Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno - Y Gymraeg

Noder fod y dudalen hon yn is-adran o'r ddogfen lawn Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno. Mae’r llawlyfr cyfan hefyd ar gael i’w lawrlwytho: Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno (PDF).

 

Y Gymraeg

Ydy Turnitin yn cydnabod y Gymraeg?

Ydy. Caiff ei ddefnyddio gan yr holl SAUau eraill yng Nghymru ac felly mae’r gronfa ddata o aseiniadau Cymraeg yn sylweddol. Mae hyn yn golygu y bydd yr elfen Gwirio Gwreiddioldeb yn gwirio yn erbyn deunydd Cymraeg a gyflwynwyd mewn sefydliadau eraill.

A fydd y system yn ddwyieithog?

Nid yw’r feddalwedd hon ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd gan nad yw’r cwmni sy’n ei ddarparu wedi cytuno i gynhyrchu fersiwn Cymraeg. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra. Fodd bynnag, mae Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydweithio â’i gilydd i ganfod datrysiad i’r sefyllfa ac i bwyso ar y cwmni i ddarparu fersiwn Cymraeg