BSc Nyrsio (Iechyd Oedolion) - B74P (rhan amser)

Adult Nurse

Mae nyrsio yn fwy na gyrfa anhygoel a gwerth chweil. Mae'n daith broffesiynol, yn llawn profiadau gwerthfawr. Mae nyrsys yn cyffwrdd â bywydau pob math o bobl o bob cefndir, pan fydd y bobl hynny mewn angen. Rydyn ni'n darparu gofal holistig, caredigrwydd a thosturi ar adegau mae pobl a'u teuluoedd ar eu mwyaf bregus. Bydd nyrsio yn rhan o'ch hunaniaeth, a bydd y daith hon yn llawn emosiynau a phrofiadau dwys, ond fe fydd yn gwbl werth chweil.

Yn yr 21ain ganrif mae nyrsio’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa mewn sectorau gwahanol o'r gymdeithas, a bydd y cwrs hwn yn eich paratoi'n drwyadl amdanynt. Mae'r rhaglen nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cofleidio ei gwreiddiau gwledig yng Nghanolbarth Cymru, ac yn cynnig profiad dysgu penodol ac agos-atoch chi mewn ardal ogoneddus lle mae mynyddoedd yn cyfarfod y môr. Bydd modelau o ddarparu gofal nyrsio deinamig yn seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu hategu gan elfennau sylfaenol ymarfer nyrsio holistig. Cyflwynir sawl safbwynt wahanol ynglŷn â gofal a bydd rhaglen Prifysgol Aberystwyth yn rhoi'r sgiliau y byddwch eu hangen i gyfrannu at weithlu nyrsio'r dyfodol.

Trosolwg

Bydd y rhaglenni arloesol hyn ym meysydd nyrsio oedolion a nyrsio iechyd meddwl yn eich dysgu am ofal holistig a gofal sy'n canolbwyntio ar deuluoedd, a sut i’w gymhwyso’n hyderus mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd clinigol. Cewch brofiad o nifer o leoliadau ymarfer gwahanol gyda’n Partneriaid Dysgu Ymarfer.

Os ydych yn fyfyriwr rhan amser, yn cymryd rhaglen nyrsio 2 blynedd  a 7 mis (maes iechyd oedolion neu iechyd meddwl), bydd disgwyl ichi wneud 37.5 awr yr wythnos o astudio yn ystod yr wythnosau theori, a 37.5 awr yr wythnos pan fyddwch ar leoliadau ymarfer. Bydd y theori yn cael ei gyflwyno ar sawl ffurf wahanol i fod yn addas i bob dull o ddysgu, gan gynnwys darlithoedd arweiniol, seminarau, gweithdai, grwpiau bach, efelychu sgiliau clinigol, dysgu cyfunol ar-lein, ac astudio hunan-gyfeiriedig.

Rhennir y rhaglen amser llawn yn gyfartal rhwng wythnosau theori ac wythnosau ymarfer, i gyfanswm o 4,800 awr o ddysgu.

Ym maes nyrsio cyn-gofrestru, rydym yn defnyddio blwyddyn tri semester, yr un peth â'r flwyddyn ysgol. Felly, bydd pob blwyddyn neu bob rhan o'ch rhaglen astudio yn dechrau yn gynnar ym mis Medi cyn i fyfyrwyr y rhan fwyaf o'r rhaglenni eraill gyrraedd y Brifysgol, a bydd yn parhau tan ddiwedd mis Gorffennaf ymhob blwyddyn academaidd.

Canolfan Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth

Mae Canolfan Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth wedi'i lleoli gyferbyn â champws Penglais y Brifysgol. Canolfan newydd ei sefydlu yw hon, ac mae'n cynnwys Uned Sgiliau Clinigol, sef ystafelloedd efelychu hollol fodern lle gallwch ddysgu ac ymarfer sgiliau clinigol mewn amgylchfyd diogel a chefnogol.

Eisiau astudio trwy gyfrwng y Gymraeg?

Gallwch astudio hanner cant y cant o'r rhaglen trwy gyfrwng y Gymraeg. Caiff hyn ei ddarparu trwy'r modiwl seiliedig ar ymarfer, lle cewch eich cynorthwyo gan Arolygwyr Ymarfer ac Aseswyr Ymarfer sy'n siarad Cymraeg yn ystod eich lleoliadau clinigol, a chwblhau asesiadau yn gysylltiedig ag ymarfer trwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad ydych yn siarad Cymraeg ond yr hoffech ddysgu'r iaith, mae'r rhaglen yn cynnig hefyd wersi sgwrsio sylfaenol yn gysylltiedig ag iechyd.

Ein staff

Mae pob un o ddarlithwyr gofal iechyd y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn ymarferwyr wedi eu cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Mae gan y tîm ehangder o brofiad ac maent wedi gweithio'n helaeth mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd clinigol, ymchwil ac academaidd. Mae pob un o'n darlithwyr gofal iechyd yn cynnal eu cofrestriad trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus ac mae ganddynt ystod o gymwysterau ôl-raddedig i adlewyrchu hyn. 

Bydd gweithgareddau dysgu ac addysgu yn cael eu cynorthwyo gan ein Partneriaid Dysgu Ymarfer, sefydliadau elusennol a mudiadau gwirfoddol, ac yn bwysicach na dim gan ddefnyddwyr y gwasanaethau a gofalwyr o blith y cyhoedd, a fydd yn rhannu eu profiadau personol. Cleifion a'u teuluoedd sydd wrth galon popeth a wnawn. Dyma'r rheswm pam ein bod yn credu bod profiadau a rennir yn ddull grymus o ddysgu a magu dealltwriaeth.

Bydd cydweithwyr o'r Brifysgol yn ehangach, sy'n arbenigwyr amlwg yn eu meysydd, hefyd yn darparu arbenigedd dysgu ychwanegol yn y rhaglen nyrsio. 

Cyflogadwyedd

Fel nyrs, fe fydd galw gwastadol am eich sgiliau, a bydd eich profiadau dysgu yn ystod eich cwrs gradd yn eich rhoi mewn sefyllfa i ddatblygu eich diddordebau a'ch arbenigedd clinigol. Mae nyrsio yn broffesiwn hyblyg, ac mae cyfleoedd gwaith i'w cael mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd a thrydyddol, gwasanaethau cymunedol, addysg, ymchwil, twristiaeth, diwydiant, y sectorau cyhoeddus a phreifat, mudiadau gwirfoddol ac elusennol - yma ac yn rhyngwladol. Gall swyddogaethau uwch arwain at gyfleoedd sy'n cynorthwyo i symud eich gyrfa ymlaen ar ôl cymhwyso, i swyddi yn cynnwys rheoli, ymarfer ac ymchwil clinigol uwch ac arbenigol.

Comisiynwyd y lleoedd astudio ar y rhaglen hon gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a bydd y cyllid i dalu ffioedd dysgu yn unol â Chynllun Bwrsariaethau GIG Cymru. Mae rhagor o gymorth ariannol ar gyfer y Cynllun i'w gael hefyd (gweler ein tudalen Ffioedd a Chyllid i gael rhagor o wybodaeth). Bydd yn rhaid i chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso a chofrestru yn nyrs gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Rheolir y drefn hon yn ganolog gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a bydd y Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr yn gwneud yn sicr y cewch eich rhoi mewn sefyllfa addas o'ch dewis yn yr ardal a nodwyd gennych.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd Rhan 1 yn canolbwyntio ar eich cyflwyno i nyrsio fel gyrfa mewn ymarfer proffesiynol. Bydd modiwlau sy'n cwmpasu'r ddau faes, lle dysgir myfyrwyr nyrsio iechyd oedolion ac iechyd meddwl ar y cyd, yn canolbwyntio ar ddarparu gofal holistig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a bydd yn datblygu eich dealltwriaeth o ddatblygiad dynol, ffactorau sy'n effeithio ar iechyd a lles, a bydd darparu gwasanaeth, ymarfer nyrsio proffesiynol, anatomeg ddynol, ffisioleg a ffarmacoleg yn cael eu cynnwys hefyd. Bydd modiwlau theori hefyd yn eich paratoi am y tri lleoliad ymarfer clinigol, ac yn rhoi cyfle i chi ddysgu sgiliau gofal hanfodol, a chwblhau'r pasbort hyfforddi gorfodol Cymru-gyfan yn ein Huned Sgiliau Clinigol aml-broffesiynol arloesol.

Bydd Rhan 2 yn canolbwyntio ar wella eich ymarfer proffesiynol. Bydd modiwlau penodol i'r maes yn datblygu eich dealltwriaeth o'r wybodaeth sy'n sylfaen i'ch dewis faes (iechyd oedolion neu iechyd meddwl), ymchwilio i gyflyrau cyffredin a chymhleth, pathoffisioleg, proses clefydau a rheoli symptomau. Byddwch hefyd yn magu dealltwriaeth ddyfnach o anatomeg ddynol, ffisioleg, ffarmacoleg, ac yn dod i ddeall sut mae'r wybodaeth hon yn bwydo i ymarfer nyrsio proffesiynol a gofal holistig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn benodol i'ch dewis faes chi. Byddwch hefyd yn cael tri lleoliad pellach seiliedig ar ymarfer yn ystod y flwyddyn.

Yn Rhan 3 fe ddysgir modiwlau sy'n benodol i feysydd a modiwlau sy'n rhychwantu meysydd, a chanolbwyntir ar ddatblygu dawn i arwain gyda thosturi - dawn y bydd ei hangen wrth ymarfer yn broffesiynol. Bydd y modiwl yn cyflwyno egwyddorion sylfaenol sy'n sail i greadigrwydd, arloesi a newid wrth ymarfer, yn ogystal ag ailymweld â chysyniadau allweddol sy'n cynnal nyrsio a rheolaeth feddygol. Cewch eich tywys i fyfyrio ar eich taith ddysgu hyd yn hyn ac ystyried yn feirniadol pa mor barod ydych chi i fod yn weithiwr proffesiynol cofrestredig annibynnol sydd â'r hyder i ddarparu gofal nyrsio diogel, holistig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Ar ben hyn, fe gewch dri lleoliad pellach seiliedig ar ymarfer yn ystod y flwyddyn.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Mae'r rhaglen nyrsio wedi mabwysiadu dull o ddysgu cyfunol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr ac yn defnyddio cyfuniad o addysgu hunan-gyfeiriedig, ar-lein ac wyneb yn wyneb, a gyflwynir trwy ddarlithoedd, seminarau, gwaith mewn grwpiau, cyflwyniadau, gweithdai, efelychiadau, astudiaethau achos, setiau dysgu gweithredol ac arolygaeth glinigol. Lle bo'n bosib, mae'r rhaglen yn anelu i ystyried gofynion teulu ac i gadw teithio i ddarlithoedd i'r isafswm posib, a gallwch ddod i rai sesiynau o bell ar-lein trwy lwyfannau dysgu'r Brifysgol.

Mae efelychiadau yn hanfodol i addysg nyrsio ac mae'r Brifysgol wedi buddsoddi mewn Uned Sgiliau Clinigol sy'n modelu darpariaeth gofal lleol. Mae hyn yn cynnwys meysydd sy'n adlewyrchu taith y claf o'r cartref a'r gwasanaethau cymunedol i asesiad, gofal wedi'i gynllunio a gofal acíwt. Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr o ddefnyddio sgiliau clinigol mewn amgylchfyd dysgu sy'n ddiogel ac yn adlewyrchu'r profiad nyrs/claf.

Fe fyddwch wrth gwrs yn dysgu crefft ymarfer nyrsio yn ystod y lleoliadau ymarfer clinigol, lle cewch gyfleoedd uniongyrchol dan arolygaeth i gymryd rhan yn y broses o ofalu am gleifion. Cewch brofiad o lawer o wahanol gyfleoedd dysgu mewn lleoliad ymarfer a gynigir gan ein Partneriaid. Bydd yn hanfodol i chi gael lleoliadau dysgu mewn ardaloedd gwledig ar draws Canolbarth Cymru a bydd rhai o'r lleoliadau gryn bellter o gampws y Brifysgol. Os yw cludiant i gyrraedd eich lleoliadau yn bryder ichi, gellid ystyried posibiliadau o lety wedi'i noddi wrth i chi gymryd y lleoliadau ymarfer hyn.  Cewch eich cynorthwyo mewn ymarfer gan nyrsys profiadol a elwir yn Arolygwyr Ymarfer ac Aseswyr Ymarfer. 

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i asesu eich dysgu. Cewch eich asesu hefyd yn eich ymarfer gan yr Asesydd Ymarfer a'r Asesydd Academaidd penodol i chi.  Rhaid ichi basio asesiadau hyfedredd, agwedd ac ymddygiad proffesiynol Unwaith i Gymru ac asesiadau penodol diwedd cyfnod, y cwbl yn rhan o Ddogfen Asesu Ymarfer Cymru Gyfan a'r Cofnod Cyrhaeddiad Parhaus.

Yn ystod y rhaglen tair blynedd, bydd pob myfyriwr yn cael tiwtor personol a fydd yn cynorthwyo eich taith ddysgu a'ch datblygiad proffesiynol. Mae swyddogaeth y tiwtoriaid personol yn hanfodol. Maent yn cynorthwyo myfyrwyr os oes ganddynt ymholiadau neu broblemau, ac yn eich cynorthwyo i wneud y mwyaf o'ch profiad fel myfyriwr.

Modiwlau

Modiwl 1: Introduction to Professional Practice (Rhan 1)

Modiwl yw hwn sy'n cwmpasu'r meysydd. Mae'n cyflwyno cysyniad nyrsio, ymarfer proffesiynol a gofal holistig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Canolbwyntir ar feithrin dealltwriaeth o ddatblygiad dynol, ffarmacoleg sylfaenol ac ymarfer nyrsio proffesiynol. Bydd cyfathrebu - llafar ac ysgrifenedig - yn cael eu hastudio yn ogystal ag arferion myfyrgar i gynyddu hunan ymwybyddiaeth.

Modiwl 2: Developing Professional Practice (Rhan 1)

Modiwl sy'n cwmpasu'r meysydd ac yn datblygu ymhellach gysyniad nyrsio, ymarfer proffesiynol a gofal holistig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn trafod cysyniadau yn gysylltiedig â dylanwadau ehangach ar iechyd a lles. Cyflwynir sgiliau allweddol ar gyfer gofalu am ddefnyddwyr y gwasanaeth ar hyd eu hoes mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, gan bwysleisio sut i ateb gofynion corfforol ac emosiynol.

Modiwl 3: Understanding the Human Body (Rhan 1)

Modiwl yn cwmpasu meysydd sy'n datblygu dealltwriaeth ddyfnach o'r corff dynol. Trwy ddulliau systematig, astudir anatomeg, ffisioleg, pathoffisioleg ac anhwylderau cyffredin gan ystyried sut mae'r wybodaeth hon yn rhoi sail i ymarfer nyrsio a gofal holistig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Caiff myfyrwyr eu hannog i ystyried effeithiau'r rhain ar ddefnyddwyr unigol y gwasanaeth trwy ddefnyddio 'teulu rhithiol'.

Modiwl 5: Introduction to Field Specific Nursing (modiwlau Iechyd Oedolion ac Iechyd MeddwlRhan 2)

Modiwlau penodol i'r maes sy'n cyflwyno cysyniadau allweddol nyrsio oedolion neu nyrsio iechyd meddwl. Canolbwyntir ar feithrin dealltwriaeth o'r wybodaeth sy'n sylfaen i'r maes, archwilio cyflyrau cyffredin, pathoffisioleg waelodol, prosesau clefydau a rheoli symptomau. Astudir sgiliau sy'n gysylltiedig â gofalu am ddefnyddwyr y gwasanaeth ar draws cylch oes, a bydd hyn yn canolbwyntio ar bolisïau gofal, egwyddorion cyfreithiol, moesegol a moesol, yn ogystal ag edrych ar y broses heneiddio a fydd yn cynnwys cysyniadau cymdeithasol a diwylliannol.

Modiwl 6: Complex Field Specific Nursing (modiwlau Iechyd Oedolion ac Iechyd Meddwl - Rhan 2)

Modiwlau penodol i'r maes sy'n astudio gofynion gofal cymhleth defnyddwyr y gwasanaeth sydd ag aml batholegau a chlefydau cymhleth sy'n cyfyngu ar fywyd, a gweld sut y gellir ateb gofynion corfforol ac emosiynol. Canolbwyntir ar ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach ynglŷn â rheoli symptomau mewn sefyllfaoedd gofal cymhleth a sut mae hyn yn bwydo i ymarfer nyrsio oedolion/iechyd meddwl, yn ogystal â dysgu'r sgiliau allweddol angenrheidiol. Bydd marwolaeth a marw yn cael eu hystyried hefyd fel damcaniaethau allweddol yn gysylltiedig â galaru a normau  cymdeithasol/diwylliannol.

Modiwl 7: Pathophysiology of Common Conditions (modiwlau Iechyd Oedolion ac Iechyd MeddwlRhan 2)

Modiwlau penodol i feysydd, a fydd yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o anatomeg, ffisioleg, pathoffisioleg a ffarmacoleg dynol a bydd yr wybodaeth hon yn sail i ymarfer nyrsio. Gan ddefnyddio dull seiliedig ar achosion, anogir myfyrwyr i astudio anhwylderau cyffredin ymhellach ac ystyried sut y gallant effeithio ar ddefnyddwyr unigol y gwasanaeth trwy ddefnyddio'r 'teulu rhithiol'.

Modiwl 9: Compassionate Leadership and Management (Rhan 3)

Modiwl yn cwmpasu'r meysydd, yn cyflwyno egwyddorion a sgiliau craidd sy'n sail i arwain â thosturi a rheoli'n effeithiol. Dywedir bod arwain a rheoli yn hanfodol i lwyddiant polisïau iechyd y dyfodol, er mwyn datblygu ymarferwyr a all ysgogi newid, ymrymuso ac arwain trwy esiampl, yn ogystal â chreu amgylchfyd lle mae arloesi a gwelliannau parhaus yn gwella ansawdd y gwasanaethau iechyd a gofal.

Modiwl 10: Innovating Practice (Rhan 3)

Modiwl sy'n cwmpasu'r meysydd. Cyflwynir yr egwyddorion sylfaenol sy'n waelodol i greadigrwydd, arloesi a newid mewn ymarfer er mwyn cyfoethogi gofal holistig tosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae nyrsys cofrestredig yn gwneud cyfraniad allweddol i'r broses barhaus o fonitro a gwella ansawdd gofal a thriniaethau er mwyn gwella canlyniadau iechyd a sicrhau profiad cadarnhaol i gleifion. Canolbwyntir ar astudio strategaethau i fonitro ansawdd, ac i ystyried sut i hyrwyddo arloesi mewn gofal iechyd trwy egwyddorion gwella ansawdd.

Modiwl 11: Transition to Autonomous Practitioner (modiwlau Iechyd Oedolion ac Iechyd MeddwlRhan 3)

Modiwlau penodol i'r maes sy'n ailymweld â chysyniadau allweddol gwaelodol nyrsio, rheoli meddyginiaethau, ymarfer proffesiynol a gofal holistig unigol. Canolbwyntir ar ystyried y daith ddysgu hyd yn hyn ac ar wneud archwiliad beirniadol o barodrwydd y myfyriwr i fod yn weithiwr proffesiynol cofrestredig annibynnol sydd â hyder i ddarparu gofal nyrsio diogel, effeithiol holistig yn canolbwyntio ar y claf.

Modiwlau Lleoliad Ymarfer:

Modiwl 4: Demonstrating Professional Practice (Rhan 1)*

Modiwl 8: Enhancing Professional Practice (Rhan 2)*

Modiwl 12: Leading Professional Practice (Rhan 3)*

Yn ystod y rhaglen tair blynedd, cynhelir naw lleoliad i gael profiad ymarfer (tri bob blwyddyn). Canolbwyntir ar ddatblygu'r sgiliau a'r nodweddion sy'n gysylltiedig ag ymarfer nyrsio proffesiynol er mwyn ichi allu darparu gofal nyrsio tosturiol a diogel. Cewch eich cynorthwyo yn y lleoliad gan Arolygwyr Ymarfer ac Aseswyr Ymarfer. Bydd myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr clinigol er mwyn ennill medrau y cytunir arnynt sy'n adlewyrchu'r sgiliau sy'n rhaid i nyrsys cofrestredig eu dangos wrth ofalu am bobl o bob oed ac ar draws bob sefyllfa gofal.

* Cynigir y modiwlau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd

Gofynion Mynediad

Mae Canolfan Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth yn hyrwyddo meini prawf derbyn cynhwysol yn unol â system pwyntiau UCAS. Anogir ymgeiswyr i gysylltu â Thiwtor Derbyn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd. (nrsstaff@aber.ac.uk) a'r rheolwr llinell i gael rhagor o wybodaeth.

Gwneud cais trwy UCAS:

  • Pwyntiau UCAS 104 - 96
  • 3 gradd Safon Uwch – BCC/CCC
  • Bagloriaeth Cymru - derbynnir y Dystysgrif Her Sgiliau yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod)
  • Diploma Estynedig BTEC - DMM-MMM
  • Diploma BTEC - D*D-DD
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch - Teilyngdod cyffredinol
  • Bagloriaeth Ryngwladol - 26-28
  • Bagloriaeth Ewropeaidd - 26% yn gyffredinol
  • Neu unrhyw gymwysterau cyfwerth eraill
  • TGAU (neu gymhwyster cyfwerth) - o leiaf C/4 mewn:
    • Cymraeg/Saesneg Iaith a Mathemateg 

 

APeL/RPL (Derbyniadau cyd-destunol):

  • Cyflwyno portffolio o dystiolaeth sy'n dangos lle mae eich profiad a'ch dysgu blaenorol yn sefyll yng nghyd-destun canlyniadau dysgu'r modiwlau (modiwlau 1, 2, 3, 4 a Rhan 1 y rhaglen).
  • Cadarnhad o oriau ymarfer (800 awr dros y ddwy flynedd ddiwethaf)
  • Tystiolaeth o fapio cyfarwyddeb EC ym maes gofal cyffredinol (gofal Oedolion)
  • Hyfforddiant gorfodol yn cydymffurfio â'r hyn a nodwyd gan eich cyflogwr, sy'n cyfateb i sgiliau'r rhaglen a fapiwyd ar gyfer Rhan 1.
  • Cais a chymeradwyaeth am gyfnod astudio, a chytundeb y rheolwr llinell
  • TGAU (neu gymhwyster cyfwerth) - o leiaf C/4 mewn Cymraeg/Saesneg Iaith a Mathemateg.

Yn achos ceisiadau APel, codir tâl fel arfer am gefnogaeth ac asesiadau academaidd. Cytunir ar hyn yn unol â nifer y credydau i'w hachredu ar sail dysgu blaenorol.

Gofynion Ychwanegol

Yn ogystal â chyflawniadau academaidd, er mwyn cydymffurfio â gofynion proffesiynol, rhaid i'r meini prawf derbyn gynnwys amodau eraill, er enghraifft:

  • Iechyd Da ac asesiad o Gymeriad Da (gweler yr wybodaeth am Addasrwydd i Ymarfer isod). Os cewch gynnig lle i astudio gyda ni, rhaid ichi gwblhau:
  • Gwiriad Iechyd Galwedigaethol

a

  • Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
  • Yn achos myfyrwyr rhyngwladol, derbynnir sgôr cyffredinol o 7 o leiaf, ac o leiaf 6.5 yn yr adran ysgrifennu ac o leiaf 7 am ddarllen, gwrando a siarad yn y System Brofi Ryngwladol ar gyfer y Saesneg. Derbynnir hefyd isafswm o C+ yn nhystysgrif OET am ysgrifennu ac o leiaf B am ddarllen, gwrando a siarad.

 Ewch i Cyfarwyddyd ar iechyd a chymeriad gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i gael mwy o wybodaeth.

Addasrwydd i Ymarfer

Mae gofynion iechyd a chymeriad da fel y nodir yn neddfwriaeth y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn golygu eich bod yn gallu ymarfer yn ddiogel ac effeithiol, naill ai gydag addasiadau rhesymol neu heb addasiadau. Nid yw'n golygu nad oes dim cyflwr iechyd neu anabledd. Felly, pe bai unrhyw faterion yn ymwneud â'ch iechyd a'ch cymeriad yn dod i'r golwg trwy ein gwiriadau, bydd Panel Addasrwydd i Ymarfer yn edrych ar bob sefyllfa unigol ac yn gwneud penderfyniad ynglŷn â'ch addasrwydd i'ch derbyn ar y rhaglen. Os oes gennych bryderon am hyn, cofiwch drafod ymhellach â'r Tiwtor Derbyn.

Bydd y panel Addasrwydd i Ymarfer yn ystyried iechyd a chymeriad myfyrwyr trwy gydol y rhaglen hefyd, pe byddai unrhyw ddigwyddiad a/neu afiechyd yn ystod eich hyfforddiant yn effeithio ar eich dysgu a/neu ar leoliadau clinigol. Gallwch gael cymorth a chyngor ynglŷn â'ch iechyd a'ch lles trwy Wasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd unrhyw bryd yn ystod y rhaglen.

Dewis Myfyrwyr

Yn unol â dull Unwaith i Gymru, bydd y rhai sy'n ateb y gofynion mynediad yn cael eu gwahodd i Achlysur Dewis Myfyrwyr.  Ar yr achlysuron dewis myfyrwyr, bydd y Brifysgol yn cael ei chynorthwyo gan staff Addysg Gofal Iechyd, Partneriaid Dysgu Ymarfer, defnyddwyr y gwasanaethau, gofalwyr a myfyrwyr. Tua hanner diwrnod fydd y digwyddiadau hyn yn para fel arfer.

Bydd achlysur dewis myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys:

  • Sgwrs ragarweiniol a golwg gyffredinol ar y rhaglen
  • Taith o'r adran ac adnoddau ehangach y Brifysgol
  • Trafodaeth/sgyrsiau mewn grwpiau
  • Gweithgaredd tîm byrfyfyr
  • Sefyllfa unigol
  • Cyfweliad 1:1
  • Cyfle i gwrdd ag aelodau o'r staff a myfyrwyr, a gofyn cwestiynau

Yn ystod yr achlysur, cewch eich sgorio yn erbyn Egwyddorion Denu a Dewis Cymru Gyfan ar gyfer rhaglenni nyrsio a bydwreigiaeth cyn-cofrestru.

Unwaith y flwyddyn y bydd y rhaglen amser llawn yn derbyn ymgeiswyr, a bydd yn dechrau ym mis Medi.

Aberystwyth a'r Gymraeg

Mae Aberystwyth yn ymfalchïo yn ei hymroddiad i'r Gymraeg ac yn cael ei chydnabod yn arweinydd ymhlith darparwyr addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Ar adegau o afiechyd, gall cyfathrebu beri pryder i rai cleifion a'u teuluoedd, a gall cyfathrebu ym mhrif iaith neu ddewis iaith y claf fod yn hollbwysig. Mae'r rhaglen nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg. Y Gymraeg yw mamiaith rhai o aelodau staff y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ac mae eraill yn ddysgwyr ymroddedig, felly bydd pawb wrth law i'ch cynorthwyo a'ch cefnogi.

Gallwch astudio hanner cant y cant o'r rhaglen trwy gyfrwng y Gymraeg. Caiff hyn ei ddarparu trwy'r modiwl seiliedig ar ymarfer sy'n para trwy gydol y tair blynedd. Cewch eich cynorthwyo gan Arolygwyr Ymarfer ac Aseswyr Ymarfer sy'n siarad Cymraeg yn ystod eich lleoliadau clinigol, a chwblhau asesiadau yn gysylltiedig ag ymarfer trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar ben hyn, yn unol â threfn safonol Prifysgol Aberystwyth, mae myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn cael tiwtor personol sy'n siarad yr iaith, ac mae gennych hawl i gyflwyno asesiadau/sefyll arholiadau yn Gymraeg, os yw'r modiwl yn cael ei ddarparu yn Gymraeg ai peidio.

Yn unol â gofynion HIEW, bydd medrau iaith Gymraeg yr holl ymgeiswyr nyrsio yn cael eu hasesu trwy ddefnyddio asesydd/gwirydd iaith addas pan ddechreuwch eich cwrs gyda ni. Ar ben hyn, rhoddir amser i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf gwblhau pecyn e-Ddysgu Cyflwyniad i'r Gymraeg yr HEIW a'u hannog i gymryd Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a bydd sesiynau dewisol am ddim ar gael i chi er mwyn eich paratoi. Mae adnoddau ychwanegol ar gael hefyd, megis y pecyn Ymwybyddiaeth Iaith mewn Iechyd a Gofal ac ap iaith y CCC Gofalu drwy’r Gymraeg

Os nad ydych yn siarad Cymraeg ond y byddech yn hoffi dysgu'r iaith, mae'r rhaglen yn cynnig hefyd wersi sgwrsio sylfaenol yn gysylltiedig ag iechyd trwy ein Cornel Coffi a Chlonc, er mwyn dysgu geiriau ac ymadroddion cyffredin bob dydd. Bydd ein staff sy'n siaradwyr Cymraeg ynghyd â myfyrwyr eraill sy'n medru'r iaith yn cynorthwyo eich datblygiad mewn amgylchedd anffurfiol heb bwysau.

Mae mwy o ddosbarthiadau rhan amser i ddysgu Cymraeg i'w cael yn y Brifysgol, trwy ei hadran Dysgu Cymraeg benodol, yn ogystal â dosbarthiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein ar bob lefel yn y gymuned. Cewch ragor o wybodaeth a manylion am ostyngiadau pris yma. Mae cefnogaeth i siaradwyr Cymraeg sy'n teimlo'n llai hyderus yn eu gallu i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael gan ein tiwtor Sgiliau Academaidd cyfrwng Cymraeg. Os hoffech ragor o fanylion e-bostiwch sgiliau@aber.ac.uk 

Hefyd, gall myfyrwyr gymryd ffordd fwy anffurfiol o ddysgu Cymraeg trwy ymuno am ddim â dosbarthiadau UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth). Dysgir y dosbarthiadau gan wirfoddolwyr o blith y myfyrwyr Mae'n ffordd dda iawn o gyfarfod â myfyrwyr eraill sy'n siarad neu'n dysgu Cymraeg. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: umca@aber.ac.uk

Mae cymorth pellach gyda sgiliau iaith Gymraeg penodol i'w gael trwy'r Tiwtor Sgiliau Iaith Gymraeg. Os hoffech ragor o fanylion e-bostiwch dfm@aber.ac.uk  

Mae myfyrwyr sy'n astudio trwy'r Gymraeg yn derbyn yn awtomatig ysgoloriaethau astudio cyfrwng Cymraeg PA, gwerth hyd at £400 y flwyddyn, gan ddibynnu ar nifer y modiwlau/credydau a gymerir yn llwyr trwy'r Gymraeg. Mae CCC yn cynnig hefyd Ysgoloriaethau Cymhelliant, gwerth £500 y flwyddyn, os astudir o leiaf 40 credyd trwy'r Gymraeg bob blwyddyn. Gweler eu gwefan i gael rhagor o fanylion am yr ysgoloriaethau a gweld sut i wneud cais - Coleg Cymraeg Cenedlaethol.