysgolion yn y DU a Chymru’n defnyddio systemau e-gyflwyno.
Oes ymgynghoriad wedi’i gynnal â’r myfyrwyr?
Oes. Mae Undeb y Myfyrwyr wedi bod ynghlwm â’r gwaith o roi’r prosiect hwn ar waith.
Oes ymgynghoriad wedi’i gynnal â staff?
Mae nifer o staff academaidd ar y Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Mae’r grŵp hefyd wedi cyfarfod â’r Cyfarwyddwyr Astudiaethau Israddedig ac Uwchraddedig i drafod y prosiect a’i waith. Cyfarfu aelod o’r grŵp â staff gweinyddol o bob adran a chynhaliwyd cyflwyniad gyda sesiwn holi ac ateb yn y Fforwm Gweinyddol. Byddwn yn ceisio sicrhau cyflwyniad byr gan aelod o’r staff academaidd mewn cyfarfodydd adran yn ystod mis Mawrth, Ebrill a Mai 2014.
A fydd y system yn cael ei hadolygu?
Bydd. Fe fydd y system yn cael ei hadolygu’n barhaus unwaith y bydd Cam 1 wedi’i lansio ym mis Medi 2014 a bydd gwelliannau’n cael eu cyflwyno fel bo’n briodol.