gyrfaoeddABER a Gweithgareddau

gyrfaoeddABER yw’ch porth ar-lein i’n holl wasanaethau a gweithgareddau, a llawer mwy, megis:

  • Rhaglen o weithgareddau gan gyflogwyr – archebwch le ar y porth
  • Cyfres gynhwysfawr o weminarau datblygu gyrfa a sgiliau – archebwch le ar y porth
  • Cronfa ddata o dros 7,000 o gyfleoedd gwaith o bob lliw a llun led-led y byd
  • Apwyntiadau gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd
  • System ymholiadau i ymateb i’ch holl gwestiynau
  • Cynlluniau blwyddyn mewn gwaith, integredig ai peidio, a lleoliadau
  • Adnoddau a gwybodaeth i’ch helpu i ddewis a chynllunio’ch gyrfa

Mewngofnodwch wrth ddefnyddio’ch enw defnyddiwr a chyfrinair prifysgol. Os ydych wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth, gallwch parhau i ddefnyddio gyrfaoeddABER. Welwch ein dudalen Graddedigion am fwy o manylion ar sut i gofrestru ar gyfer gyrfaoeddABER.

Cewch fraslun byr o’r system gyrfaoeddABER ar ein fideo .

Bellach mae’r mwyafrif o’n gweithdai yn cael eu cynnig fel gweminarau, boed rheiny’n fyw neu wedi eu recordio, gan gynnwys recordiadau o bigion o’n gweminarau byw yn dilyn rhai o’r sesiynau hynny.  Gwelwch beth sydd ar gynnig isod, a weler ein cylchlythyr misol hefyd am y digwyddiadau diweddaraf.

Sesiynau gyda Chyflogwyr

Digwyddiadau Cyflogwyr

Mae mynychu digwyddiad cyflogwr yn ffordd ardderchog o gael gwybodaeth am fyd gwaith yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol y diwydiant. Mae hefyd yn gyfle amhrisiadwy i feithrin eich hyder wrth gwrdd â chyflogwyr, a datblygu sgiliau pwysig megis ymwybyddiaeth fasnachol a rhwydweithio. Mae llawer o wahanol fformatau digwyddiadau, a rhywbeth i bawb!

Os ydych yn fyfyriwr neu'n raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, ewch i adran 'digwyddiadau' gyrfaoeddABER yn rheolaidd i gael manylion am yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill.

Entreprenwriaeth a Menter

Erioed wedi ystyried cychwyn busnes eich hunan?  

Heb ystyried gallai hunan-gyflogaeth fod yn opsiwn?

Fe synnech faint o sectorau gwaith sydd bellach yn chwilio am bobl sy'n fodlon fod yn fwy creadigol yn y modd maent yn gweithio.  Mae gweithio'n llawrydd yn opsiwn naturiol erbyn hyn, ac o fewn galwediagaethau tu hwnt i'r celfyddydau creadigol a pherfformio traddodiadol, megis cyfrifiadureg, peirianneg, yr amgylchfyd, gwyddorau anifeiliaid a cheffylau, addysg, ieithoedd modern, ymchwil, a llawer mwy. 

Cewch llawer mwy o wybodaeth am weithredu mewn dull entreprenwraidd ac yn fentergarol, a'r gefnogaeth sydd ar gynnig ichi i wenud hyn, ar ein tudalen we Gyrfaoedd mentrus.

GŵylGyrfaoedd ‘26

Ymunwch â ni yn GŵylGyrfaoedd '26, pan ddaw'r Brifysgol at ei gilydd i ddathlu pob math o yrfaoedd!