Myfyrwyr ôl-raddedig

Mae llu o gyfleoedd i astudio drwy’r Gymraeg ar lefel ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Ceir modiwlau cyfrwng Cymraeg ar gynlluniau ymarfer proffesiynol, megis hyfforddiant cychwynnol i athrawon a'r Cynllun Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol.  Mae nifer gynyddol o fyfyrwyr PhD a MPhil yn ymgymryd â’u hymchwil drwy’r Gymraeg ac mae modiwlau hyfforddiant ymchwil a goruchwyliaeth ar gael drwy’r Gymraeg yn y celfyddydau, dyniaethau, gwyddorau a’r gwyddorau cymdeithasol. Mae'r Brifysgol yn awyddus i ddatblygu ymchwil cyfrwng Cymraeg rhagorol drwy ei chynllun ysgoloriaethau ymchwil AberDoc. Cynigir ysgoloriaethau ymchwil  Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd i ymgymryd ag ymchwil doethurol drwy'r Gymraeg. Mae bwrsariaethau'r llywodraeth ar gael i fyfyrwyr ar gynlluniau meistr sy'n astudio 40 credyd neu'n fwy drwy'r Gymraeg.