Academydd i gadeirio is-banel nodedig sy'n edrych ar ragoriaeth academaidd y DU

Yr Athro Qiang Shen

Yr Athro Qiang Shen

04 Mehefin 2025

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi'i benodi i gadeirio is-banel arbenigol a fydd yn asesu rhagoriaeth ymchwil y sector addysg uwch yn y DU.

Bydd yr Athro Qiang Shen, Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol, yn cadeirio is-banel Cyfrifiadureg a Gwybodeg y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) 2029.

Mae’r FfRhY yn chwarae rhan hanfodol yn sector addysg uwch y DU.  Mae’r is-baneli yn asesu ansawdd ymchwil ar draws 34 o wahanol bynciau.  Defnyddir canlyniadau’r FfRhY i benderfynu ar ddyraniad y cyllid cyhoeddus blynyddol gwerth £2 biliwn ar gyfer ymchwil mewn prifysgolion.

Dyma'r trydydd tro i'r Athro Shen gael rôl bwysig yn y FfRhY, gan wasanaethu fel aelod o is-banel y FfRhY2021 a FfRhY2014.

Dywedodd yr Athro Shen:  

"Mae'n anrhydedd i mi gael fy newis ar gyfer y rôl hon, sy'n tanlinellu hanes hir yr ymchwil o safon fyd-eang sydd gennym ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Mae'n amlwg pa mor bwysig yw deallusrwydd artiffisial, cyfrifiadureg a gwybodeg ym mhob agwedd ar ein bywydau, gan ddylanwadu ar ein gofal iechyd, sut rydyn ni'n gweithio a sut mae ein cymdeithas yn gweithredu.

"Mae'r FfRhY yn rhoi arwydd i ni o enw da'r DU am ymchwil sy'n arwain y byd.  Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i graffu ar yr ymchwil orau sydd gan y DU i'w gynnig."

Meddai’r Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor: Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi: 

"Rydym wrth ein bodd ac yn falch bod yr Athro Shen wedi cael ei ddewis ar gyfer gwaith mor bwysig.  Mae ei gyfraniad i broses y FfRhY yn gymeradwyaeth o'i waith arloesol ei hun yn y maes hwn, ond yn ogystal â hyn, mae’n tanlinellu ansawdd ein hymchwil yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Mae ein rhagoriaeth mewn ymchwil wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl o bob cwr o'r byd i newid bywydau er gwell: gan feithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru a'r byd ehangach. Mae ein hacademyddion yn gwthio ffiniau arloesedd a gwybodaeth – yn meithrin a rhannu syniadau ac arbenigedd sydd o fudd i bobl, y blaned a chyfoeth bywyd diwylliannol.  Maent yn arloeswyr mewn gofal iechyd, roboteg, technoleg y gofod, cynhyrchu bwyd a llawer mwy, a’r llynedd rhoddwyd Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i’n gwaith ym maes parasitoleg. Bydd yr etifeddiaeth honno yn gwasanaethu’r Athro Shen yn dda wrth iddo feirniadu'r gorau sydd gan sector ymchwil academaidd y DU i'w gynnig."

Dywedodd Cyfarwyddwr y FfRhY Rebecca Fairbairn: 

"Rwy'n falch iawn o groesawu'r grŵp rhagorol hwn i arwain is-baneli’r FfRhY 2029.  Bydd eu harbenigedd dwfn a'u safbwyntiau eang yn ganolog i adeiladu proses asesu sy'n deg, yn drylwyr, ac sy’n ennyn ymddiriedaeth y gymuned ymchwil.  Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r sector trwy gydol y broses hon, ac rwy'n ddiolchgar i bawb a fynegodd ddiddordeb – eich ymroddiad chi yw'r hyn sy'n cryfhau hygrededd a gwerth y FfRhY ar draws ein tirwedd ymchwil."