Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ffenomeg Planhigion

 

Mae’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion yn gyfleuster o’r radd flaenaf sy’n dwyn ynghyd fiolegwyr, peirianwyr, gwyddonwyr cyfrifiadurol a mathemategwyr i ymchwilio i sut mae genynnau a’r amgylchedd yn rhyngweithio ac yn arwain at nodweddion (neu ffenoteipiau) gwahanol blanhigion. 

Mae’r amgylchedd rheoledig yn ein tai gwydr, ein cyfleusterau tyfu awtomataidd gyda’u trwybwn uchel a’n dronau i fonitro caeau, ynghyd â delweddu amlsbectrol, roboteg a dysgu â pheiriannau (cangen o ddeallusrwydd artiffisial) yn caniatáu i ymchwilwyr IBERS gymhwyso technoleg yr 21ain ganrif at gan mlynedd o brofiad o wyddoniaeth tir glas a bridio planhigion.

“EDRYCH AR BLANHIGION Â  PHÂR NEWYDD O LYGAID”

Am lawer o hanes dynol mae llawer o’r nodweddion a ddefnyddir wrth fridio planhigion wedi’u dewis gan y llygad. Erbyn hyn, mae technolegau delweddu digidol yn galluogi bridwyr planhigion i arsylwi ar blanhigion â chant o lygaid gwahanol. Er enghraifft, llygaid sy’n gallu gweld mewn sawl sbectrwm, rhoi golygfa o’r awyr dros gaeau, gweld trwy feinweoedd planhigion a hyd yn oed drwy’r pridd i arsylwi ar sut mae strwythurau’r gwreiddiau yn tyfu. 

Mae defnyddio’r dechnoleg ddelweddu ddiweddaraf ynghyd â dysgu peirianyddol yn galluogi ymchwilwyr IBERS i gasglu amrywiaeth eang o ddata delweddu o nifer fawr o blanhigion mewn cyfnod byr. Mae technolegau o’r fath yn caniatáu i waith gael ei wneud mewn misoedd a fyddai wedi cymryd blynyddoedd lawer yn flaenorol wrth ddefnyddio dulliau traddodiadol bridio planhigion.

Gall cyfnodau datblygiadol yn ystod oes planhigyn gael eu cipio mewn tri dimensiwn, a gall newidiadau dros amser gael eu modelu. Mae hyn yn caniatáu inni fesur ystod newydd sbon o nodweddion nad oeddent ar gael i wyddonwyr planhigion a bridwyr o’r blaen. Felly, mae’r ganolfan ffenomeg yn gwneud ymchwil sy’n hybu’n gwybodaeth sylfaenol o wyddor planhigion, yn cyflymu gwaith bridio cnydau ac yn adeiladu setiau data a all gael eu cymhwyso at nifer o gnydau a’u defnyddio i ddatblygu systemau dysgu peirianyddol newydd a chymwysiadau AI er mwyn cyflymu’r cynnydd ymhellach.

Taith Rithiol 360º

Archwiliwch ein cyfleusterau eich hun gyda'n Taith Rithiol 360º. Cliciwch ar y llun isod i ddechrau arni.

Ffenoteipio ar draws Graddfeydd Gwahanol

Mae’r Ganolfan NPPC yn rhoi modd asesu poblogaethau o gnydau, a phlanhigion eraill, drwy ddefnyddio synwyryddion gweledol anfewnwthiol, is-goch, NIR, fflworoleuedd sy’n sganio delweddu â laser er mwyn cofnodi’r egin yn tyfu ac yn datblygu, eu cynnwys dŵr, gweithgaredd ffotosynthetig, tymheredd a datblygiad gwreiddiau (gan ddefnyddio colofnau pridd tryloyw). Gellir gwneud mesuriadau manylach o ffoto-ffisioleg ar hyd at 2,000 o blanhigion ar ein platfform planhigion bach. Mae arweinydd y Ganolfan NPPC (Doonan) wedi sefydlu galluoedd drwy fod yn aelod craidd o gonsortia rhyngwladol (e.e., EPPN, EMPHASIS) er mwyn ffenoteipio planhigion cnydau a model. Mae cyfleusterau tŷ gwydr ac amgylchedd rheoledig helaeth hefyd ar gael gan gynnwys y Venlo (26 uned sy’n rheoli tymheredd a hyd y diwrnod), a 10 cabinet/ystafell Sanyo a Saxil sy’n rheoli hyd y diwrnod, tymheredd a lleithder. Mae arbrofion cnydau IBERS hefyd yn cael eu cynnal mewn cyfleuster pwrpasol ar gyfer yr atmosffer, y pridd a’r planhigion (offeryn glaw/lysimedr), sy’n gweithredu fel tŷ hanner ffordd rhwng y cae a’r tŷ gwydr. Mae’n debygol y bydd Amaethyddiaeth Amgylchedd Rheoledig yn rhan o gadwyni cyflenwi bwyd y dyfodol, ac mae cyfleusterau ymchwil ffermio fertigol newydd yn rhan o Gampws Arloesi Aber, i gysylltu ymchwil ag anghenion diwydiant, ac i adeiladu ar y prosiect Planhigion a Phensaernïaeth.

Mae cryn fuddsoddi diweddar mewn offer delweddu drwy CCAUC wedi galluogi uwchraddio i gyfleusterau microsgopeg cydffocal ac electron, a gwella gallu FTIR ar gyfer ffenoteipio metabolomig trwybwn uchel. Mae labordai trawsnewid genetig IBERS a chyfleusterau tŷ gwydr yn rhoi modd trin planhigion model a chnwd (e.e., Brachypodium, Lolium, Festuca, Zea a Miscanthus), gan gynnwys trwy olygu genomau (CRISPR/Cas), ac fe’u defnyddir ar gyfer addasu nodweddion megis cellfuriau, hunan-anghydnawsedd ac ailgyfuno. Mae gan yr uned Cemeg Ddadansoddol yn IBERS achrediad ISO 17025 mewn 19 o dechnegau i safon diwydiant ar gyfer dadansoddi porthiant a maethynnau a phrosesu samplau mewnol ac allanol. Mae’r labordy dilyniannu DNA yn golygu gallu lleol ar gyfer prosiectau llai o faint yn enwedig pan mae angen trosi cyflymach gan ddefnyddio Illumina MiSeq ar gyfer SNP, metagenomeg a dilyniannu amplicon. Mae’r cyfleuster metabolomeg yn IBERS yn cynnwys sbectrometreg màs cydraniad uchel a thechnegau cromatograffaeth (GC-MS-MS, GC-tof-MS, LC-MS) ar gyfer metabolomeg heb ei dargedu, dadansoddi cemegol a strwythurol, proteomeg a phroffilio celloedd.

➡ Dysgwch fwy am Ffenomeg yn IBERS.