Ysgrifenwyr Cymraeg yn cydweithio i herio casineb tuag at fenywod gyda cherdd gydweithredol

They Call Us

They Call Us

08 Mawrth 2026

Mae grŵp o ysgrifenwyr Cymraeg – gan gynnwys y bardd a’r ddarlithwraig Mari Ellis Dunning o Aberystwyth – wedi dod ynghyd i ryddhau cerdd cydweithredol newydd, They Call Us, er mwyn herio casineb yn erbyn rhyw a chasineb yn erbyn menywod.

Bydd y gerdd yn cael ei chyhoeddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) fel datganiad o undod ymhlith menywod sydd wedi gwynebu casineb ar-lein, yn cynnwys yr ymgyrchwraig ifanc dros iechyd menywod, Athika Ahmed.

Ym mis Ionawr, fe gafodd Athika Ahmed sy’n 23 mlwydd oed, ei thargedu mewn cyfres o achosion o gamdriniaeth ar-lein, yn dilyn cyhoeddiad bwriadol gan weithredwyr yr adain-dde mai hi oedd Gweinidog Iechyd Cymru. Yn dilyn y wybodaeth anghywir hyn, fe ddechreuodd achosion o gamdriniaeth fitriolig, gan feirniadu ei hedrychiad, ei chrefydd, ei hil, a’i chenedligrwydd.

Mewn ymateb, fe wahoddodd y bardd o Aberystwyth Mari Ellis Dunning, Bardd Cenedlaethol Cymru Hanan Issa, a’r nofelydd Gosia Buzzanca fenywod a chefnogwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt i gyflwyno llinell o farddoniaeth yr un. Cafodd y llinellau hyn eu plethu’n ddarn cydweithredol – gweithred o wrthwynebiad creadigol a chryfder cyfunol.

Mae’r gerdd derfynol, They Call Us, yn uno nifer o leisiau ac yn cadarnhau pŵer cymuned wrth herio casineb tuag at fenywod.

Dywedodd Mari Ellis Dunning, bardd a darlithwraig y modiwl Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Cerdd am wrthodiad yw hon – gwrthodiad i ganiatáu casineb tuag at honiadau sydd heb gael sylw, ac yn dystiolaeth o’r hyn sy’n digwydd pan ddaw menywod a chefnogwyr ynghyd gyda phwrpas. Pan gafodd Athika ei thargedu, nid oedd yn ymosodiad ar un ferch ifanc yn unig, ond ar bob menyw a ddywedwyd wrthynt i gadw’n dawel, i golli pwysau, neu i dderbyn creulondeb fel cost am amlygrwydd. Trwy gyfuno’r lleisiau hyn, rydym yn gweu cytgan sy’n mynnu cydymdeimlad dros elyniaeth, gwirionedd dros gamwybodaeth, a chydgefnogaeth dros dawelwch.

“Wrth ddod â’r llinellau hyn at eu gilydd, rydym yn dweud yn glir ac yn uchel na fyddwn ni’n cael ein tanseilio. Rydym yn dweud na wrth gasineb. Rydym yn dathlu cryfder a gwydnwch menywod fel Athika gan ddefnyddio pŵer llais a barddoniaeth. Mae’r darn hwn yn sefyll fel amddiffyniad a goleuni sy’n rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol – nodyn i atgoffa pan fydd un fenyw yn cael ei thargedu, bydd nifer eraill yn codi hefyd, gan wrthod iddi sefyll ar ei phen ei hun. Mae’r geiriau rydym yn eu rhannu yn gweithredu fel grym sy’n goroesi’r sŵn, yn dystiolaeth o ysbryd cymunedol na ellir ei ddileu, dewrder a chreadigrwydd.”

Dywedodd Athika Ahmed, ymgyrchwraig iechyd menywod:

“I gael derbyn yr holl drugaredd mewn cyfnod lle cefais gymaint o gasineb, fe’m helpodd i ymateb yn gadarnhaol a pharhau gyda’r gwaith yr wyf yn angerddol amdano.”

Fe ddywedodd Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru:

“Mewn byd sy’n teimlo’n llai diogel ac ansicr ar gyfer unigolion sy’n cael eu cydnabod fel menyw, roedden ni’n awyddus i fynegi ein dicter a’n rhwystredigaeth, yn ogystal â’n cefnogaeth i Athika ac unigolion eraill tebyg.”

Bydd y gerdd, ynghyd â ffilm fer, yn cael ei rhyddhau ar wefan Llenyddiaeth Cymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2026, Dydd Sul 8 Mawrth.