Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Rhaglen amser llawn: 

Mae'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hybu meini prawf derbyn sydd yn gynhwysol; fodd bynnag, anogir ymgeiswyr sy'n ansicr o'u cymwysterau  i drafod eu cyflawniadau academaidd a'u profiadau gyda’r Swyddfa Derbyn Israddedig (derbyn@aber.ac.uk). 

Tariff UCAS 104 – 96 

Mae hyn yn cynnwys cymwysterau Lefel 3 megis: 

  • 3 Safon Uwch (Lefel A) - BCC/CCC 
  • Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru yn lle un o’r Safonau Uwch (yn unol â’r graddau a restrir uchod) 
  • Diploma Estynedig BTEC – DMM-MMM 
  • Diploma BTEC – D*D-DD 
  • Mynediad i Ddiploma Addysg Uwch – Teilyngdod yn gyffredinol 
  • Bagloriaeth Ryngwladol – 26-28 
  • Bagloriaeth Ewrop – 26% yn gyffredinol 
  • Neu unrhyw gymwysterau cyfatebol eraill.

Hefyd

  • TGAU (neu gymhwyster arall cydnabyddedig) ar isafswm gradd C/4 mewn: Saesneg/Cymraeg Iaith a Mathemateg  

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio a'r rhestr fer, ewch i'n tudalennau Cwestiynau Cyffredin pwrpasol. 

Rhaglen rhan amser: 

Mae'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hyrwyddo maen prawf mynediad cynhwysol yn unol â’r broses Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) neu’r broses Achredu Dysgu drwy Brofiad Blaenorol (APEL). Anogir ymgeiswyr i gysylltu âr Swyddfa Derbyn Israddedig (derbyn@aber.ac.uk) a'u Rheolwr Llinell eu hunain i gael rhagor o wybodaeth.

Mae'r rhaglen ran-amser ar agor i ymgeiswyr sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd mewn swyddi gofal/gofal iechyd yn y Sector Gofal Iechyd yng Nghanolbarth Cymru.  Gall ymgeiswyr ddal cymwysterau academaidd, ond bydd y gofynion mynediad i bawb ar gyfer y rhaglen ran-amser yn cynnwys cyflwyno tystiolaeth a amlinellir yn rhan o’r broses RPL neu’r broses APEL.  Rhaid dilyn y llwybr Cais Uniongyrchol er mwyn ymgeisio.

Ceisiadau drwy’r broses Cydnabod Dysgu Blaenorol [RPL]:

  • Cymhwyster Lefel 4 – Tystysgrif mewn Gofal Iechyd ar gyfer Addysg Uwch, neu gymhwyster amgen gofal iechyd cydnabyddedig/perthnasol arall ar y lefel hon/credydau hyn (neu uwch).

Rhaid i'r rhaglen hon/cymhwyster hwn gynnwys:

  • Cadarnhad bod cynnwys y rhaglen Lefel 4 (neu’r rhaglen amgen gydnabyddedig) yn gydnaws â Rhan 1 o raglen BSc Nyrsio Prifysgol Aberystwyth.
  • Cwblhau'r ddogfen Asesu Ymarfer Cymru Gyfan (2018) – Rhan 1
  • Cadarnhad o’ch oriau ymarfer (800 awr dros y ddwy flynedd ddiwethaf)
  • Cadarnhad o sgriniad Iechyd Galwedigaethol a gynhaliwyd gan gyflogwr yr ymgeisydd, gan ddarparu gwybodaeth berthnasol i'r Tîm Addysg Gofal Iechyd, a allai olygu bod angen ystyried addasiad rhesymol neu banel Addasrwydd i Ymarfer
  • Cwblhau prawf manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyda chanlyniadau’n bodloni gofynion proffesiynol (gweler gwybodaeth Addasrwydd i Ymarfer)
  • Wedi cwblhau hyfforddiant gorfodol fel y nodir gan gyflogwr yr ymgeisydd sy’n gydnaws â sgiliau’r rhaglen yn Rhan 1
  • Cais wedi’i wneud am absenoldeb astudio ac wedi’i gymeradwyo, ac wedi cael sêl bendith y Rheolwr Llinell.
  • TGAU (neu gymhwyster arall cydnabyddedig) ar isafswm gradd C/4 mewn:
    • Saesneg/Cymraeg Iaith a Mathemateg

 NEU

Ceisiadau drwy’r broses Achredu Dysgu drwy Brofiad Blaenorol (APEL):

  • Bydd APEL yn cael ei ystyried fesul unigolyn
  • Wedi cwblhau hyfforddiant gorfodol fel y nodir gan gyflogwr yr ymgeisydd sy’n gydnaws â sgiliau’r rhaglen yn Rhan 1
  • Cais wedi’i wneud am absenoldeb astudio ac wedi’i gymeradwyo, ac wedi cael sêl bendith y Rheolwr Llinell.
  • Cadarnhad o sgriniad Iechyd Galwedigaethol a gynhaliwyd gan gyflogwr yr ymgeisydd, gan ddarparu gwybodaeth berthnasol gyda’r Tîm Addysg Gofal Iechyd, a allai olygu bod angen ystyried addasiad rhesymol neu banel Addasrwydd i Ymarfer.
  • Cwblhau prawf manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyda chanlyniadau’n bodloni gofynion proffesiynol (gweler gwybodaeth Addasrwydd i Ymarfer)
  • TGAU (neu gymhwyster arall cydnabyddedig) ar isafswm gradd C/4 mewn:
    • Saesneg/Cymraeg Iaith a Mathemateg

Yn rhan o geisiadau APEL, codir tâl fel arfer am gymorth academaidd ac asesu. Cytunir ar hyn yn unol â'r nifer o gredydau sy’n rhan o broses APEL.

Gofynion Ychwanegol

Yn ogystal â chyflawniadau academaidd, er mwyn cydymffurfio â gofynion proffesiynol, mae'r meini prawf derbyn yn cynnwys hefyd: 

  • Asesiad Iechyd Da a Chymeriad Da (gweler gwybodaeth Addasrwydd i Ymarfer isod). Os cewch gynnig lle gyda ni, rhaid i chi gwblhau ffurflen Sgrinio Iechyd Galwedigaethol. 
  • Gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (gweler gwybodaeth Addasrwydd i Ymarfer isod). Os cewch gynnig lle gyda ni, rhaid i chi gael eich prawf manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

Gweler guidance-on-health-and-character-august-2020.pdf (nmc.org.uk) i gael rhagor o wybodaeth. 

Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, derbynnir y System Brofi Ryngwladol ar gyfer yr Iaith Saesneg (IELTS) â sgôr gyffredinol o 7 o leiaf, ac o leiaf 6.5 yn yr adran ysgrifennu ac o leiaf 7 yn yr adrannau darllen, gwrando a siarad. Hefyd, derbynnir tystysgrif OET â gradd C+ o leiaf mewn ysgrifennu ac o leiaf B mewn darllen, gwrando a siarad. 

Canllawiau ar Iechyd, Cymeriad ac Addasrwydd i Ymarfer

Iechyd a Chymeriad

Mae gofynion Iechyd a Chymeriad fel y'u pennwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth [NMC] yn golygu eich bod chi, fel darpar ymgeisydd a myfyriwr nyrsio, yn medru ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol, boed hynny gydag addasiadau rhesymol neu hebddynt. Nid yw'n golygu bod angen fod heb unrhyw gyflwr iechyd neu anabledd. 

Er nad yw'r NMC yn rheoleiddio myfyrwyr nyrsio, y mae’n rheoleiddio Sefydliadau Addysg Uwch sy'n gyfrifol am ddarparu addysg nyrsio cyn cofrestru, ac felly mae'n disgwyl bod darpar ymgeiswyr a myfyrwyr yn bodloni safonau iechyd a chymeriad fel y gallent ddarparu nyrsio diogel, medrus a hyderus yn unol â’r Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig (NMC, 2018) Safonau hyfedredd ar gyfer nyrsys cofrestredig - Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth .

Mae’r Cyngor hefyd yn datgan bod rhaid i iechyd a chymeriad darpar ymgeiswyr a myfyrwyr nyrsio fod yn ddigonol i alluogi ymarfer diogel ac effeithiol wrth gychwyn ar raglen astudio a thrwy gydol y rhaglen

Felly mae Canolfan Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth yn mynnu bod ei darpar fyfyrwyr, a’i myfyrwyr nyrsio presennol, yn ymgymryd â phrosesau Sgrinio Iechyd Galwedigaethol yn rhan o'r amodau am y cynnig lle i astudio, yn ystod y llwybr ymgeisio a derbyn, a fydd yn parhau ar ôl dechrau'r rhaglen.

Ceir rhagor o wybodaeth am ofynion iechyd a chymeriad yr NMC yma:

https://www.nmc.org.uk/globalassets/sitedocuments/nmc-publications/guidance-on-health-and-character-2024/

Mae Canolfan Addysg Gofal Prifysgol Aberystwyth hefyd yn dilyn arweiniad canllawiau'r Ymarferwyr Galwedigaethol Addysg Uwch [HEOPs] 2026 – Nurse, Midwife and Nursing Associate Students – Standards of Medical Fitness to Train; rhoddodd y NMC ei gyngor pan oeddynt yn cael eu llunio er mwyn iddynt gyd-fynd â'i safonau ef.

Nurse-and-Midwife-Students-Standards-for-medical-fitness-to-train-4.pdf

Ysgrifennwyd y ddogfen honno ar ôl ymgynghoriad eang ac mae'n bodloni meini prawf Deddf Cydraddoldeb 2010, gan ei bod yn ffordd gymesur o gyflawni’r nod cyfreithlon o sicrhau diogelwch defnyddwyr gwasanaeth, ac mae wedi'i thargedu at swyddogaethau sy'n hanfodol i'r ddisgyblaeth (gweler HEOPs, 2026, t2).

Yn benodol, mae'r ddogfen hon yn amlinellu:

  • Asesu imiwnedd ac imiwneiddio
  • Asesu capasiti gweithredol
    • Gweithredu’r aelodau isaf, symudedd
    • Gweithredu’r aelodau uchaf, deheurwydd
    • Gweld
    • Clywed
    • Lleferydd
    • Gweithredu’r croen
    • Torri ar ymwybyddiaeth
    • Iechyd meddwl a gallu gwybyddol
  • Cyfathrebu, gan gynnwys sgiliau dysgu, iaith a rhifedd
  • Gweithio mewn tîm

Yn unol â chanllawiau'r HEOPs, os oes gan ymgeiswyr bryderon difrifol ei bod hi’n bosib bod goblygiadau i gyflwr meddygol a allai effeithio ar y gallu i hyfforddi fel nyrs/bydwraig/cydymaith nyrsio yn y dyfodol, dylent gysylltu â darparwr y cwrs neu’r rhaglen;  lle y bo’n briodol byddant yn cael cynnig cyngor proffesiynol (2026, t2).

Yn unol ag unrhyw wybodaeth sy’n dod i’r amlwg yn y broses honno, bydd unrhyw addasiadau rhesymol a argymhellir yn cael eu hystyried ar y cyd gan staff y Ganolfan Addysg Iechyd, yr ymgeisydd/myfyriwr nyrsio a staff Gwasanaeth Hygyrchedd a Lles Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth lle bo angen.

Mae Canolfan Addysg Iechyd Prifysgol Aberystwyth hefyd yn gofyn am sgrinio uwch drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd [DBS] (neu gamau cyfatebol) ar gyfer pob darpar ymgeisydd a myfyriwr sy'n ymgymryd â'r rhaglen.  Mae hyn eto’n ymwneud â bodloni gofynion Iechyd a Chymeriad yr NMC ac mae’n rhaid ei sicrhau wrth gychwyn y rhaglen astudio, a thrwy gydol y rhaglen

Er mai gofyniad gan yr NMC yw hynny, mae hefyd yn broses ddiogelu er mwyn amddiffyn y cyhoedd, gan fod angen i’r holl fyfyrwyr gwblhau gwiriad y DBS, a chael canlyniadau sy'n bodloni’r gofynion proffesiynol, er mwyn iddynt allu ymgymryd â lleoliadau ymarfer clinigol gyda rhanddeiliaid, ac er mwyn gofalu am gleifion, defnyddwyr gwasanaethau, cleientiaid a'u teuluoedd. 

Bydd y broses sgrinio hon yn cael ei hwyluso gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer yr ymgeiswyr sydd wedi cael cynnig lle i astudio, gan ei bod yn rhan o’r amodau derbyn.  Ar ôl cychwyn ar y rhaglen nyrsio cyn cofrestru, bydd angen i’r myfyrwyr wneud datganiad blynyddol, a disgwylir iddynt roi gwybod am unrhyw euogfarnau, rhybuddiadau swyddogol, cyhuddiadau sydd yn yr arfaeth, neu benderfyniadau anffafriol a wnaed gan reoleiddwyr, cyrff proffesiynol a sefydliadau addysgol eraill a wnaed ar ôl iddynt gyflwyno'r DBS cychwynnol a chwblhau eu sgrinio blynyddol.

Os bydd unrhyw faterion sy'n ymwneud â'ch iechyd a'ch cymeriad yn dod i’r amlwg drwy ein prosesau sgrinio, mae’n bosib - yn dibynnu ar y difrifoldeb a’r goblygiadau ar gyfer ymarfer diogel ac effeithiol - y bydd Panel Addasrwydd i Ymarfer yn cael ei gynnal er mwyn craffu ar y sefyllfa benodol dan sylw a gwneud penderfyniad ynghylch eich cymhwysedd i gael eich derbyn ar y rhaglen.

Mae'r Panel Addasrwydd i Ymarfer hefyd yn ystyried iechyd a chymeriad myfyrwyr drwy gydol y rhaglen, rhag ofn bod unrhyw achosion a/neu salwch yn digwydd yn ystod eu hyfforddiant a allai effeithio ar eu dysgu a/neu ar leoliadau clinigol sy'n canolbwyntio ar eu gallu i ddarparu ymarfer nyrsio diogel ac effeithiol.

Mae cymorth a chyngor ar gael i fyfyrwyr drwy’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr (Cymorth i Fyfyrwyr : Astudio Gyda Ni , Prifysgol Aberystwyth) ar unrhyw adeg yn ystod y rhaglen.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'r wybodaeth uchod, cysylltwch â'r tîm derbyn ym Mhrifysgol Aberystwyth (derbyn-israddedig@aber.ac.uk).

 

Dewis Myfyrwyr

Ar ôl derbyn eich cais, bydd Tiwtoriaid Derbyn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn darllen trwy eich dogfennau er mwyn asesu a ydych yn bodloni meini prawf parhaol ein proses dderbyn. Noder bod y llefydd i astudio ar y rhaglen hon yn gystadleuol dros ben, ac os na chewch eich gwahodd i gam nesaf y broses dderbyn ar yr ymgais hon, byddem yn eich annog yn gryf i wneud cais eto yn y dyfodol.  

Bydd y rhestr fer gychwynnol yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddwyd yn eich cais, gan gynnwys eich datganiad personol a'ch geirda. Ni fydd ceisiadau nad yw’n cynnwys gwybodaeth allweddol (e.e., manylion y cymwysterau a enillwyd/y cymwysterau rydych ar fin eu hennill, datganiadau personol, geirdaon) yn cael eu hystyried ar gyfer y rhestr fer.  

Os yw eich cais yn bodloni cam nesaf y meini prawf derbyn, fe'ch gwahoddir i un o'n Digwyddiadau Dethol Myfyrwyr. Bydd yr holl ymgeiswyr sy'n dod i’r Digwyddiadau Dethol Myfyrwyr yn cael eu hasesu yn unol ag egwyddorion Recriwtio a Dethol Myfyrwyr Cymru gyfan. Ar ôl i’r holl ddigwyddiadau hyn ddod i ben, byddwn yn enwi ac yn cytuno ar ein darpar garfan o fyfyrwyr cyn gynted â phosibl, a byddwn yn ceisio rhoi cynigion amodol yn fuan ar ôl hynny.  

Bydd digwyddiadau dethol y Brifysgol yn cael eu cefnogi gan staff Addysg Gofal Iechyd mewnol, Partneriaid Dysgu Ymarfer, defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr/aelodau'r cyhoedd a myfyrwyr. Bydd y digwyddiadau fel arfer yn para oddeutu hanner diwrnod.   

Bydd digwyddiad dethol Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys: 

  • Sgwrs a throsolwg rhagarweiniol o'r rhaglen 
  • Taith o amgylch y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd 
  • Trafodaeth/dadl mewn grŵp  
  • Gweithgaredd gwaith tîm nas gwelwyd ymlaen llaw 
  • Senario unigol 
  • Cyfweliad un i un  
  • Cyfle i gwrdd â staff a myfyrwyr presennol, a holi cwestiynau. 

Sylwch y bydd ein Digwyddiadau Dethol Myfyrwyr arfaethedig yn cael eu hwyluso yn unol â rheoliadau Covid-19 cyfredol y Brifysgol/Llywodraeth Cymru, ac y gallent efallai fod yn wahanol i'r hyn a amlinellir yma.

Derbyniadau cyd-destunol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu polisi derbyniadau cynhwysol sy’n cydnabod natur unigol pob cais a gawn.  Rydym wedi ymrwymo i helpu'r agenda ehangu cyfranogiad sy'n cefnogi dilyniant i addysg uwch. Mae’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn cefnogi derbyniadau cyd-destunol a bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar eu teilyngdod fel unigolion.

Ar gyfer ymgeiswyr sy'n gwneud cais am ein cyrsiau nyrsio israddedig, gall y Brifysgol ystyried cynigion cyd-destunol os bydd unrhyw un o'r meini prawf canlynol yn berthnasol i amgylchiadau personol yr ymgeisydd ei hun:

  • Os yw wedi bod mewn gofal neu wedi derbyn gofal am dri mis neu ragor
  • Ymgeiswyr sy'n ofalwyr ifanc (Mae gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sy'n gofalu, yn ddi-dâl, am aelod o'r teulu neu ffrind sydd â salwch neu anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu ddibyniaeth)
  • Ymgeiswyr sy'n byw mewn ardal o amddifadedd uchel (yn perthyn i 20% isaf MALIC)
  • Ymgeiswyr nad yw eu rhieni wedi cael addysg i lefel Addysg Uwch ("AU")
  • Ymgeiswyr sy'n dal nodwedd warchodedig ac sy'n cael eu tangynrychioli mewn addysg uwch

Cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Graddedigion (derbyn-israddedig@aber.ac.uk) neu un o Diwtoriaid Derbyn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd i gael rhagor o wybodaeth (nrsstaff@aber.ac.uk).