Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno - Marcio

Noder fod y dudalen hon yn is-adran o'r ddogfen lawn Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno. Mae’r llawlyfr cyfan hefyd ar gael i’w lawrlwytho: Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno (PDF).

 

Marcio

Oes rhaid i fi farcio ar-lein / ar sgrin o fis Medi 2014 ymlaen?

Nac oes, mater personol i bob aelod o staff yw marcio. Nod y prosiect yw cadw elfen o ddewis o ran marcio ond anogir staff i ddarparu adborth ar-lein. Gall staff sy’n dymuno marcio ar-lein wneud hynny ar unwaith ac fe’u hanogir i ddechrau defnyddio’r system gyda’u modiwlau cyn ei roi ar waith yn llawn ym mis Medi 2014. Bydd angen i staff gweinyddol gael rhestr o ba fodiwlau a gaiff eu marcio ar-lein a pha fodiwlau fydd angen eu hargraffu.

A fydd gwaith cwrs y myfyrwyr yn ddienw?

Bydd. Mae Blackboard Assignment a Turnitin yn cefnogi marcio dienw. Gyda Turnitin, mae’r marcio’n ddienw hyd at y Dyddiad Postio, sef y dyddiad y mae marciau ac adborth ar gael i fyfyrwyr ac y caiff marciau eu postio ar y Ganolfan Raddau. Unwaith y bydd y marciau wedi’u postio, caiff yr enwau eu datgelu o fewn y system ac nid oes ffordd i’w gwneud yn ddienw unwaith eto.

Erbyn i’r academyddion dderbyn asesiadau wedi’u hargraffu i’w marcio byddant yn ddienw. Oes ap ar gael i ddyfeisiadau Android yn debyg i’r ap Apple ar gyfer marcio tabled?

Ar hyn o bryd mae Turnitin wedi ymrwymo i gynhyrchu ap ar gyfer iOS (Apple) yn unig. Mae pwysau cynyddol am ap Android, ond nid oes gennym unrhyw reolaeth uniongyrchol dros hyn. Byddwn yn parhau i lobïo am ap Android.

A fyddwn ni’n dal i allu defnyddio blaenddalennau neu gridiau marcio?

Bydd ‘blaenddalen’ (taflen datganiad) safonol y bydd myfyrwyr yn ei ‘llofnodi’ i gadarnhau mai eu gwaith nhw eu hunain sy’n cael ei gyflwyno. Mae sawl ffordd i ddefnyddio gridiau marcio neu blaenddalennau gyda chyflwyno electronig. Cynghorir chi i ymgynghori â’r Tîm E-ddysgu i weld beth yw’r ffordd orau i wneud hyn.