Recordiadau Gweithdai

Myfyriwr yn gwilio fideo ar ei liniadur

Wnaethoch chi fethu un o’n Gweithdai Canol Wythnos, neu hoffech chi ailymweld â phwnc benodol? Yma, fe welwch recordiadau o’n gweithdai gyrfaoedd a chyflogadwyedd, sydd wedi’u cynllunio i helpu i wella eich cyflogadwyedd a’ch parodrwydd ar gyfer gyrfa.

Sut i gael mynediad at y recordiadau

  • Myfyrwyr Presennol: Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth 
  • Graddedigion: Cysylltwch â gyrfaoedd@aber.ac.uk i wneud cais am fynediad 

Deunyddiau gweithdai 

Os hoffech gael copi o'r sleidiau PowerPoint neu adnoddau ychwanegol o unrhyw weithdy, anfonwch e-bost at gyrfaoedd@aber.ac.uk, ac fe wnawn anfon copi atoch.