Penwythnos Aduniad 2023
Manylion y digwyddiad
Mae gan Brifysgol Aberystwyth nifer o resymau dros ddathlu'r Penwythnos Aduniad hwn, 150 mlynedd ers i'r Brifysgol agor ei drysau am y tro cyntaf a 130 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr. Arben hynny, mae sawl adran academaidd hefyd yn dathlu cerrig milltir pwysig ac yn bwriadu cynnal eu digwyddiadau adrannol eu hunain.
Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn dathlu 50 mlynedd ers sefydlu’r adran Ddrama
Ffiseg a Mathemateg 150 mlynedd
Addysg a Saesneg a Ysgrifennu Creadigol 130 mlynedd
Canolfan y Celfyddydau 50 mlynedd
Mae Penwythnos yr Aduniad yn gyfle i gyn-fyfyrwyr, cyn-aelodau staff a chyfeillion Aber ddod ynghyd i ddathlu ein hanes a’n llwyddiant a datblygiadau arfaethedig ar gyfer y dyfodol.
Bydd yn gyfle i ailgysylltu a hel atgofion gyda hen ffrindiau, cyfarfod cyfoedion, a gweld beth sydd wedi newid ers pan oeddech yn fyfyriwr yma yn Aber. Gweler isod ein rhaglen dros dro a dolen i gofrestru ar gyfer digwyddiadau. Rydym yn gobeithio cynnal Arddangosfa Profiad Myfyrwyr drwy gydol y penwythnos gyda gorsaf sganio digidol ar y dydd Sadwrn. Dewch â'ch eitemau Prifysgol hanesyddol a rhannu eich straeon gyda'n tîm archifau. Dilyn ein #AberAlumniReunion
(Sylwch mai rhaglen dros dro yw hon a gallai newid)
Dydd Gwener 23 Mehefin i ddydd Sul 25 Mehefin 2023
Dydd Gwener 23 Mehefin
19.00-21.00 Derbyniad Croeso a Cacen 150 Llyfrgell Hugh Owen (YstafellIris de Freitas)
Dydd Sadwrn 24 Mehefin
Digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal ar Gampws Penglais (rhagor o fanylion i ddilyn)
10.30-11.15 Dysgu Gydol Oes - adaryddiaeth Tu mas y Ganolfan Ddelweddu neu Ibers 0.32 os bydd y tywydd yn wael
10.30-11.30 Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr MedRus 4
11.00-11.45 Llyfrgell Genedlaethol Cymru - taith y Cyn-fyfyrwyr
12.00-12.30 Lluniaeth, croeso a gorsaf codi rhaglen (ar gael fel man cyfarfod a gorsaf lluniaeth tan 16.00) Cyntedd theatr Canolfan Gelfyddydau
12.30-14.00 Canrif a mwy o Astudio Cymru! Sinema Ganolfan Y Celfyddydau
13.00–17.00 Digwyddiadau adrannol Gwybodaeth i ddilyn
15.30-17.00 Taith a the Pantycelyn Pantycelyn
17.00-17.45 Dysgu Gydol Oes - Celf Ystafell seminar, Yr Ysgol Gelf
18.30–21.30 Swper Dathlu (Cost ychwanegol) MedRus
21.00-1.00 Parti ar y Pier gyda DJ Eddy Scissorhands Brasserie
Dydd Sul 25 Mehefin
9.30–10.30 Cicio'r bar Bandstand
10.30-12.30 Diweddariad am yr Hen Goleg a lluniaeth Y Cambria
(dau ddigwyddiad o 1 awr)
13.00-14.00 Sgyrsiau a taith gan y Ganolfan Addysg Iechyd newydd
14.00 - 15.00 Sgyrsiau a taith gan y Ganolfan Addysg Filfeddygol newydd
Cofrestru yma (bydd ffurflen gofrestru digwyddiad yn cael ei chynnwys yn eich e-bost cadarnhau)
Bydd rhagor o fanylion yn cael eu hychwanegu yn nes at y digwyddiad