Annalene Hansen

Annalene Hansen

Ymchwilydd PhD mewn Bioleg Planhigion yn IBERS
2022-2026

Traddodiad ffermio hynafol Japan o droedio cnydau yw'r ysbrydoliaeth y tu ôl i brosiect ymchwil PhD sy'n archwilio ffyrdd arloesol o gynyddu gwydnwch cnydau gwenith.

Gwneud gwenith yn fwy gwydn

Beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n brwsio planhigion gwenith ifanc yn ysgafn i ddynwared effeithiau'r gwynt a'r glaw? Dyma'r cwestiwn wrth wraidd rhaglen ddoethurol Annalene Hansen yn IBERS.

Mae ymchwil Annalene yn archwilio sut mae grymoedd ffisegol fel cyffyrddiad, gwynt a glaw yn dylanwadu ar dwf a datblygiad gwenith. Ei nod yw deall sut y gall cnydau wrthsefyll amodau heriol y tywydd yn well, amodau sy'n prysur waethygu yn sgil y newid yn yr hinsawdd.

“Mae gwynt a glaw trwm yn niweidiol i gnydau gan eu bod yn peri iddynt gwympo ar eu gorwedd. Mae hyn yn lleihau ansawdd grawn, yn gwneud cynaeafu yn anodd ac yn achosi colledion economaidd i ffermwyr a all golli tua 25% o'u cnwd am eu bod yn cwympo ar eu gorwedd,” meddai Annalene, a ddaeth i astudio yn IBERS yn 2022 ac sydd i fod i gyflwyno ei thraethawd ymchwil terfynol ym mis Rhagfyr 2026.

“Yr hyn rwy'n ei wneud yn fy ymchwil yw defnyddio ysgogiad mecanyddol i efelychu gwynt a glaw trwm – dwy elfen sy'n mynd i gynyddu o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd. Yna byddaf yn dadansoddi ac yn asesu'r effaith ar y cnwd.

“Ysbrydolwyd fy ngwaith gan mugifumi, sef hen arfer ffermio a ddefnyddir yn Japan i sathru ar wenith a haidd pan fyddant yn ifanc iawn. Mae'n cynyddu cynnyrch a gwytnwch y cnwd ac yn lleihau'r perygl y bydd y cnydau'n cwympo ar eu gorwedd ar ôl tyfu.”

Arbrofion mewn amgylchedd a reolir

Mae Annalene wedi bod yn cynnal cyfres o arbrofion yn y cyfleuster amgylchedd rheoledig yn IBERS lle gellir rheoleiddio'r amodau'n ofalus.

Cafodd cyfres o blanhigion gwenith eu brwsio bob dydd am bedair wythnos, gan ddefnyddio dyfais bwrpasol a ddatblygwyd gan dechnegydd IBERS Johnny Knowler, i efelychu'r straen mecanyddol fyddai'n digwydd yn y cae.

Eglura Annalene: “Pan fyddwch chi'n sbarduno planhigion gwenith ifanc fel hyn, mae'r planhigyn yn cael ei gyflwyno i straen yn gynnar ac felly mae'r genynnau'n ‘ddysgu addasu’ i'r straen hwnnw. Mae'r planhigyn yn mynd yn fyrrach ac felly mae ei graidd disgyrchiant yn is. Caiff y planhigyn ei atgyfnerthu hefyd trwy newidiadau anatomegol o fewn y coesyn. Ar raddfa lai, mae cyfansoddiad waliau celloedd yn cael ei newid i ddod yn fwy cadarn yn strwythurol.

Gyda chefnogaeth gan bartner y diwydiant, Mondelēz International, mae Annalene wedi cynnal astudiaethau dilyniannu RNA i ymchwilio i sut mae gweithgaredd genynnau yn newid ar ôl ysgogiad mecanyddol. Gallai ei chanfyddiadau roi gwell dealltwriaeth o wytnwch cnydau i ymchwilwyr a llywio rhaglenni bridio'r dyfodol.

“Mae'n ymddangos bod llawer o fecanweithiau sy'n peri i’r planhigyn, yn y pen draw, wrthsefyll grymoedd fel gwynt a glaw, sy'n golygu ei fod yn llai tebygol o blygu a chwympo. Mae'n ymddangos bod grym mecanyddol hefyd yn cynyddu cloroffyl ac yn cynyddu ffenolau yn y grawn, sy'n gweithredu fel gwrthocsidyddion pwerus ac yn atal cyflyrau iechyd cronig."

“Yn rhyfeddol, er gwaethaf y newidiadau morffolegol eithafol, ni effeithir ar gnwd y grawn o gwbl. Gyda'i gilydd, mae'r canlyniadau hyn yn dangos canlyniadau addawol iawn trwy ddim ond taro'r gwenith - mae'n gymharol rhad ac nid yw'n llygru'r amgylchedd fel agrocemegion.”

Papurau cyhoeddedig

Ynghyd â'i gwaith arbrofol, Annalene oedd prif awdur erthygl adolygu a gyhoeddwyd yn BMC Biology ym mis Chwefror 2025, a hi greodd yr holl ddarluniau gwyddonol ar ei chyfer hefyd: Mechanical stimulation in plants: molecular insights, morphological adaptations, and agricultural applications in monocots.

Cyfrannodd Annalene hefyd at bapur a gyhoeddwyd yn Nutrition Bulletin ym mis Awst 2023: Increasing fibre in white flour and bread: Implications for health and processing.

Mae diddordebau ehangach Annalene yn cynnwys bioleg planhigion, geneteg, biowybodeg ac ecoleg. Cyn dod i IBERS, gwnaeth BSc ac MRes ym Mhrifysgol Southampton. Ariennir ei hastudiaethau PhD gan UKRI drwy Ganolfan Systemau Bwyd y Deyrnas Unedig ar gyfer Hyfforddiant Doethurol ac mae ei phroffil ymchwil i'w weld ar wefan IBERS.

Yn y pen draw, mae Annalene yn gobeithio y bydd ei hymchwil yn cyfrannu at dwf cnydau sy'n gallu gwrthsefyll heriau amgylcheddol yn well a lleihau’r ddibyniaeth ar fewnbynnau amaethyddol ar yr un pryd.

“Mae angen rhagor o waith ar ymateb gwahanol fathau o gnydau i ysgogiad mecanyddol, ond byddai'n wych gallu dangos y gall y broses gynyddu cynnyrch a gwytnwch cnydau yn ogystal â lleihau'r angen am fewnbynnau cemegol, gan ddod â buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.”