Ffotograffiaeth Goffa
Yn ystod wythnos y graddio bydd Ede & Ravenscroft yn cynnig ffotograffau portread yn stiwdio Adeilad Parry Williams.
Bydd y safle ar gyfer archebu sesiynau lluniau portread yn agor ddydd Mercher 1 Mehefin ac yn cau ar gyfer archebion ddydd Llun 6 Gorffennaf 2026 5.00yp. Bydd modd cael sesiynau portread ar y diwrnod hefyd, ond mae’n bosib y bydd angen aros yn hirach.
Gweld eich opsiynau ac archebu
- Ar Wefan Graddio Ede & Ravenscroft, rhowch ‘Aberystwyth University’ yn y blwch Manylion y Sefydliad a dewiswch y seremoni rydych wedi cofrestru ar ei chyfer.
Bydd y lluniau hyn ar gael i’w gweld a’u prynu ar ôl y seremoni a byddant yn cael eu huwchlwytho i wefan Ede & Ravenscroft ar ôl y digwyddiad.
Cynllunio eich diwrnod
Cyn cael lluniau swyddogol bydd angen i chi gasglu eich gŵn a archebwyd ymlaen llaw. Gallwch gael tynnu’ch lluniau cyn, neu ar ôl, eich seremoni, sy'n rhoi hyblygrwydd i’ch trefniadau chi ar y diwrnod.
Yn ogystal â’r lluniau portread a dynnir yn Adeilad Parry Williams, bydd lluniau eraill a dynnir gan Ede & Ravenscroft i goffáu’r diwrnod, gan gynnwys:
- lluniau o’r cyflwyno wrth i fyfyrwyr groesi'r llwyfan yn y Neuadd Fawr yn ystod y seremoni;
- llun grŵp mawr o'r carfan sy'n graddio, a dynnir fel arfer ar ôl y seremoni ar risiau LaScala o flaen Canolfan y Celfyddydau.
Gŵn
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr sy'n graddio wisgo'r wisg academaidd gywir yn eu seremoni raddio. Mae rhagor o wybodaeth am sut i archebu eich gwisg cyn y diwrnod ar gael yn yr adran am wisgoedd ar ein tudalennau gwe.
Seremonïau Gorffennaf 2025
Yn ystod wythnos y graddio Ede & Ravenscroft oedd cynnig ffotograffau portread.
Mae manylion cyswllt ar gyfer ymholiadau yn ymwneud ag archebion i’w gweld isod:
Ffurflen cymorth Ede & Rovenscroft
Ede & Rovenscroft cwestiynau cyffredin
Rhif cyswllt Ede & Ravenscroft : 01223 861 854
Diweddarwyd: 01/06/26
Sylwer bod gan y Brifysgol berthynas fasnachol â Ede & Ravenscroft ac mae’n derbyn comisiwn yn seiliedig ar y nifer o gynau â archebwyd. Mae hyn yn ein galluogi i gynnal y seremonïau graddio heb godi costau tocynnau.
