Ar gyfer ymholiadau sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd ar ôl graddio, e-bostiwch: gyrfagraddedigion@aber.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau gyrfaol cyffredinol, megis cael cymorth gydag unrhyw agwedd ar gyrfaoeddABER, CV a chymorth i ysgrifennu ceisiadau, anfonwch e-bost at gyrfaoedd@aber.ac.uk. Neu cysylltwch â: 01970 622378.
Ewch i ymweld â'r Hwb Gyrfaoedd! Dewch o hyd i ni yn Llawr D, llyfrgell Hugh Owen o 10yb-4yp *bob dydd. Gallwn ateb ymholiadau cyflym neu eich helpu i drefnu ymgynghoriad hirach. (*Nodwch yr oriau cyfyngedig y tu allan i'r tymor. E-bostiwch gyrfaoedd@aber.ac.uk i wirio).
Gallwch gael mynediad at ein cymorth arweiniad i raddedigion. Rydym yn cynnig apwyntiadau 1:1 ac arweiniad grŵp, wyneb yn wyneb ac ar-lein (MS Teams).
I drefnu sgwrs yrfaoedd 1:1 - ewch i'r dudalen apwyntiad GyrfaoeddABER i ddewis dyddiad/amser sy'n addas i chi.
Mae sgyrsiau gyrfaoedd i raddedigion yn gyfle i drafod yn anffurfiol lle rydych chi ‘arni’ gyda'ch cynlluniau gyrfa (sesiwn 30 munud). Os nad oes gennych chi unrhyw syniad, neu os ydych chi’n barod i ystyried llwybrau gyrfa penodol, byddwn yn darganfod beth hoffech chi gael cymorth ag ef fwyaf, a gyda'n gilydd gallwn lunio cynllun gweithredu pwrpasol. Gallwn hefyd eich helpu i nodi eich sgiliau allweddol a'ch rhinweddau personol, a sut i farchnata'r rhain yn effeithiol.
I drefnu sesiwn arweiniad grŵp – ewch i’r dudalen GyrfaoeddABER.
Wedi'u hwyluso gan ein Cynghorwyr Gyrfaoedd, mae'r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i chi gwrdd â graddedigion eraill a dod o hyd i wybodaeth a strategaethau defnyddiol gyda'ch gilydd, yn ogystal â chynyddu eich hyder a'ch hunanymwybyddiaeth.