Cymorth i Fyfyrwyr

Student support counselling session

Bydd ystod eang o wasanaethau cymorth ar gael ichi yn y Brifysgol. Gall y gwasanaethau hyn eich helpu i oresgyn y rhan fwyaf o’r heriau a ddaw i’ch rhan fel myfyriwr.

Y Gwasanaeth Hygyrchedd

Fel Prifysgol, rydym yn ymrwymedig i gynnal cymuned y gall pawb fanteisio arni ac rydym yn croesawu ceisiadau gan ystod eang o fyfyrwyr. Mae ein Gwasanaeth Hygyrchedd yn darparu cymorth i fyfyrwyr anabl ac i’r rhai sydd â gwahaniaethau dysgu penodol, yn ogystal ag i fyfyrwyr sy’n gadael gofal a myfyrwyr eraill heb gefnogaeth. Mae hefyd yn cefnogi myfyrwyr trawsryweddol ac anneuaidd. Os ydych yn byw ag amhariad, neu os oes gennych ofynion penodol, dewch i’n gweld neu cysylltwch â ni cyn ichi wneud cais er mwyn ichi drafod eich anghenion a’r cymorth y gallwn ei gynnig ichi.

Os ydych yn gymwys, gall ein cynghorwyr drefnu gweithiwr cymorth, gan gynnwys cymorth â sgiliau astudio unigol. Gellir gwneud trefniadau arbennig mewn arholiadau, neu asesiadau amgen, i fyfyrwyr sydd ag amhariadau amrywiol, gan gynnwys gwahaniaethau dysgu penodol, er enghraifft dyslecsia a dyspracsia.

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn cysylltu â’n Cynghorwyr Hygyrchedd i drafod asesiad o anghenion astudio ac i gael cyngor ar grantiau, er enghraifft y Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA).

Y Gwasanaeth Hygyrchedd

Nawdd Nos

Mae’r gwasanaeth gwrando annibynnol hwn yn cael ei redeg gan fyfyrwyr, i fyfyrwyr. Mae’n cynnig llinell gymorth gyfrinachol a gwasanaeth e-bost a negeseua gwib. Ewch i wefan Nightline i gael rhagor o wybodaeth.

Mentora ‘Ffordd Hyn’

Cynllun mentora gan gymheiriaid cyfeillgar a chyfrinachol yw ‘Ffordd Hyn’ ar gyfer yr holl israddedigion newydd. Mae’n cynnig cyngor unigol i’ch helpu chi i ymgartrefu, i gynllunio at y dyfodol ac i wneud y gorau o’ch cyfnod yn y brifysgol.

Y Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian yn darparu cymorth ar ystod eang o faterion. Mae ein cynghorwyr wedi’u hachredu gan Gymdeithas Genedlaethol Cynghorwyr Arian Myfyrwyr (NASMA) a gallant hefyd eich cyfeirio at gymorth sy’n ymwneud â llety, cynnydd academaidd a gweithdrefnau’r Brifysgol.

Y Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian

Gwasanaeth Lles Myfyrwyr

Er bod ein staff yn dal cymwysterau proffesiynol ac yn gwnselwyr cofrestredig neu’n arbenigwyr iechyd meddwl, nid yw’r gwasanaeth yn disodli gwasanaethau iechyd meddwl statudol. Ein nod ni yn hytrach yw gweithio gyda chi, gan ddefnyddio technegau sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau, er mwyn ichi feithrin gwytnwch, a’ch helpu i ddatblygu pecyn o sgiliau a fydd yn eich galluogi chi i reoli eich lles yn effeithiol tra byddwch yn y brifysgol a’r tu hwnt. Lle bo hynny’n briodol, byddwn yn eich cyfeirio at ddeunyddiau hunangymorth neu at lwyfannau ar-lein, neu efallai y byddwn yn eich cyfeirio at gymorth allanol os mai hynny sydd orau ichi.

Gwasanaeth Lles Myfyrwyr

Cyngor ar Fisâu a Mewnfudo

Mae’r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol yn darparu cyngor arbenigol ar fisâu astudio i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd ac o’r tu allan iddi sy’n dod i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r cyngor y mae’r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol yn ei roi wedi’i reoleiddio gan Swyddfa Comisiynydd y Gwasanaethau Mewnfudo.