Trwy gydol eich amser yma, fe gewch ddarlithoedd gan y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd am amrywiaeth o bynciau gan gynnwys: ysgrifennu CV, rhoi cyflwyniadau effeithiol, profion seicometrig, canolfannau asesu ac ati. Yn ogystal â’r darlithoedd hyn sydd ar yr amserlen, cynigir nifer o weithdai ychwanegol a sesiynau galw heibio ad hoc trwy gydol y flwyddyn. Bydd hyn oll yn eich helpu i baratoi am fywyd wedi graddio.
AberGrad
Elfen arall o’ch amser yma ym Mhrifysgol Aberystwyth yw AberGrad sydd yn eich helpu i baratoi am eich bywyd yn y dyfodol. Ochr yn ochr â’ch astudiaethau academaidd, diddordebau personol, gwaith rhan-amser ac unrhyw weithgareddau allgyrsiol eraill y byddwch yn ymwneud â hwy, mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn rhoi llu o gyfleoedd i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch galluoedd. Ein nod yw, erbyn i chi raddio, y byddwch mewn lle da i ddangos yn hyderus pa mor drosglwyddadwy yw eich gwybodaeth o’ch pwnc, a’r sgiliau a’r profiadau a gofnodwyd ac a ddatblygwyd trwy gydol eich amser fel myfyriwr yn Aberystwyth.