Prifysgol Aberystwyth
Chwilio am Gwrs
Digwyddiadau i ddod
Astudio gyda Ni
Mae ymchwil arloesol y Brifysgol yn bwydo’n syth i’n gwaith dysgu, gan gyfoethogi ein cyrsiau a chreu profiad dysgu heb ei ail, gan eich helpu i feithrin sgiliau a datrys problemau go iawn.
Astudiaethau Israddedig:
Astudiaethau
Ôl-raddedig:
Opsiynau Astudio Eraill
Ymchwil yn Aberystwyth
Mae ymchwil Aberystwyth yn helpu i newid y byd er gwell, drwy wneud gwahaniaeth i fywydau go iawn. Rydym yn ymdrin â rhai o heriau mwyaf taer cymdeithas, gan gynnwys newid hinsawdd, iechyd byd-eang, newidiadau cymdeithasol, ac archwilio’r gofod.
Darganfyddwch Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli ar arfordir y gorllewin, rhwng Mynyddoedd y Cambria a Bae Ceredigion. Mae’r gymuned yn amrywiol a chroesawgar o fewn tref farchnad hanesyddol ar lan y môr sydd â diwylliant Cymreig cosmopolitan. Gyda chymaint i’w gynnig, bydd gennych ddigonedd o ddewis.
Newyddion
Gweld y newyddion yn llawnEtholiadau mis Mai: yr hyn y mae pum arbenigwr gwleidyddiaeth yn chwilio amdano
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Anwen Elias o'n Hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn un o bum arbenigwr sy'n rhannu'r hyn y byddant yn ei wylio'n agos yn etholiadau mis Mai yn Lloegr, yr Alban a Chymru.
Gall darganfyddiad myfyriwr hybu datblygiad cnydau sy’n gwrthsefyll llifogydd
Mae myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi datgelu sut mae gwahanol fathau o blanhigion yn ymateb i lifogydd, gan gynnig mewnwelediadau a allai helpu cnydau i ymdopi â thywydd eithafol.
Datgelu cyfrinachau dom alpacaod a defaid i helpu i ddiogelu glaswelltiroedd y byd
Mae gwyddonwyr yn astudio dom alpacaod a defaid a gesglir yn ucheldiroedd Cymru fel rhan o ymdrechion i ddiogelu glaswelltiroedd a bywyd gwyllt ledled y byd.
Pam mae ffermydd gwynt a pheilonau trydan wedi dod yn fater mawr yn etholiad Cymru
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Professor Michael Woods yn trafod sut mae polisïau gwyrdd, gan gynnwys ffermydd gwynt, yn troi’n destun dadl yn ystod ymgyrch etholiadau'r Senedd.
