Prifysgol Aberystwyth

Aberystwyth students

Ymunwch â'n gweminarau: Paratoi ar gyfer Dyddiad Cau UCAS
Cofrestrwch Nawr

Aberystwyth students

Prifysgol y Flwyddyn am Gynaliadwyedd Canllaw Prifysgolion Da 2026,
The Times a'r The Sunday Times

Aberystwyth students

Ar y brig yng Nghymru am Fodlonrwydd Myfyrwyr am y 10fed flwyddyn yn olynol
(ACF 2025)

Aberystwyth students

Astudiwch yn hyblyg ac 100% ar-lein Dewch o hyd i gwrs ôl-raddedig gydag AberAr-lein

Chwilio am Gwrs

Astudio gyda Ni

Mae ymchwil arloesol y Brifysgol yn bwydo’n syth i’n gwaith dysgu, gan gyfoethogi ein cyrsiau a chreu profiad dysgu heb ei ail, gan eich helpu i feithrin sgiliau a datrys problemau go iawn.

Astudiaethau Israddedig:

Astudiaethau
Ôl-raddedig:

Opsiynau Astudio Eraill

Ymchwil yn Aberystwyth

Mae ymchwil Aberystwyth yn helpu i newid y byd er gwell, drwy wneud gwahaniaeth i fywydau go iawn. Rydym yn ymdrin â rhai o heriau mwyaf taer cymdeithas, gan gynnwys newid hinsawdd, iechyd byd-eang, newidiadau cymdeithasol, ac archwilio’r gofod.

Darganfyddwch Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli ar arfordir y gorllewin, rhwng Mynyddoedd y Cambria a Bae Ceredigion. Mae’r gymuned yn amrywiol a chroesawgar o fewn tref farchnad hanesyddol ar lan y môr sydd â diwylliant Cymreig cosmopolitan. Gyda chymaint i’w gynnig, bydd gennych ddigonedd o ddewis.

Cymuned

Newyddion

Gweld y newyddion yn llawn

Affrica Is-Sahara wedi colli hyd at hanner ei phrimatiaid - astudiaeth newydd

Mae Affrica Is-Sahara eisoes wedi colli hyd at hanner ei phrimatiaid - math o anifeiliaid sy'n cynnwys epaod a mwncïod - ers y cyfnod cyn-ddiwydiannol, yn ôl astudiaeth ryngwladol o bwys.

Y Brifysgol yn croesawu cefnogaeth Asiantaeth Ofod y DU ar gyfer taith i’r blaned Mawrth

Mae’r tîm ExoMars yn y Brifysgol wedi croesawu cefnogaeth o'r newydd gan Asiantaeth Ofod y DU ar gyfer taith y crwydryn Rosalind Franklin, prosiect blaenllaw a fydd yn gweld lansiad crwydryn cyntaf Ewrop i’r blaned Mawrth yn 2028.

Tynnu nwyon tŷ gwydr yn ddull hanfodol i gwrdd â thargedau hinsawdd - adroddiad

Mae adfer tir mawn a thyfu cnydau biomas i dynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer yn gallu helpu i gwrdd ag amcanion sero net, yn ôl adroddiad gwyddonol newydd.

Hwb i allu brofi afiechydon anifeiliaid diolch i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru

Bydd ffermwyr da byw a swyddogion iechyd anifeiliaid yng Nghymru yn cael elwa cyn hir ar drefniadau rhanbarthol i brofi am glefydau, hynny yn dilyn buddsoddiad i ddechrau'r broses o sefydlu canolfan ddiagnostig arbenigol yn y Brifysgol.