Gadewch i ni gydweithio!
Byddwn yn cydweithio â chi mewn modd creadigol a hyblyg sydd wedi’i deilwra at anghenion eich busnes penodol chi – a hynny’n rhad ac am ddim!
Yr hyn a gynigiwn
Rydym yn cydweithio mewn amrywiaeth o ffyrdd gyda rhwydwaith amrywiol o gyflogwyr a sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, o fasnachwyr unigol i gorfforaethau mawr.
Efallai nad ydych yn sicr os neu sut y gallwn weithio gyda’n gilydd, ond yn awyddus i ddarganfod! Neu efallai eich bod wedi darganfod angen penodol y gallwn eich helpu gyda, er enghraifft:
- mae gennych swydd gwag neu interniaeth i hysbysebu
- rydych chi'n meddwl am gynnal stondin yn un o'n Ffeiriau Gyrfaoedd neu ddigwyddiadau eraill ar y campws
- hoffech chi ddatblygu syniad am leoliad neu brosiect ar gyfer un o'n myfyrwyr
- rydych yn gobeithio gweithio gydag adran benodol neu gyda myfyrwyr sy'n astudio pwnc neu fodiwl penodol
Beth bynnag fo'ch angen unigol, cysylltwch ein Swyddog Cyswllt â Chyflogwyr, unrhyw bryd.
Yr hyn sydd gan gyflogwyr i'w ddweud amdanom
Gwrandewch ar yr hyn sydd gan gyflogwyr a sefydliadau eraill i’w ddweud ynghylch gweithio gyda ni drwy glicio yma.
Manylion cyswllt Jacqui:
Ffôn: 01970 628670
Ebost: jah30@aber.ac.uk
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.