PHD
Rydym yn hapus i dderbyn ceisiadau am brosiectau ymchwil sy'n canolbwyntio ar Astudiaethau Llenyddol neu Ysgrifennu Creadigol ac mae'r Adran yn croesawu ymholiadau gan fyfyrwyr sy'n dymuno dilyn PhD yn unrhyw un o feysydd arbenigol aelodau o staff.
Mae Aberystwyth yn brifysgol arbennig, yn rhannol, oherwydd ei diwylliant ymchwil ffyniannus: cewch gyfle i ymuno â chymuned ddiddorol a rhyngweithiol lle mae staff, myfyrwyr a siaradwyr gwadd yn dod at ei gilydd i rannu ac arddangos eu hymchwil. Byddwch hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu cyfraniadau at wybodaeth a’u gwaith yn hyrwyddo'r ddisgyblaeth.
Arbenigedd yr Adran
Mae meysydd arbenigedd penodol yr Adran yn cynnwys:
- Barddoniaeth gyfoes
- Ffuglen trosedd
- Ysgrifennu bywyd
- Arswyd
- Ysgrifennu natur
- Llenyddiaeth pobl ddu alltud
- Ffuglen ôl-drefedigaethol
- Ysgrifennu gan fenywod
- Llenyddiaeth plant
- Daearyddiaeth lenyddol ac eco-feirniadaeth
- Ysgrifennu LHDT
- Llenyddiaeth Saesneg Cymru
- Llenyddiaeth gwyliadwriaeth
- Llenyddiaeth ac anabledd
- Llenyddiaeth Wyddelig
- Straeon ysbryd a llenyddiaeth Gothig
- Dadansoddi Seicolegol
- Llenyddiaeth seciwlar Ganoloesol ddiweddar
- Yr Oesoedd Canol a’r byd cyfoes
- Rhamantiaeth
- Llenyddiaeth Fictoraidd
- Moderniaeth a moderniaeth hwyr
- Ôl-foderniaeth.
Beth mae astudio am radd PhD yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn ei olygu?
Dyfernir PhD mewn astudiaethau llenyddol ar ôl i draethawd hir 80,000 - 100,000 o eiriau gael ei gwblhau’n llwyddiannus ac yna arholiad viva voce.
Mae dwy ran i radd PhD mewn ysgrifennu creadigol: y gwaith creadigol (sy'n cynnwys 75–80,000 gair o ryddiaith neu 60 tudalen o farddoniaeth) yn ogystal ag 20,000 gair o sylwebaeth feirniadol. Mae dyfarnu'r PhD mewn ysgrifennu creadigol yn amodol ar gwblhau'r elfen ysgrifenedig ddeublyg hon yn foddhaol, ac yna arholiad viva voce.
Tair blynedd (amser-llawn) neu bum mlynedd (rhan-amser) yw’r cyfnod cofrestru arferol ar gyfer PhD mewn Astudiaethau Llenyddol ac Ysgrifennu Creadigol. I fyfyrwyr amser-llawn, disgwylir i’r traethawd hir gael ei gyflwyno ymhen pedair blynedd ar ôl cofrestru. I fyfyrwyr rhan-amser, disgwylir cyflwyno’r traethawd o fewn saith mlynedd ar ôl cofrestru. Mae disgwyl i fyfyrwyr ymchwil llawn amser ymsefydlu yn Aberystwyth. Gall myfyrwyr ymchwil rhan-amser ddilyn eu hastudiaethau o bell ond efallai y bydd gofyn iddynt fod ar gael i fynychu sesiynau ar y campws ar brydiau.
Neilltuir dau arolygydd i bob myfyriwr ymchwil, i gynnig cymorth a chyngor ar bob cam o'r prosiect ymchwil. Mae'r prif arolygydd yn gweithio'n agos gyda'r myfyriwr a bydd yn arbenigwr yn y maes ymchwil/ysgrifennu creadigol a ddewiswyd.
Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd doethurol llawn amser ymgymryd â detholiad o sgiliau ymchwil a modiwlau datblygu proffesiynol a ddarperir gan Ysgol y Graddedigion, Prifysgol Aberystwyth. Mae'r modiwlau hyn yn cael eu cynnal dros y ddwy flynedd gyntaf o astudio. O dan arweiniad eu harolygwyr, bydd disgwyl i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau uwch wrth ymdrin â phrosiect estynedig, sy'n gwneud cyfraniad gwreiddiol, a thrylwyr i faes astudiaethau llenyddol yr ymgeisydd neu ei ymarfer ysgrifennu creadigol.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i drafod opsiynau ar gyfer y radd ymchwil fyrrach sef yr MPhil, cysylltwch â ni yn uniongyrchol ar english@aber.ac.uk
Canllawiau ar gyfer Cynigion PhD
Dylai cynigion ar gyfer PhD gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
Astudiaethau llenyddol (tua 3,000 o eiriau)
- Crynodeb o'r prosiect (prif syniadau/nodau ymchwil eich prosiect, testunau allweddol, a safbwyntiau damcaniaethol) (250 gair)
- Cyfraniad at wybodaeth (beth fydd cyfraniad eich gwaith at y maes astudio perthnasol) (250 o eiriau)
- Cwestiynau ymchwil (amlinellwch y ddau gwestiwn ymchwil sylfaenol a fydd yn gyrru eich prosiect, ac eglurwch yn fyr sut y bydd eich ymchwil yn mynd i'r afael â nhw) (250 gair)
- Cynnig ymchwil llawn (disgrifiad manwl o'ch ymchwil arfaethedig, gan gynnwys braslun o adrannau arfaethedig y traethawd hir) (2,000 o eiriau)
- Eich gwaith hyd yn hyn yn y maes hwn neu mewn meysydd cysylltiedig (250 o eiriau)
Dylech hefyd gyflwyno sampl o'ch gwaith beirniadol, tua 5000 o eiriau.
Ysgrifennu Creadigol (tua 3,000 o eiriau)
- Crynodeb o'r prosiect (amlinelliad o syniadau creadigol canolog eich prosiect, yr arddulliau y bwriedir eu defnyddio, y prif ymdriniaethau beirniadol, a’r safbwyntiau damcaniaethol) (250 gair)
- Cyfraniad at ymarfer creadigol a beirniadol (beth fydd cyfraniad eich gwaith i’r meysydd creadigol a beirniadol perthnasol) (250 o eiriau)
- Nodau Creadigol (amlinellwch y ddau brif nod creadigol a fydd yn gyrru eich prosiect gan egluro sut y bydd eich gwaith yn mynd i'r afael â nhw) (250 o eiriau)
- Cynnig llawn (disgrifiad manwl o'ch gwaith arfaethedig, gan gynnwys braslun o'r cydrannau creadigol a beirniadol) (2,000 o eiriau)
- Eich gwaith hyd yn hyn yn y maes hwn neu mewn meysydd cysylltiedig (250 o eiriau)
Dylech hefyd gyflwyno sampl o'ch gwaith creadigol, tua 5000 gair o ryddiaith neu 100 llinell o farddoniaeth.