Q596 Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol Tystysgrif - Diploma - MA
Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol
Dyma gwrs uwchraddedig unigryw sydd yn edrych ar bob agwedd ar waith y cyfieithydd proffesiynol yn y Gymru gyfoes. Bydd y cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y byd cyfieithu gan roi cyflwyniad iddynt i’r diwydiant yn ogystal â chyfle i ddilyn diddordebau unigol ac arbenigo mewn meysydd megis cyfieithu cyffredinol, cyfieithu deddfwriaethol, technoleg cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnig i fyfyrwyr sydd newydd raddio ac yn awyddus i ddilyn cwrs uwchraddedig ym maes cyfieithu, ond mae’r cwrs hefyd yn cynnig hyfforddiant ychwanegol i’r rhai hynny sydd eisoes yn gyfieithwyr ac yn dymuno datblygu’n broffesiynol gan ennill cymhwyster cydnabyddedig ychwanegol wrth wneud hynny.
Cwrs i bwy? 
- myfyrwyr sydd newydd raddio mewn pwnc perthnasol
- unigolion sy’n awyddus i ddechrau ym maes cyfieithu
- cyfieithwyr profiadol sy’n awyddus i gael cymhwyster pellach, datblygu’n broffesiynol neu arbenigo ymhellach mewn agwedd benodol ar gyfieithu
Mae’r cwrs yn addas ac yn cynnig hyfforddiant felly i fyfyrwyr o bob cefndir, boed yn gyfieithwyr sydd eisoes wedi camu i’r byd gwaith neu’n ddarpar gyfieithwyr sydd yn awyddus i gymryd y cam cyntaf hwnnw.
Tystysgrif / Diploma / MA 
Un o fanteision mawr y cwrs arbennig hwn yw ei fod yn cynnig llwybrau hyblyg.
- Tystysgrif 60 credyd
- Diploma 120 credyd
- MA 180 credyd
Gellir astudio ar gyfer cymhwyster Tystysgrif yn unig, neu barhau i gwblhau Diploma ac yna cymhwyster MA llawn. Gellir astudio’n llawn amser neu’n rhan amser, a gellir cofrestru ar gyfer cwblhau modiwlau unigol.
Cwricwlwm
Ceir ystod eang o fodiwlau megis
CYM5110 - Datblygu Sgiliau Cyfieithu
CYM5210 - Cyfarpar Cyfieithu
CYM5310 - Portffolio Cyfieithu Cyffredinol
CYM5410 - Portffolio Cyfieithu Arbenigol
CYM5720 - Meistroli Mynegiant
CYM5820 - Cyfieithu Creadigol Rhyngwladol
CYM5520 - Cyfieithu ar Waith
CYM6110 - Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd
CYM6420 - Cyfieithu ar y Pryd: arfer ac ymarfer
CYM6210 - Uwch Sgiliau Golygu
CYM6310 - Hanfodion Isdeitlo
CYM5620 - Prosiect Arbenigol
Dyma fodiwl e-ddysgu newydd sbon a gynigir gyntaf erioed yn ystod sesiwn academaidd 2020/21 - bydd yn ddelfrydol fel rhan o raglen DPP, neu fel ffordd o fireinio eich sgiliau ieithyddol. Bydd y cyfan ar gael o gysur eich cartref:
CYM6510 - Ymarfer Cyfieithu a Golygu
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a chynhelir gweithdai ymarferol, sesiynau wyneb yn wyneb, yn ogystal â sesiynau e-ddysgu wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cyfieithu. Rhoddir cefnogaeth lawn ac adborth rheolaidd i fyfyrwyr wrth iddynt gwblhau asesiadau a llunio portffolio cyfieithu.
Profiad gwaith
Law yn llaw â’r gwaith o ddysgu crefft y cyfieithydd yn ei chyflawnder, ceir cyfle i gael profiad ymarferol amhrisiadwy yn y gweithle. Cwblhau cyfnod byr o brofiad gwaith ac efelychu amodau gwaith go iawn y cyfieithydd proffesiynol yw'r ffyrdd gorau o ddatblygu sgiliau cyfieithu uwch a meithrin cysylltiadau hanfodol ar gyfer y dyfodol.
Partneriaid
Prif bartneriaid y cwrs yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ceir nifer o bartneriaid hanfodol ychwanegol a cheir cydweithio agos â’r rhain wrth iddynt gyfrannu at y cwricwlwm, cyflwyno sesiynau a chynnig lleoliadau gwaith. Mae’r partneriaid hynny’n cynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant cyfieithu a gweithleoedd, megis Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cyfieithwyr llawrydd, arbenigwyr iaith a golygyddion profiadol.
Sut i ymgeisio
Bydd angen gwneud cais ar gyfer y cwrs Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol drwy gwblhau ffurflenni cais Prifysgol Aberystwyth. Mae modd gwneud cais ar-lein neu lawrlwytho’r ffurflenni. Ceir y manylion i gyd ar wefan Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion Prifysgol Aberystwyth.
Gofynnir am radd gyntaf mewn pwnc perthnasol a rhaid cwblhau prawf iaith er mwyn sicrhau rhuglder ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Ffioedd
Gweler y tudalennau perthnasol ar gyfer ffioedd dysgu cyfredol.
Digwyddiadau
Cynhelir llawer o weithgareddau a sesiynau blasu mewn nifer o ardaloedd yn ystod yr wythnosau nesaf. Dyma gyfle gwych i gael gwybodaeth uniongyrchol am y cwrs a thrafod yr holl bosibiliadau sydd ynghlwm wrtho. Mae’r sesiynau’n gwbl agored ac mae croeso i unrhyw un alw heibio i gael paned a sgwrs. Yn ystod y cyfnod gofid Covid, rydym yn cynnal #YrAwrGyfieithu ar ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol @CyfieithuCC