Cymorth i Baratoi am Yrfa (CBY)
Mae Cymorth i Baratoi am Yrfa (CBY) yn rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth. Mae'n cynnig lefel ychwanegol o gymorth i fyfyrwyr a allai fod yn wynebu rhwystrau i sicrhau cyflogaeth ar lefel raddedig yn y dyfodol.
Fe'i cynlluniwyd ar gyfer unigolion sy'n teimlo'n ansicr ynglŷn â'u camau nesaf, efallai oherwydd diffyg hyder, dim digon o brofiad gwaith neu ddiffyg rhwydweithiau a chysylltiadau proffesiynol.
Cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi'r Ffurflen Gymorth i Baratoi am Yrfa.
Myfyrwyr sy'n Diddori
Beth ydym ni'n ei gynnig?
Mae ein tîm cyfeillgar CBY o Gynghorwyr Datblygu Cyflogadwyedd yn gweithio i'ch cefnogi gyda'ch anghenion cyflogadwyedd unigol.
Trwy CBY, cewch fynediad at:
- Hyfforddiant un-i-un wedi'i deilwra a mentora gan yr ymgynghorwyr
- Cymorth gyda CVs, ceisiadau a chyfweliadau
- Help i ddatblygu'r sgiliau proffesiynol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt
- Cyfarfodydd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant o amrywiaeth o sectorau (sesiynau Cwrdd â'r Gweithiwr Proffesiynol)
- Cyfleoedd i ymgymryd â phrofiadau Blasu Gwaith di-dâl o hyd at bythefnos, wedi'u trefnu'n unol â'ch nodau gyrfa. Cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai datblygu sgiliau
- Mynediad at gyrsiau hyfforddi grŵp (megis Cymorth Cyntaf) a chefnogaeth gyda datblygiad a hyfforddiant unigol
- Cymorth ariannol i'ch galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n datblygu eich cyflogadwyedd
Pwy sy'n cael cymryd rhan?
Mae CBY ar gael i fyfyrwyr amser llawn o'u blwyddyn gyntaf ymlaen sy'n uniaethu ag un neu fwy o'r datganiadau canlynol:
Anabledd, cyflyrau iechyd corfforol a meddyliol
- Mae gen i anabledd
- Gall enghreifftiau gynnwys bod yn fyddar neu'n drwm eich clyw, yn ddall neu'n rhannol ddall, bod â nam corfforol, neu gyflwr datblygiad
- Mae gen i gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol
- Gall enghreifftiau gynnwys gorbryder, anhwylder deubegwn, iselder ysbryd, PTSD neu sgitsoffrenia
- Mae gen i gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar waith
- Gall enghreifftiau gynnwys canser, HIV, diabetes, clefyd cronig y galon neu epilepsi
- Rydw i'n niwroamrywiol
- Gall enghreifftiau gynnwys awtistiaeth, dyslecsia, dyspracsia, anhwylder gorfywiogrwydd diffyg sylw (ADHD) neu anhwylder diffyg sylw (ADD)
Nodweddion eraill
- Rydw i'n Ddu neu Ddu Prydeinig
- Rydw i'n Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
- Mae gen i gefndir ethnig cymysg
- Rwy'n dod o gymuned Sipsiwn, Roma neu Deithwyr
- Rwy'n dod o grŵp lleiafrifoedd ethnig arall
- Rwy'n dod o grŵp lleiafrifol crefyddol
- Rwy'n ffoadur neu'n geisiwr lloches
- Rwy'n astudio fy ngradd drwy gyfrwng y Gymraeg
- Rwy'n rhan o'r gymuned LGBTQ+
- Rwy'n fyfyriwr aeddfed
Lleoliad, profiad ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol
- Fi yw'r cyntaf yn fy nheulu i fynd i'r brifysgol
- Cefais fy magu gan aelod o'r teulu yn y lluoedd arfog
- Rwy'n dod o deulu incwm isel (Ffeithiau a ffigurau aelwydydd incwm isel Llywodraeth y Deyrnas Unedig (Saesneg))
- Rwyf wedi ymddieithrio oddi wrth fy nheulu
- Rwy'n gadael gofal a/neu mae gen i brofiad gofal
- Mae gen i gyfrifoldebau gofalwr a/neu riant
- Rydw i'n gyn-filwr
- Rwy'n dal i fyw yng nghartref y teulu ac yn teithio i'r brifysgol
- Rwy'n dod o ardal lle nad oes llawer o bobl yn mynd i'r brifysgol
- Rwy'n dod o "ardal amddifadedd" yng Nghymru
Nid oes angen unrhyw dystiolaeth ffurfiol arnom, felly os ydych yn uniaethu ag unrhyw un o'r datganiadau uchod, mae'n debygol y bydd ein cefnogaeth ar gael i chi! Nid yw myfyrwyr sy'n dychwelyd i astudio ar ôl Blwyddyn Integredig lwyddiannus mewn Diwydiant neu Flwyddyn mewn Cynllun Cyflogaeth yn gymwys i gymryd rhan. Fodd bynnag, os nad aeth y flwyddyn yn dda iawn, cysylltwch â ni trwy crsupport@aber.ac.uk.
Sut mae cofrestru?
Os credwch fod un neu fwy o'r nodweddion hyn yn berthnasol i chi neu os nad ydych chi'n sicr, cwblhewch y ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb.
Cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi'r Ffurflen Gymorth i Baratoi am Yrfa.
Os oes angen help arnoch i lenwi'r ffurflen neu os byddai'n well gennych chi gofrestru mewn ffordd arall, e-bostiwch ni ar crsupport@aber.ac.uk
Ar ôl i chi gyflwyno'r ffurflen, bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi i gadarnhau eich cymhwysedd yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi ei darparu. Os ydych chi'n gymwys, cewch eich ychwanegu at ein rhestr aros i gwrdd ag un o Gynghorwyr CBY, fydd yn trafod sut y gallwn eich cefnogi orau. Yna byddwch yn cael mwy o fanylion am y camau nesaf.
E-Hwb Cyflogadwyedd
Mae'r e-Hwb Cyflogadwyedd yn adnodd i fyfyrwyr mewn prifysgolion a cholegau yng Nghymru, wedi'i anelu at grwpiau nad ydynt mor gyffredin mewn addysg uwch. Mae'n darparu lle i chi gael gafael ar wybodaeth ac offer i wella eich rhagolygon cyflogadwyedd.
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth wedi creu'r e-Hwb Cyflogadwyedd mewn partneriaeth â'r prifysgolion eraill yng Nghymru, a chyda chyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Partneriaethau
Ffyrdd o gydweithio gyda ni
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr a allai wynebu rhwystrau cyflogadwyedd ychwanegol oherwydd eu cefndir. Trwy Gymorth Paratoi am Yrfa (CBY) rydym yn darparu cymorth cyflogadwyedd wedi'i deilwra i helpu myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i feithrin y sgiliau, yr hyder a'r rhwydweithiau sydd eu hangen i lwyddo ar ôl graddio. Rydym yn gwahodd cyflogwyr, unigolion a darparwyr hyfforddiant i gydweithio â ni drwy gynnig profiadau hyblyg, ystyrlon (a gyflwynir yn rhithwir neu wyneb yn wyneb) i nerthu myfyrwyr. Yn ogystal â buddsoddi yn nyfodol myfyriwr drwy gynnig cyfle iddynt ddysgu mwy am eich sefydliad, eich rôl a'ch sector, gallech ddod o hyd i ddarpar recriwtiaid, elwa o safbwynt gwahanol a chael cyfle i ddangos eich cyfrifoldeb cymdeithasol. Isod mae rhai awgrymiadau ar sut i gymryd rhan.
- Cwrdd â Gweithiwr Proffesiynol, Un i Un: rhannwch daith eich gyrfa, eich rôl a'r sgiliau allweddol sydd eu hangen yn eich sector mewn cyfarfod un i un rhithiol neu wyneb yn wyneb gydag un o'n myfyrwyr
- Cwrdd â Gweithiwr Proffesiynol, Grŵp: rydym ni'n cydweithio â phrifysgolion eraill Cymru i gynnig cyfarfodydd grŵp cysylltiedig â diwydiant neu sgiliau penodol
- Blasu Gwaith Pwrpasol: cynnal myfyriwr am gyfnod byr (hyd at bythefnos) o brofiad gwaith di-dâl i'w helpu i ddysgu am wahanol swyddi, cwrdd â staff a magu hyder
- Blasu Gwaith Grŵp: croesawu grŵp o fyfyrwyr i ddysgu am eich sector, cwrdd â staff, a rhoi cynnig ar weithgareddau'r gweithle
- Gweithdy: cydweithio â ni i ddarparu gweithdai rhithwir neu wyneb yn wyneb ar bynciau fel rhwydweithio, cyfweliadau a sgiliau'r gweithle
Rydym yn awyddus i glywed am gyfleoedd gwirfoddoli, cynlluniau graddedigion a lleoliadau â thâl a allai wella cyflogadwyedd ein cyfranogwyr. E-bostiwch crsupport@aber.ac.uk os oes gennych chi ddiddordeb mewn cydweithio.
Gwybodaeth i staff Prifysgol Aberystwyth
Rydym yn annog atgyfeiriadau gan staff sy'n gweithio'n agos gyda myfyrwyr sy'n wynebu rhwystrau i gyflogaeth ar lefel raddedig. Mae Cymorth i Baratoi am Yrfa (CBY) yn cynnig datblygiad cyflogadwyedd wedi'i deilwra ar gyfer y rhai sy'n teimlo'n ansicr ynglŷn â'r dyfodol, boed hynny oherwydd diffyg hyder, dim digon o brofiad gwaith, neu ddiffyg rhwydweithiau proffesiynol.
I atgyfeirio, adolygwch yr adran uchod Pwy Sy'n Cael Cymryd Rhan? gyda'r myfyriwr a'u cyfeirio i gofrestru eu diddordeb. Fel arall, mae croeso i chi eu cyfeirio atom ni trwy anfon e-bost at crsupport@aber.ac.uk ac anfon copi i'r myfyriwr (CC) a byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol gyda'r myfyriwr.
*Sylwch nad oes modd inni gefnogi myfyrwyr sydd wedi cael cymorth CRS yn y blynyddoedd academaidd blaenorol.

