Amdanom ni
Pwrpas y Gwasanaeth Gyrfaoedd yw darparu gwasanaethau rhagorol a chynhalgar sy’n fodd i fyfyrwyr a graddedigion unigol gyflawni eu dyheadau, gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch bywyd, a chyflawni eu potensial.
Mae’n gwasanaethau i gyflogwyr yn eu galluogi i gysylltu’n uniongyrchol â’n myfyrwyr a graddedigion gan hybu twf cyflogwyr yn nhermau recriwtio staff, cyd-weithio a chreu cyfleoedd newydd.
Gweler ein cenhadaeth llawn yma - Ein Cenhadaeth. Gweler ein polisi gyrfaoedd moesegol yma -Polisi Gyrfaoedd Moesegol
Anelwn at wneud ein gwasanaethau'n gyfleus ac yn agored i'n holl ddefnyddwyr ac rydym yn fwy na bodlon i drafod anghenion penodol. Cysylltwch â ni drwy gyrfaoedd@aber.ac.uk neu dros y ffôn, 01970 622378, i drafod gofynion hygyrchedd unigol.
