Cefnogaeth yn y Gwaith
Mentora/Hyfforddi
Cynllun Mentora Cymraeg
Cwnsela
Cefnogi Staff sy’n Cefnogi Myfyrwyr mewn Argyfwng
Mae’n bosib bydd staff yr adrannau academaidd yn ogystal a’r adrannau gwasanaethau yn rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr sydd mewn argyfwng lles personol, emosiynol neu feddyliol. Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod cael cysylltiad gyda rhywun sydd mewn sefyllfa ofidus yn gallu creu straen ar staff. Gall hyn arwain nid yn unig at ansicrwydd ynghylch sut i ymateb, ond hefyd at deimlo’n gyfrifol, yn ddiymadferth, yn ofnus, rhwystredig neu’n flin. Mae gan y Brifysgol, felly, strategaeth sy’n mynd i’r afael ag anghenion staff wrth iddynt roi cefnogaeth i fyfyrwyr sydd mewn argyfwng. Cyfeiriwch at y ddolen ganlynol: Cefnogi Staff sy’n Cefnogi Myfyrwyr mewn Argyfwng
Mae cwrs hyfforddi ychwanegol CDSYA ar gael ar 25/02/2022 – Archebwch eich Lle Yma