Bŵtcamp DA 2026

13-17 Ebrill 2026 ym Mhrifysgol Aberystwyth

GWNEUD CAIS

Trosolwg

Mae’r bŵtcamp DA hwn (a enwyd gynt yn Ysgol Haf DA) yn ddigwyddiad rhyngddisgyblaethol wyneb yn wyneb sydd wedi'i gynllunio ar gyfer ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn casglu gwybodaeth newydd o'u setiau data. Trwy weithdai rhyngweithiol ac ymarferol, bydd cyfranogwyr yn meithrin gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol am ddulliau sy'n cael eu gyrru gan DA a sut y gellir eu cymhwyso i hyrwyddo eu prosiectau.

Mae'r bŵtcamp wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sydd ag ychydig iawn o brofiad o DA. Anogir myfyrwyr ymchwil uwchraddedig, ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a gweithwyr proffesiynol yn arbennig i ymgeisio. Bydd y rhai sydd â set ddata mewn llaw neu sydd wrthi’n cynhyrchu un yn cael blaenoriaeth yn y broses ymgeisio.

Bydd y bŵtcamp yn cefnogi mynychwyr i:

  1. Lunio cwestiwn neu amcan ymchwil wedi'i bersonoli
  2. Datblygu llwybrau modelu a chloddio data
  3. Dadansoddi a dehongli canlyniadau
  4. Rhannu canfyddiadau
  5. Deall sut i ddefnyddio DA yn gyfrifol

Bydd y mynychwyr hefyd yn cael y cyfle i:

  1. Ennill profiad o gydweithio ag arbenigwyr y tu allan i'w disgyblaeth
  2. Datblygu safbwyntiau newydd ar ddatrys problemau gan ddefnyddio dulliau ffurfiol
  3. Ystyried goblygiadau moesegol defnyddio DA mewn ymchwil a datblygu cynnyrch.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gymwys i wneud cais am le mewn gweithdy dwys dilynol sy'n canolbwyntio ar gynhyrchu llawysgrif i'w chyhoeddi.

Cynnwys

Mae hwn yn fŵtcamp  wyneb yn wyneb  wedi'i gynllunio i'ch tywys trwy'r broses o ddefnyddio DA i helpu i ddatrys eich problem benodol. Bydd yr wythnos yn cynnwys cymysgedd o brif areithiau, darlithoedd, gweithdai rhyngweithiol, a goruchwyliaeth, gan arwain at gyflwyniadau gan fynychwyr. Ar gyfnodau allweddol byddwn yn rhannu'n ffrydiau sy'n canolbwyntio ar anghenion mynychwyr.

Diwrnod 1: Diffinio eich problem

Diwrnod 2: Gwybod eich data

Diwrnod 3: Adeiladu eich model

Diwrnod 4: Gwerthuso eich canlyniadau

Diwrnod 5: Siarad am eich canfyddiadau

Dyddiadau Pwysig

Eitemau Dyddiadau
Dyddiad cau i gofrestru’n gynnar 31 Rhagfyr 2025
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau gan ymgeiswyr rhyngwladol 
(os oes angen llythyr o gefnogaeth arnoch ar gyfer eich cais am fisa) 
5 Ionawr 2026
Hysbysiad canlyniad ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol 12 Ionawr 2026
Ceisiadau’n cau 7 Chwefror 2026 
Hysbysiad canlyniad 16 Chwefror 2026   
Dyddiad cau talu ffioedd 23 Chwefror 2026
Cyflwyniad i hyfforddiant Python Mawrth 2026 (dyddiad i'w gadarnhau)
Digwyddiad Bŵtcamp DA 13 - 17 Ebrill 2026

 

YMWADIAD 1: Mae gennym nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau i'w cynnig ar gyfer ceisiadau o ansawdd uchel. Cyflwynwch eich cais erbyn 31 Rhagfyr 2025, os hoffech gael eich ystyried ar eu cyfer. 

YMWADIAD 2: Os na fydd ffioedd yn cael eu talu erbyn y dyddiad cau ar gyfer talu, bydd eich lle yn cael ei gynnig i unigolyn arall.

Y Prif Siaradwyr

Dr Azam Hamidinekoo
Cyfarwyddwr Cyswllt yn AstraZeneca

Mae Dr Azam Hamidinekoo yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn AstraZeneca, sy'n arbenigo mewn dadansoddi delweddau a data.  Gyda gradd PhD mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Aberystwyth, mae ganddi dros ddegawd o arbenigedd mewn gwyddor data, wedi'i gymhwyso’n arbennig i ddelweddau meddygol.  Yn dilyn cymrodoriaeth ôl-ddoethurol yn y Sefydliad Ymchwil Canser (ICR), mae hi wedi canolbwyntio ar ddatblygu datrysiadau gweld cyfrifiadurol newydd mewn histopatholeg ddigidol o fewn AstraZeneca.  Fel rhan o'r tîm Patholeg Glinigol a Gwyddorau Diogelwch, mae Dr. Hamidinekoo yn cydweithio'n agos ag arbenigwyr amrywiol i ddadansoddi delweddau, optimeiddio prosesau, a gwella effeithlonrwydd prosiectau trwy ddefnyddio offer cyfrifiadurol uwch.  Mae'r ymdrechion hyn yn cefnogi penderfyniadau gwybodus wrth asesu cyffuriau o ran eu diogelwch, eu heffeithiolrwydd a’u natur wenwynig.

Dr Faraz Malik Awan
Uwch Wyddonydd Data Cerbydau Trydan yn Zenobē

Mae Dr. Faraz Malik Awan yn Uwch Wyddonydd Data Cerbydau Trydan yn Zenobē, lle mae'n defnyddio sgiliau dysgu peirianyddol a gwyddor data uwch i wella perfformiad ac effeithlonrwydd fflydoedd cerbydau trydan. 

Yn Zenobē, arweinydd ym maes trawsnewid ynni a thrydaneiddio fflyd Cerbydau Trydan y DU, mae Faraz yn cyfrannu at brosiectau sy'n eistedd ar groestoriad rhwng gwyddor data, datgarboneiddio trafnidiaeth, ac arloesi systemau ynni. Mae'n gweithio'n agos gyda gweithredwyr fflyd, peirianwyr, a thimau llwyfannau data i drawsnewid data telemateg crai yn fewnwelediadau gweithredadwy sy'n cefnogi trafnidiaeth gynaliadwy, gwell perfformiad gweithredol, a defnydd craffach o seilwaith ynni.
Yn flaenorol, gweithiodd Faraz yn yr Urban Big Data Centre, Prifysgol Glasgow, yn cymhwyso gwyddor data i ymchwil symudedd a thrafnidiaeth. Roedd ei brosiectau’n amrywio o fodelu ymddygiad teithio i ddadansoddeg geoleoli, gyda ffocws cryf ar ddatblygu meddalwedd ffynhonnell agored.
Mae ei ddiddordebau proffesiynol presennol mewn dadansoddeg ynni, hyblygrwydd ac arloesi digidol yn y sector trafnidiaeth, gan helpu i gyflymu'r newid tuag at ddyfodol sero-net.

Dr Paul Wright
Uwch Wyddonydd Dysgu Peirianyddol ym Mhrifysgol Caerwysg

Mae Paul Wright yn Beiriannydd Meddalwedd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerwysg. Mae'n cymhwyso peirianneg feddalwedd a dysgu peirianyddol i fynd i'r afael â heriau gwyddonol, gan gydweithio ag ymchwilwyr, y llywodraeth a'r diwydiant i ddarparu datrysiadau DP atgynyrchadwy a gweithredol. Mae ei ymchwil academaidd yn canolbwyntio ar Helioffiseg a rhagolygon tywydd y gofod, gan ddatblygu llwybrau dysgu peirianyddol a phrosesu data o'r dechrau i'r diwedd sy'n gwella dibynadwyedd a pharodrwydd DA ar gyfer cymwysiadau gwyddor y gofod.

Yn flaenorol, roedd Paul yn Beiriannydd Data Ymchwil yn Sefydliad Astudiaethau Uwch Dulyn, Peiriannydd Dysgu Peirianyddol mewn diwydiant, Cymrawd Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Stanford, a Mentor Craidd yn Labordy Datblygu Ffiniau NASA, lle arddangoswyd gwaith ei dîm gan Google Cloud a'i gyflwyno yn NeurIPS. Mae ganddo PhD mewn Ffiseg o Brifysgol Glasgow, lle ymchwiliodd i'r broblem gwresogi coronaidd.

Dr Phillip H. Alvarez
Pennaeth Mentrau a Chynhyrchion xFoundry

Dr Phillip H. Alvarez yw Pennaeth Mentrau a Chynhyrchion xFoundry, lle mae'n arwain partneriaethau strategol a rhaglenni arloesi wedi'u gyrru gan DA sy'n cysylltu asiantaethau'r llywodraeth, cwmnïau Fortune 500, a sefydliadau ymchwil.  Gyda PhD mewn Bioffiseg o Brifysgol Maryland, mae Dr. Alvarez yn dod ag arbenigedd dwfn mewn cymhwyso deallusrwydd artiffisial i ddarganfyddiadau gwyddonol ar draws gwahanol feysydd gan gynnwys systemau gofod, gofal iechyd, gweithgynhyrchu uwch, ac ynni.

Mae ei waith yn rhychwantu'r cylch bywyd llawn o ran datblygu DA, o’r gwaith ymchwil i’r gweithredu, gan gynnwys mentrau llwyfannau rheoli gwybodaeth DA sy'n defnyddio modelau iaith wedi’u mireinio gan gynnwys LLMs a GraphRAG, edge AI solutions ym meysydd diogelwch a gofal iechyd, a systemau awtomataidd ar gyfer monitro trychinebau.  Mae Dr Alvarez wedi arwain ymchwil a ariennir gan Y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Iechyd (NIH), Y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol (NSF), a Swyddfa Ymchwil Wyddonol Llu Awyr yr Unol Daleithiau, ac mae'n chwarae rhan weithredol wrth gydweithio â NASA, labordai cenedlaethol, a chwmnïau technoleg blaenllaw.  Mae'n cyfuno dyfnder technegol mewn dysgu peirianyddol gyda phrawf o arbenigedd wrth drosglwyddo ymchwil DA arloesol i gymwysiadau ymarferol, y gellir eu hehangu ar draws timau rhyngddisgyblaethol.

Dr Roger Santer
Uwch Ddarlithydd mewn Swoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Dr Roger Santer yn Uwch Ddarlithydd mewn Swoleg yn Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Nod ei ymchwil yw deall mecanweithiau niwral ymddygiad mewn pryfed, ac i fanteisio ar y mecanweithiau hynny i greu ffyrdd gwell o reoli plâu pryfed a fectorau clefydau. Mae wedi defnyddio DA i ragdybio cysylltiadau rhwng signalau derbynyddion synhwyraidd ac ymatebion ymddygiadol mewn ystod o bryfed, gan ddarparu dirnadaethau a all wella rheoli plâu.

 

Dr Sam Jones
Darlithydd Seicoleg Datblygiad ym Mhrifysgol Bangor

Cwblhaodd Sam ei radd PhD a'i waith ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caerhirfryn ac mae bellach yn ddarlithydd seicoleg datblygiad ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei waith yn cynnwys defnyddio modelu cyfrifiadurol i ddeall tarddiad gwahaniaethau unigol mewn datblygiad niwrowybyddol.

 

Dr Tirso Gonzalez Alam
Darlithydd Niwrowyddoniaeth Wybyddol ym Mhrifysgol Bangor

Mae Tirso yn Ddarlithydd Niwrowyddoniaeth Wybyddol ym Mhrifysgol Bangor. Nod ei ymchwil yw deall trefniadaeth rhwydweithiau graddfa-fawr y cortecs cerebrol a sut mae patrymau o wahaniaethau hemisfferig o fewn yr hierarchaeth hon yn arwain at systemau gwybyddol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y ffordd rydym yn deall agweddau cymhleth ar ystyr. Mae'n astudio’r maes hwn trwy edrych ar ffenomenau naturiolaidd fel hiwmor, eironi a choegni. I ymchwilio i hyn, mae ei waith yn defnyddio cyfuniad o fMRI, tasgau naturiolaidd, dadansoddi cysylltiadau a modelau dysgu peirianyddol.

Hyfforddodd Tirso yn wreiddiol fel niwroseicolegydd clinigol ym Mhrifysgol Ymreolaethol Genedlaethol Mecsico, lle taniodd ei waith gyda chleifion strôc ac epilepsi ei ddiddordeb mewn swyddogaethau gwybyddol ochrol. Derbyniodd ei PhD mewn Niwrowyddoniaeth Wybyddol a Niwroddelweddu o Brifysgol Efrog, lle bu'n gweithio gyda'r Athrawon Beth Jefferies a Jonny Smallwood. Mae hefyd yn eiriolwr angerddol dros wyddoniaeth agored, piblinellau trylwyr ac atgynhyrchadwy a rhannu data.

Pwyllgor trefnu

Mae Dr Charlie Harrison yn beiriannydd meddalwedd ymchwil ar gyfer AIBIO-UK, wedi'i leoli ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei radd PhD mewn bioleg gyfrifiadurol a biowybodeg. Mae wedi gweithio'n helaeth yn y sectorau masnachol ac elusennol, fel ymgynghorydd ac fel Arweinydd Technegol ar DA er Effaith yn y diwydiant symudol.

 

 

 

 

Mae Cory Thomas wedi gweithio fel Peiriannydd Meddalwedd Ymchwil am y tair blynedd diwethaf ac mae'n fyfyriwr PhD ôl-viva sy'n arbenigo mewn gweld cyfrifiadurol ar gyfer ymchwil canser y fron. Mae hefyd wedi cyfrannu at brosiectau sy'n cynnwys modelau iaith mawr ar gyfer archifau hanesyddol, yn ogystal â chymwysiadau meddygol megis dadansoddi taflod hollt. Ar ben hynny, mae gan Cory ddwy flynedd o brofiad yn y diwydiant fel datblygwr DA.

 

Dr Chuan Lu Mae Dr Chuan Lu yn Uwch Ddarlithydd mewn Biowybodeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn y DU, a derbyniodd PhD mewn Peirianneg Drydanol o KU Leuven, Gwlad Belg.  Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar DA ym meysydd bioleg a meddygaeth, gan gynnwys modelu rhagfynegol, dulliau sy'n seiliedig ar waith graff, a dadansoddi integreiddiol i gefnogi ymchwil fiofeddygol ac ymarfer clinigol.  Mae hi wedi arwain prosiectau sy’n cynnwys graffiau gwybodaeth iechyd personol, dadansoddi data clinigol, darganfod biofarcwyr, a systemau biofanc ffynhonnell agored, ac mae hefyd yn cymhwyso dysgu peirianyddol i ffenoteipio planhigion, i hyrwyddo darganfyddiadau genetig a bridio cnydau.

 

Mae Harshita Gandhi yn Gymrawd Ôl-ddoethurol yn yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar astudio ein seren leol, yr Haul, gyda phwyslais ar ddeall y mecanweithiau ffisegol sy'n sbarduno ffrwydradau solar a gwella eu rhagolygon ar y Ddaear gan ddefnyddio Dysgu Peirianyddol.  Cymerodd ran yn yr Ysgol Haf DA gyntaf yn 2023 fel mynychwr ac roedd hi'n credu bod yr ysgol haf yn werthfawr ac yn ysgogol. Yn ystod yr ysgol, dechreuodd gydweithio â Cory Thomas a arweiniodd yn ddiweddarach at gyhoeddiad a adolygwyd gan gymheiriaid fel rhan o'i gwaith PhD, gan ddangos sut y gall yr ysgol sbarduno partneriaethau ymchwil effeithiol.

 

Mae James Strong yn Beiriannydd Meddalwedd Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei rôl yn cynnwys darparu datrysiadau sy'n cael eu gyrru gan DA ar draws prosiectau ymchwil rhyngddisgyblaethol. Mae ei gefndir ymchwil mewn deallusrwydd artiffisial bio-ysbrydoledig, gyda ffocws ar sut y gall systemau biolegol lywio dulliau arloesol o lywio a datrys problemau.

 

 

Mae gan Dr Otar Akanyeti  radd BSc mewn Peirianneg Electronig (Prifysgol Hacettepe) ac MSc mewn Systemau Mewnosodedig a Roboteg (Prifysgol Essex). Canolbwyntiodd ei PhD ar ddysgu robotiaid trwy arddangos o dan oruchwyliaeth yr Athro Ulrich Nehmzow ym Mhrifysgol Essex. Ymchwiliodd i ddulliau ffurfiol o ddatblygu rheolyddion ar gyfer robotiaid symudol gan ddefnyddio dysgu peirianyddol a dulliau adnabod systemau. Ar ôl ei PhD, ymunodd â grŵp ymchwil Dr Paolo Fiorini ym Mhrifysgol Verona i weithio ar brosiect FILOSE EU-FP7, a oedd yn rhyngwynebu bioleg a pheirianneg i ddatblygu robot pysgod bio-ysbrydoledig gyda llinell ochrol artiffisial. Arweiniodd ei ddiddordeb cynyddol mewn agweddau biolegol symudiad a synhwyro at ymuno â labordy Dr James C. Liao yn Sefydliad Whitney ar gyfer Bioleg y Môr ym Mhrifysgol Florida. Yno, ymchwiliodd i'r mecanweithiau biomecanyddol, hydrodynamig a niwral sy'n sail i ymsymud pysgod mewn llif cyson a chythryblus ar gyfer symudiad effeithlon a chipio egni a threfniadaeth y system llinell ochrol o safbwynt synhwyro dosbarthedig. Ymunodd â'r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth fel Darlithydd yn 2017 a daeth yn Uwch Ddarlithydd yn 2022. Yn Aberystwyth, ehangodd ei bortffolio ymchwil i roboteg wybyddol a niwrowyddoniaeth (llywio ar fap ac yn seiliedig ar awgrymiadau) ac iechyd dynol (rheoli clefydau cronig gan ddefnyddio technoleg a deallusrwydd artiffisial).

Mae Dr Wayne Aubrey yn Ddarlithydd mewn Peirianneg Meddalwedd ac yn fiowybodegydd gyda phrofiad o ddatblygu llwybrau dadansoddi data wedi'u gyrru gan DA. Mae ei ymchwil yn rhychwantu anodi genomau, metagenomeg a bioleg gyfrifiadurol. Roedd yn gyfrannwr allweddol i'r prosiect arloesol, Robot Scientist - y peiriant cyntaf i ddarganfod gwybodaeth wyddonol newydd yn annibynnol, a enwyd yn un o 10 darganfyddiad gwyddonol gorau’r Time Magazine yn 2009. Mae Wayne yn angerddol am ymchwil ryngddisgyblaethol ac yn mwynhau gweithio ar y rhyngwyneb rhwng arbrofion labordy gwlyb a bioleg gyfrifiadurol.

 

 

 

Mae Dr Yasir Saleem yn Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys systemau trawsgludo deallusol, deallusrwydd artiffisial, Rhyngrwyd Pethau, dinasoedd clyfar a rhwydweithiau diwifr.  Mae'n Uwch Aelod o IEEE. Mae ganddo 1 patent a thros 35 o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion blaenllaw a chynadleddau rhyngwladol. Mae'n cymryd rhan weithredol mewn Pwyllgor Rhaglen Dechnegol (TPC) o sawl cynhadledd ryngwladol ac mae'n adolygydd rheolaidd o brif gyfnodolion gwahanol. 

 

Gwneud Cais

Llenwch y ffurflen YMA i gyflwyno'ch cais i gymryd rhan ym Mŵtcamp DA 2026.

Tystebau

Rydym yn falch bod Bŵtcamp DA Aberystwyth wedi cael adborth cadarnhaol gan gyfranogwyr flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydym yn gwrando o ddifrif ar farn ein mynychwyr ar yr hyn rydyn ni'n ei wneud ac yn defnyddio'r hyn maen nhw'n ei ddweud wrthym i barhau i wella a datblygu bob blwyddyn. Dyma beth oedd gan rai o'n cyn-ddysgwyr i'w ddweud.

"Ar y cyfan, roedd y profiad hwn yn hynod werthfawr - roedd bod mewn amgylchedd cefnogol sy'n cyfuno gwaith ymarferol gyda dadansoddi data a dysgu peirianyddol, ynghyd â datblygu'r ddamcaniaeth sylfaenol, wedi cael effaith sylweddol ar fy nysgu. Byddwn i wrth fy modd yn cymryd rhan mewn mwy o raglenni fel hyn gan y tîm ac unrhyw raglenni ychwanegol y gallai'r tîm eu cynnal."

"Mae'n debyg mai hwn oedd yr hyfforddiant/DPP gorau rydw i wedi'i wneud mewn dros ddegawd o weithio yn Aber. Mae cael cymorth arbenigol gyda chymhwyso'r deunydd i'n setiau data ein hunain yn gyfle mor anhygoel."

"I mi roedd yn gyflwyniad gwych i ddulliau dysgu peirianyddol / DA a'r posibiliadau sydd ar gael i mi fel ymchwilydd. Roedd hefyd yn wych cwrdd â'r hyfforddwyr ac ymchwilwyr eraill."

"Fe wnes i fwynhau'r gweithdai archwilio a phrosesu data yn fawr. Mae gweithredu modelau yn weithredol wedi fy helpu i ddeall sut mae DA yn gweithio’n ymarferol."

Digwyddiadau Blaenorol

Ar drothwy’r 5ed digwyddiad, mae Bŵtcamp DA Aberystwyth yn adeiladu ar raglen gynyddol o ddysgu ymarferol, cydweithredol. Mae ein digwyddiadau blaenorol wedi dod ag ymchwilwyr, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ynghyd o sawl disgyblaeth i ystyried sut y gall deallusrwydd artiffisial yrru eu hymchwil.

Ar drothwy’r 5ed digwyddiad, mae Bŵtcamp DA Aberystwyth yn adeiladu ar raglen gynyddol o ddysgu ymarferol, cydweithredol. Mae ein digwyddiadau blaenorol wedi dod ag ymchwilwyr, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ynghyd o sawl disgyblaeth i ystyried sut y gall deallusrwydd artiffisial yrru eu hymchwil.

Carfan 2025.

Sesiwn codio rhyngweithiol grŵp.

Sesiynau mentora un-i-un.

Cyflwyniadau cynnydd mynychwyr

Ffioedd

Mae ein strwythur prisio wedi'i gynllunio i gadw'r digwyddiad yn hygyrch tra'n talu’r costau cynnal.

Mae cyfraddau archebu’n gynnar ar gael i'r rhai sy'n cofrestru ymlaen llaw, gweler ein dyddiadau pwysig ar gyfer dyddiadau cau.

Categori
Gostyngiad Archebu'n Gynnar
Safonol
Myfyrwyr
£75 £150
Pobl nad ydynt yn fyfyrwyr £200 £300
Cyfranogwyr rhyngwladol Ddim yn berthnasol £500*

*Mae prisiau gostyngol ar gael i fynychwyr o wledydd incwm isel a chanolig.

Yn ogystal â'r bŵtcamp, bydd y ffi yn cynnwys:

  1. Cyflwyniad dewisol i hyfforddiant Python i gwmpasu'r sgiliau rhaglennu rhagofynnol
  2. Mynediad i gyfrifiaduron i'r rhai sydd ei angen
  3. Mynediad at gyfleusterau Cyfrifiadura Perfformiad Uchel
  4. Cinio, te, coffi, a byrbrydau am yr wythnos

Noder, bydd nifer cyfyngedig o gyfleoedd hepgor ffioedd ar gyfer ceisiadau cryf.  Nodwch ar y ffurflen gais os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y rhain.