Nyrsys cyntaf erioed yn cymhwyso o Brifysgol Aberystwyth

Myfyrwyr nyrsio Prifysgol Aberystwyth yn dathlu cymhwyso
01 Awst 2025
Mae’r nyrsys cyntaf erioed o Brifysgol Aberystwyth wedi cymhwyso i weithio yn y gwasanaeth iechyd wedi iddynt gwblhau eu hastudiaethau.
Dechreuodd y myfyrwyr ar eu cyrsiau pan agorodd y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ei drysau am y tro cyntaf ym mis Medi 2022.
Mae’r ganolfan gwerth £1.7 miliwn, sydd gyferbyn ag Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, yn cynnwys ystafelloedd ymarfer clinigol o ansawdd uchel. Cafodd ei chefnogi gyda grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.
Ymhlith bron i 40 o fyfyrwyr sydd newydd orffen eu cyrsiau eleni, buodd rhai yn astudio nyrsio oedolion ac eraill iechyd meddwl. Mae’r cyrsiau gradd bellach wedi ehangu gyda 239 yn astudio yn y Brifysgol eleni.
Cafodd myfyrwyr a fu’n astudio ar gyfer y radd gyfle i ddilyn hyd at hanner eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynhaliwyd seremoni arbennig yn adeilad Gwendolen Rees i ddathlu llwyddiant y garfan gyntaf o nyrsys y Brifysgol gydag areithiau gan Martin Riley o Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Meri Huws, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol.
Dywedodd yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth:
“Llongyfarchiadau lu i bob un o’r myfyrwyr ar eu llwyddiannau mawr. Fel prifysgol, rydyn ni’n hynod o falch i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o nyrsys ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Dyma’r union fath o swyddogaeth y dylen ni fel sefydliad fod yn ei arddel, ac mae ein bryd ar wneud hyn fwyfwy. Mae wrth galon ein hagenda i newid bywydau er gwell, meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru.
“Mae pawb yn gwybod pa mor ddibynnol rydyn ni ar y gwasanaeth iechyd a’i weithwyr allweddol. Roeddwn i wrth fy modd yn llofnodi partneriaeth o’r newydd gyda’r Bwrdd Iechyd yn ddiweddar. Dros y blynyddoedd nesaf, rydyn ni’n awyddus i chwarae rôl gynyddol yn y gwaith hollbwysig o hyfforddi ein gweithwyr iechyd proffesiynol.”
Ychwanegodd Amanda Jones, Pennaeth Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae mor galonogol gweld ein myfyrwyr yn llwyddo ac yn paratoi i gynorthwyo cleifion yn y byd go iawn. Mae wedi bod yn anrhydedd bod yn rhan o hanes, gan ddysgu’r garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio yma Aberystwyth. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i bob un ohonyn nhw i’r dyfodol.”
Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Mae wedi bod yn bleser gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o nyrsys. Maen nhw wedi cael dechrau gwych i’w gyrfaoedd gyda’r hyfforddiant rhagorol y maen nhw wedi’i dderbyn yng Nghanolfan Addysg Gofal Iechyd y Brifysgol gyda phrofiad bywyd go iawn ar draws ein hysbytai a’n clinigau yn Hywel Dda. Rwyf mor falch eu bod bellach yn barod i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, gan ofalu am bobl yn ein cymunedau a thu hwnt yn y blynyddoedd i ddod. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw.”