Polisi Gyrfaoedd Moesegol

Edrych ar y coed o flaen yr adeilad Parry Williams

Gwasanaeth gyrfaoedd canolog y Brifysgol yw Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth ac mae wedi ymrwymo i gynnal a hyrwyddo gyrfaoedd a gweithgareddau recriwtio moesegol yn unol â:

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr a graddedigion i wneud penderfyniadau gwybodus, annibynnol am eu datblygiad gyrfa. Mae ein canllawiau yn annog unigolion i ystyried opsiynau gyrfa sy'n cyd-fynd â'u gwerthoedd, eu dyheadau a'u hamgylchiadau personol, gan gynnwys ystyried a yw darpar gyflogwyr yn cyd-fynd yn foesegol a diwylliannol.

Rydym yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion ymgysylltu ag ystod amrywiol o gyflogwyr trydydd parti ar draws y portffolio llawn o gyrsiau a phynciau a addysgir ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wrth wneud hyn, rydym yn sicrhau bod ein gwasanaeth yn parhau i fod yn foesegol, yn ddiduedd, ac o ansawdd uchel i'r holl randdeiliaid mewnol ac allanol.

Er mwyn cynnal y safonau hyn, ni fydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn ymwneud â chysylltiadau â, nac yn hyrwyddo cyfleoedd gan, gyflogwyr trydydd parti lle mae'n bosibl nodi eu bod yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf hepgor isod ar sail foesegol neu amgylcheddol (Gweler Nod 3).

Mae gennym hefyd set o nodau craidd ar gyfer gyrfaoedd moesegol ar draws pedair prif thema:

Tegwch, Mynediad ac Arfer Foesegol

Nod 1 - Ymrwymiad i Gyflog Teg

Rydym yn hyrwyddo arfer gorau mewn cyflogaeth drwy sicrhau bod yr holl interniaethau â thâl a gefnogir yn ganolog yn cael eu hariannu a'u talu'n llawn ar gyfradd y Cyflog Byw Gwirioneddol.   Nid yw cyfleoedd di-dâl yn cael eu hyrwyddo oni bai eu bod wedi'u heithrio rhag deddfwriaeth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.  Rydym yn cydnabod bod cyflog teg yn hanfodol i ehangu cyfranogiad ac i sicrhau mynediad cyfartal at ddysgu seiliedig ar waith a chyfleoedd am interniaethau.

Nod 2 - Ehangu Cyfranogiad

Rydym wedi ymrwymo i agenda codi’r gwastad gan sicrhau bod cefnogaeth arbennig i weithgareddau ehangu cyfranogiad er mwyn cydnabod poblogaeth ein myfyrwyr drwy ein rhaglen Cymorth i Baratoi am Yrfa, Ffyniant, ein rhaglen ddatblygu i fenywod, a’n Rhaglen Interniaeth Llwybrau Proffesiynol.   Yn ogystal, rydym hefyd yn mynd ati i hyrwyddo cyfleoedd a gynigir gan sefydliadau fel Leonard Cheshire/Change 100, Creative Access, Employ Autism, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, 10,000 Interns Foundation a Sanctuary Graduates, ac yn ceisio gweithio gyda chyflogwyr y mae eu harferion recriwtio yn cefnogi cydraddoldeb, cynhwysiant a mynediad teg at gyfleoedd.

Ymgysylltu â Chyflogwyr a Chyfleoedd i Fyfyrwyr

Nod 3 - Cyfleoedd Moesegol

Ni fydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn ymwneud â chysylltiadau â, nac yn hyrwyddo cyfleoedd gan, gyflogwyr trydydd parti lle mae'n bosibl nodi eu bod yn bodloni meini prawf hepgor penodol am resymau moesegol ac amgylcheddol.

Yn unol â’r dull hwn, bydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn gwneud ymdrech i beidio â chydweithio na chynnal perthynas gyda'r diwydiannau / cwmnïau canlynol:

  • Cwmnïau tanwydd ffosil a restrir yn Carbon Underground 200, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud yn benodol â glo a thywod tar
  • Cwmnïau Mwyngloddio – y 100 cwmni glo ar restr y Carbon Underground 200 a'r 50 o gwmnïau mwyngloddio ar y rhestr Transition Mineral Mining 50
  • Cwmnïau tybaco a'r rhai sy'n cynhyrchu cynhyrchion yn seiliedig ar dybaco

Fodd bynnag, efallai y bydd rolau cysylltiedig ar adegau yn cael eu llwytho i ffrwd swyddi’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd gan gyflogwyr trydydd parti. Ni fyddwn yn uwchlwytho a/neu byddwn yn gwrthod cymeradwyo unrhyw un o'r rolau hyn lle mae angen cymeradwyaeth â llaw. Bydd myfyrwyr yn dal i allu trafod y rolau hyn yn ystod cyfweliadau arweiniad a gyda chynghorwyr gyrfaoedd, lle mae bod yn ddiduedd wedi’i gontractio.

Nod 4 - Gweithio'n Ddiogel

Mae'r holl gyfleoedd sy'n dod yn uniongyrchol drwy ein prif ddarparwr trydydd parti o swyddi gwag, ‘Target Connect’, wedi cael eu sgrinio a'u cadarnhau fel rhai dilys Mae cyfleoedd uniongyrchol yn cael eu gwirio â llaw o ran eu dilysrwydd. Ochr yn ochr â hyn mae ein ffrwd uniongyrchol yn cael ei gwirio’n rheolaidd er mwyn hidlo’r cwmnïau sydd wedi'u heithrio.   Rydym hefyd yn gwirio amgylcheddau gwaith i sicrhau eu bod yn ddiogel i'n myfyrwyr a'n graddedigion, bod cyflogwyr yn cadw at y gyfraith cyflogaeth bresennol, a bod cyfleoedd yn alinio â’n hymrwymiad i hyrwyddo arferion cyflogaeth moesegol o’r radd uchaf. Mae gennym gytundeb tair rhan ar gyfer lleoliadau allanol a drefnir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.

Arweiniad Diduedd, Asiantaeth Myfyrwyr a Thryloywder

Nod 5 - Cymhwysedd Digidol

Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion i ddeall a gwneud defnydd cyfrifol, gwybodus o ddeallusrwydd artiffisial (DA) ac offer digidol yn eu datblygiad gyrfa. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo defnydd moesegol, tryloyw a phriodol o dechnolegau o'r fath mewn gweithgareddau gan gynnwys ystyried gyrfaoedd, chwilio am swyddi, paratoi ceisiadau a datblygu sgiliau, wrth annog ymwybyddiaeth feirniadol o'u cyfyngiadau, risgiau a rhagfarnau posibl.

Nod 6 - Trafodaeth Adeiladol

Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cydnabod y gall myfyrwyr, staff a chyflogwyr fod â safbwyntiau moesegol gwahanol am sefydliadau a sectorau sy'n ymwneud â'n gweithgareddau gyrfaoedd. Rydym yn cefnogi deialog barchus ac ymgysylltu beirniadol, tra'n sicrhau bod digwyddiadau a gweithgareddau gyrfaoedd yn digwydd mewn amgylcheddau sy'n ddiogel, yn gynhwysol ac yn groesawgar i bob cyfranogwr, ac y gellir mynegi safbwyntiau gwahanol yn adeiladol a heb aflonyddu na gwahaniaethu.

Cynaliadwyedd a Chyfrifoldeb Cymdeithasol

Nod 7 - Canlyniadau Cadarnhaol

Rydym yn mynd ati i hyrwyddo rolau sy'n gwella cynaliadwyedd ac yn cyfrannu at ganlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol. Ein nod hefyd yw sicrhau bod nifer o'n hymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â swyddi yn hyrwyddo rolau, digwyddiadau a chyfleoedd eraill a gynigir gan sefydliadau sy'n canolbwyntio ar greu cymunedau a gyrfaoedd cynaliadwy.

Nod 8 - Hyrwyddo Cynaliadwyedd

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd PA wedi ymrwymo i fynd ati i ariannu mentrau cyflogadwyedd sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.  Mae ein darpariaeth o fewn y cwricwlwm a’n digwyddiadau a gyflwynir yn ganolog yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwn trwy gynnig cyfleoedd ystyrlon i fyfyrwyr ystyried y dimensiynau moesegol a’r rhai sy’n seiliedig ar werthoedd o ran cynllunio gyrfa, sy'n sail i bob agwedd ar ein gwaith.

Mae ein cystadleuaeth Cychwyn Busnes i Fyfyrwyr yn gofyn i ymgeiswyr ddangos aliniad ag un neu fwy o feysydd thematig: Dyfodol cynaliadwy, Gwasanaethu'r Gymuned Leol, a Thyfu, Cynnal a Meithrin y Tir. Yn yr un modd, mae'r her Hacathon wedi'i strwythuro o amgylch Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gyda thimau o fyfyrwyr yn datblygu syniadau sy'n ymateb i un o saith o amcanion lles y Ddeddf.

Hefyd, rydym yn cefnogi interniaethau myfyrwyr a ariennir yn ganolog sy'n ymgorffori ffocws clir o ran cynaliadwyedd.
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd PA wedi ymrwymo i fynd ati i ariannu gweithgareddau sy’n ymwneud â chyflogadwyedd ac sy’n cefnogi cynaliadwyedd yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.  Er enghraifft, mae ein Gŵyl Yrfaoedd flynyddol yn cynnwys gweithdai sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.

Rydym hefyd yn bartneriaid allweddol yn y broses o ddylunio a chyflwyno Cynhadledd Cynaliadwyedd flynyddol Myfyrwyr/Staff Prifysgol Aberystwyth a gynhelir yn yr Hydref, gan sicrhau bod ystod o gyflogwyr o'r sector yn cael eu cynrychioli.   
Rydym yn cefnogi interniaethau i fyfyrwyr a ariennir yn ganolog sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.

Nod 9 - Cyfrifol O Ran Yr Amgylchedd

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau mai nwyddau cynaliadwy fydd gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ar gyfer ein marchnadoedd targed mewn gweithgareddau hyrwyddo, er enghraifft nwyddau wedi'u gwneud o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu; a gofynnwn i drydydd partïon sicrhau bod eu nwyddau ar gyfer digwyddiadau ar y campws hefyd yn gynaliadwy lle bynnag y bo modd.  
Mae'r holl arlwyo a lluniaeth ar gyfer digwyddiadau’r gwasanaeth Gyrfaoedd yn cael eu prynu trwy Wasanaethau Croeso’r Brifysgol. Mae hyn yn sicrhau aliniad â Chynllun Gweithredu Cynaliadwyedd y Brifysgol, sy'n hyrwyddo arferion amgylcheddol-gyfrifol ac ymrwymiad i fod yn garbon-niwtral.

Nod 10 - Gweithio Di-bapur

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn gweithredu swyddfa ddi-bapur, gan argraffu pryd bynnag y bo modd ar bapur wedi’i ailgylchu yn unig a hynny pan mae gan fyfyrwyr ofyniad addasu rhesymol, os papur yw'r dull gorau o hysbysebu gwasanaeth hanfodol i fyfyrwyr neu os oes cais wedi'i wneud am dystiolaeth ddogfennol.

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, sy'n cael ei redeg yn annibynnol gan y Brifysgol ac nid fel rhan o unrhyw wasanaeth gyrfaoedd cyfunol, wedi ymrwymo i dryloywder er mwyn hyrwyddo gwelliant parhaus trwy adborth. Mae manylion cyswllt llawn staff y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, gan gynnwys enw, rôl a chyfeiriad e-bost i’w gweld ac yn hawdd eu cael ar dudalennau gwe’r Gwasanaeth Gyrfaoedd.

Os oes gennych ymholiadau ynglŷn â’r polisi hwn, cysylltwch â Bev Herring, Pennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, ar 01970 622378 neu bch@aber.ac.uk

Ar hyn o bryd rydym yn cydweithio â’r darparwyr cyflogwyr trydydd parti canlynol i gynnig gwasanaethau: targetconnect.

Cymeradwywyd ym mis Mai 2026 gan yr Athro Iain Barber, Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran gyda chyfrifoldeb ar lefel y Weithrediaeth am yr Amgylchedd a Sero Net. Caiff y polisi hwn ei adolygu’n flynyddol.