Digwyddiadau Adrannol 2023

Dydd Sadwrn 24 Mehefin

Canrif a mwy o Astudio Cymru!

Yn Sinema Canolfan y Celfyddydau. Digwyddiad sy'n gwerthuso cyfraniad Prifysgol Aberystwyth i astudio a deall Cymru dros ganrif a mwy. Byddwn yn trafod cyfraniadau i astudio Cymru hyd yma ac i'r dyfodol mewn meysydd  yn cynnwys Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Celf, ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Siaradwyr

Yr Athro Anwen Jones

Yr Athro Rhys Jones

Dr Samuel Raybone

Dr Elin Royles

Sesiwn wedi ei threfnu gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth.

50 mlynedd o Cyfrifiadureg
Hugh Owen B23
Teithiau, sgyrsiau, demos a choffi yn yr adran 10:00-13:00. Cinio bwffe lan llofft yng Nghanolfan y Celfyddydau 13:00. 

Ffiseg 150fed
13.00-15.00: Adeilad y gwyddorau ffisegol
Planetariwm a theithiau tywys adrannol a diweddariad.

Adran Addysg 130fed
13.30: Adeilad Adran Addysg
Derbyniad Diodydd a Chyflwyniad i'r Ysgol Addysg, Ddoe a Heddiw.

Adran y Gwyddorau Bywyd 14.00-16.00: Derbyniad te prynhawn gyda sgyrsiau yn canolbwyntio ar waith arloesol Gwendolen Rees a Kathleen Carpenter, ymchwil gyfredol yr adran a thaith o amgylch ein cyfleusterau.

50 mlynedd o Ddrama.
14.30: Adeilad Parry-Williams
Derbyniad yr adran ynghyd â thrafodaethau dan arweiniad cyn-fyfyrwyr. Teithiau tywys o gwmpas yr adran drwy gydol y penwythnos. 
Bydd y stiwdio deledu yn cael ei gosod i recordio cyfweliadau gyda chyn-fyfyrwyr.

Mathemateg 150fed
15.00: Derbyniad diodydd yng nghyntedd Adeilad y Gwyddorau Ffisegol.  Lansio Y Llyfryn gyda ffotograffau a chacen i ddathlu.

Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
14.30: Bydd ADGD yn cynnig derbyniad te prynhawn gyda sgwrs ar ddatblygiadau diweddar mewn addysg ac ymchwil ADGD yn L3 yr ystafell gyffredin uwch ar ben y twr.

Dydd Sul 25 Mehefin

Canolfan Gofal Iechyd NEWYDD

13.00-14.00: Adeilad CAGI

Bydd taith aduniad o gwmpas ein hadnoddau yn rhoi cyfle i chi gwrdd â rhai o'n tîm nyrsio yn ogystal â 'Dai' (a enwyd gan y myfyrwyr) ein manacin efelychu sy'n gallu siarad, chwysu, peswch - mae'r rhestr yn ddiddiwedd!  Bydd cael statws cyfeillgar i ddementia yn ein canolfan yn eich galluogi i brofi therapi hel atgofion trwy  ein hadnoddau, siwtiau efelychu oedran ac ystafell cerbydau trên. Bydd ein siwtiau clinigol yn ogystal â'n hystafell efelychu gymunedol hefyd yn bwysig i ni eu harddangos ar y diwrnod.

Canolfan Addysg Milfeddygaeth NEWYDD

15.00-16.00: Adleilad YGF

Dewch i weld Canolfan Addysg Milfeddygaeth newydd y brifysgol, a wireddwyd trwy gefnogaeth cyn-fyfyrwyr a'r gymuned leol. Y ganolfan hon yw un o'r prif safleoedd addysgu ar gyfer y cwrs Milfeddygaeth newydd, y cyntaf yng Nghymru, a gynhelir ar y cyd â'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol. Bydd yr uwch-ddarlithydd Dr Sophie Regnault yn arwain taith o amgylch adnoddau’r ganolfan ac yn dweud mwy wrthym am gwrs milfeddygaeth y Brifysgol â’r Coleg Brenhinol.

Mae archebu ar gyfer yr aduniad bellach ar gau.