Gradd Meistr

Manteisiwch ar ein rhaglenni meistr mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth i’ch denu i ryddhau eich potensial creadigol a llenyddol. Bydd ein hopsiynau astudio uwchraddedig yn ysgogi eich chwilfrydedd deallusol ac yn rhoi i chi’r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i lwyddo yn eich maes dewisol.  Mae Aberystwyth yn brifysgol arbennig, yn rhannol, oherwydd ei  diwylliant ymchwil ffyniannus: cewch gyfle i  ymuno â chymuned ddiddorol a rhyngweithiol lle mae staff, myfyrwyr a siaradwyr gwadd yn dod at ei gilydd i rannu ac arddangos eu hymchwil. Byddwch hefyd yn astudio ochr yn ochr ag ymchwilwyr sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu cyfraniadau at wybodaeth a’u gwaith yn hyrwyddo'r ddisgyblaeth.  

Ymunwch â ni, wrth i staff uchel eu parch eich herio a’ch ysbrydoli i wthio ffiniau eich dychymyg, hogi eich sgiliau ysgrifennu a meithrin eich llais unigryw.  

  • Yng ngwobrau blynyddol y brifysgol, lle mae’r myfyrwyr yn pleidleisio, rydym wedi ennill ym mhob categori mwy neu lai, gan nodi ein rhagoriaeth mewn addysgu a gofal bugeiliol. Eleni fe’n henwebwyd gan y myfyrwyr ar gyfer gwobr "Adran y Flwyddyn", ac enwebwyd y Gymdeithas Saesneg a Chreadigol, sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr, ar gyfer gwobr "Cymdeithas y Flwyddyn". 
  • Cewch eich dysgu gan rai o ysgolheigion mwyaf blaenllaw'r DU ym meysydd Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau Llenyddol, ac rydym yn seilio ein haddysgu ar eu hymchwil, sydd o bwys cenedlaethol.  Maent naill ai'n gymwys i lefel PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol cymesur.  Mae gan ein darlithwyr naill ai gymhwyster dysgu Addysg Uwch neu'n maent yn gweithio tuag ato, ac mae gan y rhan fwyaf o’r staff academaidd hefyd Gymrodoriaethau gydag AU Ymlaen.   Mae diddordebau ymchwil y staff mor eang ac mor ddeinamig â'n cwricwlwm, ac yn ddiweddar barnwyd bod y rhan fwyaf o'n gweithgarwch ymchwil naill ai'n rhagorol yn rhyngwladol neu gyda’r mwyaf blaenllaw yn y byd (FfRhY 2021).   
  • Mae'r cyfleusterau yma gyda’r gorau yn y DU - mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd ar y safle drws nesaf i'r brifysgol, gopi o bob llyfr a gyhoeddwyd yn y DU ers y 1920au. Mae gennym un o'r canolfannau celfyddydau mwyaf yn y DU ar y campws, cyfleusterau chwaraeon gwych, Undeb Myfyrwyr prysur, ac a glywsoch chi ein bod mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, gyda'r môr ar garreg ein drws? 

Dyma ein graddau Meistr:   

Mae'r radd hon yn cynnig profiad ysgogol o lenyddiaeth Saesneg yn ei dyfnder a'i hamrywiaeth gyfoethog, gyda'r cyfle i ddatblygu arbenigedd mewn sawl maes arbenigol.   

Bydd y cynllun gradd hwn yn eich cynorthwyo i ddatblygu eich gweledigaeth greadigol a'ch dawn ysgrifennu trwy gyfrwng rhaglen gytbwys o weithdai darllen, dadansoddi ac ysgrifennu. 

Astudiaethau Llenyddol   

Mae ein dewis o fodiwlau arbenigol a dywysir gan ymchwil yn rhoi cipolwg diddorol ar lenyddiaeth cyfnodau penodol, diwylliannau cenedlaethol, a thraddodiadau llenyddol. Mae diddordebau ymchwil staff yn amrywiol ac yn esblygu'n barhaus, felly byddwch yn darganfod amrywiaeth eang o ddulliau o ymdrin â llenyddiaeth a hanes diwylliannol sy'n cyfuno ysgolheictod uwch â meddwl beirniadol.  

Trwy astudio'r datblygiadau diweddaraf ym maes damcaniaeth feirniadol a methodoleg ymchwil, byddwch yn meithrin y sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â'ch traethawd hir MA 15,000 o eiriau, sy’n ddarn helaeth o ymchwil feirniadol yn eich dewis faes. Byddwch hefyd yn datblygu llu o sgiliau trosglwyddadwy y gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau academaidd neu swyddi eraill. 

Ysgrifennu Creadigol 

Cewch eich cyflwyno gan ein darlithwyr i amrywiaeth o awduron rhyddiaith a barddoniaeth gyfoes a fydd yn sbarduno eich twf creadigol chi’ch hun, gan adael ichi fagu hyder ac aeddfedrwydd yn eich dull o ysgrifennu. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â thechneg ac yn ymchwilio i'r materion ehangach sy'n gysylltiedig â'r arfer o ysgrifennu, megis arwyddocâd genre a threfniadau’r byd cyhoeddi. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys elfen feirniadol gref, sy’n eich annog i fyfyrio ar eich dulliau creadigol eich hun yn ogystal â dulliau pobl eraill.  

Fe gewch hyfforddiant unigol gan staff rhagorol yr adran, bob un ohonynt yn awduron creadigol cyhoeddedig. O dan eu harweiniad hwy, byddwch yn cynhyrchu portffolio sylweddol ar ffurf casgliad o farddoniaeth neu ddarn estynedig o ryddiaith. 

Canllawiau MA ar gyfer Portffolio o Waith Ysgrifenedig  

Pan fyddwch yn gwneud cais am un o'n cyrsiau MA, gofynnwn i chi ddarparu portffolio o waith ysgrifenedig. Dylai'r portffolio gynnwys:  

4,000–5,000 gair o ryddiaith feirniadol a/neu greadigol. Mewn achosion lle mae portffolios yn cynnwys barddoniaeth, ystyrir bod 100 llinell o farddoniaeth gyfwerth â 1000 gair o ryddiaith.  

Mae'r portffolio yn ein helpu i gael cipolwg ar arddull ysgrifennu pob ymgeisydd, eu gallu i feddwl yn feirniadol, a'u gallu i gyfathrebu'n effeithiol.