Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno - Argraffu

Noder fod y dudalen hon yn is-adran o'r ddogfen lawn Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno. Mae’r llawlyfr cyfan hefyd ar gael i’w lawrlwytho: Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno (PDF).

 

Argraffu

Ydy hi’n bosibl argraffu aseiniadau o Turnitin?

Ydy mae’n bosibl argraffu aseiniad unigol neu ‘swp-argraffu’ yr holl bapurau a gyflwynir ar gyfer darn aseiniad penodol.

Mae system wedi’i sefydlu gydag ystafell argraffu PA i argraffu aseiniadau ar fodiwlau mawr o fewn tri diwrnod gwaith. Cynghorir adrannau i ddefnyddio’r system hon ar gyfer yr holl fodiwlau mawr; gellid argraffu modiwlau llai ar argraffyddion adrannol (gan ddefnyddio’r cod swp-argraffu a gaiff ei gylchredeg i’r adrannau).

Caiff staff gweinyddol eu hyfforddi yn ystod yr haf gan fod hyn yn ddull newydd o brosesu traethodau. Bydd siart llif manwl yn cael ei ddarparu i ddangos yn union sut mae’r broses yn gweithio.

Sut fydd argraffu’n cael ei ariannu i’r staff hynny nad ydynt yn marcio ar-lein?

Yn ystod y flwyddyn gyntaf (2014-2015) bydd cost anfon gwaith i’r Ystafell Argraffu yn cael ei thalu’n ganolog. Caiff hyn ei fonitro a’i adolygu bob chwe mis. Bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth hefyd yn adolygu costau’n gysylltiedig ag argraffu yn yr adrannau bob blwyddyn. Anogir adrannau i ddefnyddio marcio ar-lein er mwyn lleihau’r angen i argraffu aseiniadau.

Os caiff y gwasanaeth argraffu canolog ei ddefnyddio, a fydd hyn yn peri oedi i’r cyfnod dychwelyd o 3 wythnos?

Mae’r Ystafell Argraffu wedi cytuno ar gyfnod dychwelyd o dri diwrnod gwaith.