Ffotograffau Grŵp

Bydd ffotograffau grŵp yn cael eu tynnu ar LaScala yn syth ar ôl pob seremoni gan ffotograffwyr Graddio swyddogol y Brifysgol, Ede and Ravenscroft.

Gofynnir i raddedigion ac aelodau o staff o'r orymdaith academaidd wneud eu ffordd i'r cyntedd o flaen Canolfan y Celfyddydau cyn gynted â phosibl ar ôl gadael y Neuadd Fawr. 

Bydd y lluniau hyn ar gael i'w prynu o stondin Ede and Ravenscroft ar lawr gwaelod isaf Canolfan y Celfyddydau ar ddiwrnod y digwyddiad. Bydd lluniau hefyd ar gael i'w prynu ar-lein o wefan Ede and Ravenscroft ar ôl yr wythnos raddio.

Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf

Trefn y ffotograffau grŵp
Seremoni 1
  • Yr Ysgol Gelf 
  • Yr Adran Ffiseg
  • Adran y Gyfraith a Throseddeg
Seremoni 2
  • Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
  • Yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
  • Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Dydd Mercher, 15 Gorffennaf

Trefn y ffotograffau grŵp
Seremoni 3
  • Ysgol Fusnes Aberystwyth
  • Yr Ysgol Addysg
Seremoni 4
  • Adran Mathemateg 
  • Yr Adran Gyfrifiadureg
  • Adran Hanes a Hanes Cymru
Seremoni 5
  • Adran Seicoleg
  • Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Dydd Iau, 16 Gorffennaf

Trefn y ffotograffau grŵp
Seremoni 6
  • Canolfan Addysg Gofal Iechyd
  • Adran Astudiaethau Gwybodaeth
  • Adran y Gwyddorau Bywyd
Seremoni 7
  • Yr Adran Ieithoedd Modern 
  • Adran y Gwyddorau Bywyd
  • Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
  • Yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

*Noder, ar adegau, efallai y bydd angen addasu'r drefn y tynnir ffotograffau grŵp yn dilyn seremoni benodol, oherwydd amgylchiadau annisgwyl ar y diwrnod.

Er gwybodaeth, os oes tywydd garw sy'n golygu na ellir tynnu’r ffotograff ar LaScala, gofynnir i raddedigion aros yn y Neuadd Fawr ar ddiwedd y seremoni. Yn yr achos hwn gellir tynnu llun carfan, yn hytrach na lluniau grŵp adrannol ar wahân.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10/7/26