Gyrfaoedd mentrus

Dwylo'n dal grawn

Oes gennych chi ddiddordeb mewn troi eich angerdd yn fwy na gweithgaredd amser hamdden? Ydych chi am weithio, ond ar eich telerau eich hun? Ydych chi’n awyddus i greu gyrfa o amgylch eich credoau, yn ogystal â'ch anghenion?

Mae darpariaeth menter y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma i roi arweiniad, cefnogaeth a chyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion sydd â diddordeb mewn gweithio'n llawrydd ac mewn entrepreneuriaeth.

Rydym yn cynnig:

    • cyfle i frysbennu mewn sesiynau un-i-un er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r adnoddau cywir
    • rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau sy'n annog entrepreneuriaeth
    • mentrau i chi gael eich syniadau allan i'r byd

I gael mwy o wybodaeth gweler isod.

Cysylltwch a ni yma: enterprise@aber.ac.uk 

Cefnogaeth unigol

  • Gall y tîm Menter ddarparu cymorth un-i-un trwy e-bost, ar Teams neu wyneb yn wyneb er mwyn rhoi’r camau nesaf defnyddiol i chi a chysylltiadau allweddol wrth symud ymlaen
  • Os ydych o dan 25 oed, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â Syniadau Mawr Cymru, menter Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi entrepreneuriaid ifanc
  • Waeth beth fo'ch oedran, gallwn hwyluso eich rhan yn Rhaglen Fentora Busnes Cymru

Rhaglen o ddigwyddiadau

 

 

‘Trefnu eich menter fach ar yr ochr’ 

Eisiau gwaith rhan-amser sy'n ffitio o gwmpas dy fywyd? Oes gen ti sgiliau crefft ac eisiau eu troi yn elw? Tyrd i'r sesiwn hon i glywed sut i droi breuddwyd yn wir!

Pryd: 30/09/2026

Ble: 

 

Golwg ar Ddiwydiant: Technoleg Greadigol 

Wyt ti wedi ystyried creu gêm fideo? Oes gen ti syniad am app? Eisiau gweithio gyda thechnolegau newydd? Tyrd i'r sesiwn 2-awr hon er mwyn dysgu gan y rhai sy'n gweithio yn y maes.

Pryd: 21/10/2026

Ble: 

 

Sut i gychwyn busnes  

Eisiau cychwyn dy fusnes dy hun? Yn y sesiwn hon, byddwn yn dy arwain trwy'r camau cyntaf o sefydlu busnes llwyddiannus.

Pryd: 28/10/2026

Ble: 

 

Golwg ar Ddiwydiant – ‘Addysg’  

Eisiau gweithio ym maes addysg? Dyma'r sesiwn berffaith i glywed am lwybrau gyrfa gwahanol ym maes addysg, o rôlau traddodiadaol i swyddi arloesol.

Pryd: 25/11/2026

Ble: 

 

Sut i ymchwilio i fusnesau/Gan adnabod cystadleuwyr busnes posibl?

Eisiau cael eich tywys trwy hanfodion gweithleoedd yn y DU yn hyderus fel myfyriwr rhyngwladol? Drwy ddeall eich hawliau a'ch cyfrifoldebau, byddwch yn dysgu sut i lwyddo’n broffesiynol.

Pryd: 2/11/2026

Ble: 

 

 

ebost: enterprise@aber.ac.uk 

Cystadlaethau a mentrau

Gwobrau menter blynyddol i fyfyrwyr

Bob haf, mae'r brifysgol yn cynnig cyfres o wobrau i fyfyrwyr sy'n dymuno dod yn hunangyflogedig a dechrau eu busnesau eu hunain.

Cystadleuaeth Gwobrau Menter 2026

Cwestiynau Cyffredin

  • Pwy gaiff wneud cais? - Gall unrhyw fyfyriwr cofrestredig wneud cais, neu grŵp o unigolion ‘eraill’ ar yr amod bod o leiaf un ohonynt yn fyfyriwr cofrestredig. (Mae myfyrwyr Dysgu Gydol Oes hefyd yn gymwys). Unrhyw un a raddiodd yn ystod y tair blynedd diwethaf, sef 2024/25/26.
  • Pa fath o syniadau busnes sy'n dderbyniol? – Unrhyw syniadau sy'n gyfreithiol ac yn weddus. Gall hyn amrywio o weithiwr llawrydd hunangyflogedig i gwmni cyfyngedig neu Fenter Gymdeithasol.
  • A all darpar ymgeiswyr gael cymorth gyda'r cais? - Gallant. Gallwn eich cyfeirio at gynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru/Busnes Cymru a fydd yn eich tywys drwy’r broses ymgeisio. Byddwn yn cynnal cyfres o weithdai yn rhan o ddigwyddiadau 'Paratoi at y Dyfodol' - Gweithio i chi’ch hun - 3-5 Mehefin, sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddatblygu eich syniad busnes.  Byddem yn argymell bod unrhyw un sy'n ystyried cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn mynychu cymaint o sesiynau â phosibl. Gweler y manylion yma: MenterAber 
  • Oes gen i derfyn amser i ddechrau'r busnes? – Nac oes. Nid oes terfyn amser ar gyfer dechrau’r busnes na gwario’r wobr ariannol os byddwch yn ennill. Fodd bynnag, po fwyaf datblygedig yw eich syniad, y mwyaf tebygol y byddwch chi'n sgorio'n dda.  
  • Os byddaf yn ennill, a oes angen imi gadw mewn cysylltiad â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd? - Oes, gofynnir i’r holl enillwyr roi diweddariad ar ôl 6 mis/12 mis ar ôl dyfarnu’r wobr ym mis Medi.
  • A oes angen i mi brofi sut wnes i wario'r wobr ariannol? - Nac oes, ni fyddwn yn archwilio eich gwariant, ac ni fyddwn yn gofyn am dderbynebau/anfonebau ar gyfer y wobr ariannol.  
Sylwch fod ceisiadau ar gyfer 2026 bellach wedi cau

Astudiaethau Achos

Maurice Akpan

Drwy fod yn rhan o gystadleuaeth Menter 2023 fe ges i lwyfan gwerthfawr i ystyried fy syniadau a meddwl yn fwy difrifol am sut i'w troi'n fusnes go iawn. 

Roedd y broses yn help i mi i fireinio fy syniad a, hyd yn oed nawr, wrth i mi weithio ar ddatblygu fy ngwefan http://mihydrosense.co.uk/, a'r ap y soniais amdano yn ystod y gystadleuaeth, bydd hynny’n fy nghynorthwyo i redeg fy menter cynhyrchu ffrwythau a llysiau’n hydroponig o fy ffôn.

Gwnaeth argymhellion y beirniaid hefyd roi i mi ddealltwriaeth ddefnyddiol am hunan-wella, chwilio am gyfleoedd, a gwthio fy syniadau ymhellach. Byddwn yn bendant yn annog pawb sydd â chynllun busnes neu syniad am fusnes i gymryd rhan yn y gystadleuaeth - mae'n brofiad gwych ac yn fan cychwyn cryf.

Maurice Akpan

 

Jamila La Malfa Donaldson

Yn rhan o’m gwaith yn paratoi fy nghais am wobr menter y myfyrwyr 'GwobrCaisDyfeisio', cymerais i ran mewn gweithdy ar-lein a ddarparwyd drwy'r rhaglen Menter. A minnau’n dod o gefndir STEM, rhoddodd y gweithdy gyflwyniad gwerthfawr i mi ar gysyniadau busnes allweddol, gan helpu i bontio’r gagendor rhwng arbenigedd technegol a mentergarwch. Roedd y siaradwyr yn ddifyr ac yn rhannu eu cyngor yn hael, ac roedd y sgyrsiau dilynol yn arbennig o ddefnyddiol wrth lunio a chryfhau fy nghais.

Fi enillodd y wobr yn y pen draw, a gwnaeth y profiad chwarae rhan bwysig wrth i mi ddatblygu'r sgiliau busnes a'r hyder sy'n dal i gefnogi fy musnes heddiw. 

 

 

Harry Warne

Mae'r gefnogaeth gan y rhaglen Menter yn fy helpu i brynu caledwedd i lunio prototeip i’m cynnyrch, yn ogystal â’m talu fy hun i weithio ar y prosiect. Cyn y rhaglen Menter, y cyfan oedd gennyf i oedd un syniad gwallgof. Pan enillais i’r wobr fe welais ei bod yn bosib cymryd syniad, a allasai fod wedi aros yn rhyw syniad gwallgof am byth, a’i droi’n rhywbeth go iawn yn y byd. Mae ffordd hir o'm blaen, ond rydw i mor ddiolchgar fy mod wedi cael cefnogaeth frwd ar gam mor gynnar.

 

Eleni's Tea Company

Roedd y gystadleuaeth Fenter yn brofiad anhygoel a wnaeth wir roi hwb i fy hyder a helpu i lunio cyfeiriad Cwmni Te Eleni. Agorodd gyfleoedd newydd, fy nghysylltu â mentoriaid cefnogol, a rhoddodd yr anogaeth i mi wthio fy syniadau yn eu blaenau.