Hwb Gyrfaoedd
Hwb Gyrfaoedd yw eich man cychwyn i gael cymorth gyrfaoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wedi'i lleoli ar Lawr D Llyfrgell Hugh Owen, gall ein tîm cyfeillgar ddarparu cymorth o bob math, o gyngor ar ysgrifennu CV a cheisiadau am swyddi i syniadau am yrfaoedd, profiad gwaith a chyfleoedd i raddedigion.
Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor, 10am–4pm (gweler ein horiau agor yn ystod gwyliau).
