Cyfleoedd i ôl-raddedigion yn IBERS

 

Mae myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn rhan annatod o deulu IBERS ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr iawn at hyrwyddo gwybodaeth a darganfyddiadau gwyddonol. Gyda chefnogaeth a mentora gan academyddion blaenllaw, mae ein myfyrwyr yn ymgymryd ag ymchwil annibynnol ac yn elwa o fynediad at gyfleusterau o'r radd flaenaf gan gynnwys:

 Mae myfyrwyr PhD IBERS hefyd yn rhan o Academi Ddoethurol y Brifysgol, sy'n cefnogi ôl-raddedigion yn Aberystwyth drwy ddatblygu ymchwilwyr, gwella gyrfaoedd a rhaglenni hyfforddi athrawon. Mae'r Academi Ddoethurol yn cydlynu digwyddiadau megis y Gynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig flynyddol a chystadleuaeth Traethawd Tri Munud. Mae myfyrwyr ôl-raddedig hefyd yn cael eu hannog i ymuno â Rhwydwaith Ymchwilwyr ar Ddechrau Gyrfa’r Brifysgol sy'n trefnu hyfforddiant, sgyrsiau a chyfleoedd rhwydweithio ar draws disgyblaethau.

 

Mae niferoedd y myfyrwyr yn IBERS yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond fel arfer mae gennym hyd at 30 o ymgeiswyr doethurol yn gweithio ochr yn ochr â'n staff ar gampws Gogerddan. Gall canolbwynt eu hastudiaethau amrywio o systemau amaethyddol cynaliadwy a phrofi sut mae gwenith yn ymateb i efelychu gwynt mecanyddol i greu bioffilmiau sy'n deillio o wymon ar gyfer pecynnu bwyd neu ystyried sut mae gwahanol ffyngau yn effeithio ar arogl bwydydd ffwngaidd newydd wedi'u eplesu.

Cyllid

Rydym yn cynnig gwobrau doethurol yn rheolaidd a gefnogir gan gyrff cyllido allanol, gan gynnwys Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol UKRI (BBSRC). Fel un o’r wyth sefydliad yn y DU a ariennir yn strategol gan BBSRC, mae IBERS yn chwarae rhan allweddol mewn ymchwil cenedlaethol yn y gwyddorau biolegol ac yn cyfrannu at ystod o raglenni hyfforddi doethurol.

Cynigir ysgoloriaethau trwy raglenni hyfforddi doethurol megis:

Gall cyfleoedd PhD ychwanegol godi trwy grantiau gan gynghorau ymchwil, elusennau neu bartneriaid diwydiant eraill.  Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnig Ysgoloriaethau cystadleuol AberDoc, ac mae rhai o'r dyfarniadau hyn yn cynnwys ysgoloriaethau ychwanegol President sy'n talu’r gwahaniaeth rhwng ffioedd dysgu’r DU a ffioedd dysgu rhyngwladol ar gyfer ymgeiswyr o'r radd flaenaf.

Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, mae cyllid posibl gan ysgoloriaethau PhD UKRI, y Cyngor Prydeinig, Gwobr Ymchwilydd Gwadd Fulbright yr Unol Daleithiau ac eraill.

Ar gyfer myfyrwyr o Gymru neu Loegr, gall Benthyciadau Doethurol Ôl-raddedig fod ar gael drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru neu Gyllid Myfyrwyr Lloegr. Mae hunan-gyllido yn llwybr arall.

Gweler tudalennau Ffioedd a Chyllid Uwchraddedig y Brifysgol am fwy o fanylion.

Ymunwch â'n cymuned

Oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio gradd PhD sy'n cefnogi cenhadaeth IBERS i helpu dynoliaeth i gynhyrchu bwyd, bwyd anifeiliaid ac adnoddau diwydiannol sy'n seiliedig ar blanhigion yn gynaliadwy?

Cysylltwch â Dr Maurice Bosch, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig IBERS, i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu sgwrs anffurfiol: mub@aber.ac.uk