Graddedigion
Croeso! Fel un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth mae croeso i chi barhau i ddefnyddio ein gwasanaethau.
Efallai eich bod wedi graddio yn ddiweddar, neu a ydych yn ail ystyried penderfyniadau gyrfaol a wnaethpwyd peth amser yn ôl? Gall fod gennych syniadau pendant am yr hyn y dymunech ei wneud fel gyrfa, ond gall fod gan rhai ohonoch ddim syniad o gwbl. Beth bynnag fo’ch sefyllfa bresennol, gwnawn ein gorau glas i fod o gymorth. Fel man cychwyn, dyma rhai awgrymiadau:
- Siaradwch ag Ymgynghorydd Gyrfaoedd cyn gynted a fo’n bosibl er mwyn rhoi digon o amser i’ch hun i ystyried eich opsiynau ac i ddechrau cynllunio eich dyfodol.
- Dewch i sesiwn galw heibio os ydych yng nghyffiniau Aberystwyth. Os nad yw hyn yn bosibl, gellwch ebostio unrhyw gwestiynau neu anfon CV, ffurflen gais neu lythyr gyflwyno hofeech i ni eu gwirio. Mae gennym lu o wybodaeth ddefnyddiol ar gael hefyd.
- Holwch eich rhwydwaith…… Pwrpas rhwydwaith yw eich galluogi i siarad ag eraill ac i ofyn am gymorth gan bobl rydych yn eu hadnabod yn barod. Gall rhwydwaith hefyd gynnig y cyfle i chi gyflwyno eich hunain i eraill a all fod o gymorth. Ffordd syml i rhoi cychwyn ar eich rhwydwaith yw i drafod eich syniadau gyda’ch teulu a ffrindiau a’u holi hwy am gyfleoedd.
- Dechrau busnes eich hun…a ydych wedi ystyried hunangyflogaeth? Mae amryw o raddedigion yn ystried yr opsiwn hwn ar ôl Graddio. Mynwch olwg ar yr awgrymiadau a gynigir gan AberPreneurs, mae’r elfen hon o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yma i helpu unrhyw un sydd a diddordeb ystyried entreprenwriaeth boed yn fyfyrwyr, greddedigion neu staff.
- Ysytyriwch os oes angen Cwrs Uwchraddedig arnoch i ddilyn gyrfa penodol.
- Mynwch olwg ar ein tudalennau Gwybodaeth Pwnc Penodol lle ceir syniadau pellach am yr hyn gellir ei wneud gyda’ch cwrs gradd.
- Ymchwiliwch gyrfaoeddABER, lle ceri llu o hysbysebion a chyfleoedd gwaith i raddedigion, heb sôn am leoliadau, cyfleoedd gwirfoddoli, swyddi rhan-amser a’n gweithgareddau diweddaraf. Fodd bynnag, dylid cofio bod y mwyafrfi o weithgareddau yn digwydd yn ystod tymor yr Hydref a chyn y Nadolig. Fel un o’n graddedigion bydd angen i chi gofrestru gyda’r system wrth ei ddefnyddio am y tro cyntaf.
- Wrth asesu Darganfod ac Ymgeisio am Waith cewch wybodaeth bellach arddod o hyd i gyfleoedd a llunio ceisiadau.
- Gwnewch ddefnydd o’r adnoddau sydd yn agored i chi – a mynwch gymorth wrth lunio CV's, Llythyrau Cyflwyno a Ffurflenni Cais, ac wrth baratoi am gyfweliadau a chanolfannau asesu.
Wrth daflu golwg ar ein tudalen Cysylltwch a Ni cewch wybodaeth bellach ar ein gwasanaethau, gan gynnwys sut i drefnu i weld Ymgynghorydd Gyrfaoedd. Mae croeso i chi alw fewn i’n gweld, ein hebostio, neu gwneud galwad ffôn. Gallwn drefnu i drafod gyda chi drwy law Skype. Cofiwch gallwch ein defnyddio am ba bynnag hyd sydd ei angen arnoch – rydym yma i’ch helpu.