Llwyfan Ymchwil Tir Glas
Mae’n gwyddonwyr ymchwil tir glas, ein partneriaid diwydiannol, a’n rhwydweithiau ffermio yn gweithio i wella cynaliadwyedd amaethyddiaeth tir glas a helpu i ddarparu systemau bwyd a ffermio sero-net erbyn 2050. Mae cyfanswm o 47 amrywogaeth o gnydau porthiant (e.e. rhygwellt lluosflwydd, meillion coch a gwyn) wedi’u datblygu. Mae gwyddoniaeth IBERS wedi helpu i’w sefydlu ac yn cael eu masnacheiddio gan bartneriaid masnachol hirdymor Germinal Horizon.
Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid diwydiannolo bob rhan o’r gadwyn gyflenwi amaethyddol ac yn cynnal ymchwil gyfranogol gyda busnesau fferm i sicrhau gwell dealltwriaeth o’u heriau yn y byd go iawn, y rhwystrau sy’n atal newid, a chanolbwyntio ar yr wyddoniaeth sydd ei hangen fwyaf i gefnogi’n cymunedau amaethyddol yn well. Drwy ddefnyddio dull systemau fferm gyfan, mae’n timau ymchwil amlddisgyblaeth yn cydweithio’n agos â ffermwyr i helpu i ddarparu systemau bwyd-amaeth mwy cynhyrchiol, gwydn a chynaliadwy.
Ar hyn o bryd mae systemau da byw yn meddiannu tua thraean o’r tir amaethyddol sydd ar gael yn fyd-eang, yn cyfrannu at 40% o werth yr allbynnau amaethyddol, ac un rhan o dair o’r protein a ddefnyddir gan bobl (FAO, 2019). Rhagwelir y bydd galw cynyddol am gynhyrchion anifeiliaid a hefyd dewisiadau amgen wedi’u seilio ar blanhigion yn parhau oherwydd twf yn y boblogaeth a’r cynnydd yn yr hyn sy’n cael ei fwyta fesul pen.
Mae angen cynyddol i ddeall effaith ffermio da byw ar yr amgylchedd yn well a dod o hyd i ffyrdd o leihau ei ôl troed amgylcheddol dros y system gyfan. Mae hyn yn cynnwys bridio cnydau porthiant mwy gwydn sydd wedi’u teilwra’n well i ddeiet anifeiliaid sy’n cnoi’r cil. At hynny, gall cnydau porthiant gael eu prosesu i ddarparu bwyd i anifeiliaid monogastrig a gall codlysiau gael eu tyfu i ddarparu ffynonellau protein amgen ar gyfer anifeiliaid a phobl.
Mae ymchwil graidd IBERS yn canolbwyntio ar ateb heriau ffermydd tir glas a’r wyddoniaeth sy’n sail ar gyfer bridio amrywogaethau newydd a gwell o borthiant, codlysiau a glaswelltau ynni. Mae gan IBERS fynediad at dros 1,000 hectar o dir glas sy’n cael ei reoli gan Brifysgol Aberystwyth ac sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio ac ymchwil amgylcheddol. Mae treialon graddiant uchder IBERS wedi’u gwasgaru ar draws sawl safle ac uchder (0-600 m), a’r rheiny wedi’u dewis i ymdrin â systemau ucheldir ac iseldir ac i gynrychioli 60% o holl amodau tyfu tir glas y Deyrnas Unedig.
Mae’r setiau data o arbrofion ac arsylwadau a geir o’r safleoedd hyn, sy’n cynnwys llwyfan ymchwil ucheldir Pwllpeiran a fferm Trawsgoed, yn hanfodol ar gyfer deall gwytnwch cnydau, dadansoddi dylanwadau genetig ac amgylcheddol ar berfformiad cnydau, a deall systemau amaethyddol tir glas yn well. Mae angen yr wybodaeth hirdymor hon er mwyn rhoi sylfaen dystiolaeth gadarn i lywio polisïau mewn hinsoddau atmosfferig, economaidd a gwleidyddol sy’n newid.

Adnoddau tir
Mae’r ffermydd ymchwil yng Ngogerddan, Morfa Mawr, Trawsgoed a Phwllpeiran yn cynnig llwyfan ymchwilio unigryw sy’n ymestyn dros 1,000 ha, o 0-600 metr uwchlaw lefel y môr. Yn 2017, aethom ati i sefydlu graddiant uchder i gynnig heriau ar bedwar safle ar ffermydd Gogerddan a Thrawsgoed, sef 70, 140, 250 a 340 metr uwchlaw lefel y môr. Mae’r pedwar safle hyn yn manteisio ar ddaearyddiaeth Gorllewin Cymru i ddarparu sbectrwm o heriau amgylcheddol sy’n cynrychioli’n fras amodau tyfu tua 80% o laswelltiroedd y Deyrnas Unedig. Mae’r safleoedd wedi’u cyfarparu a’u plannu gan ddefnyddio plasm cenhedlu amrywiol a gellir ymweld â phob un ohonynt i’w mesur o fewn un diwrnod. Mae setiau data wedi’u hintegreiddio â data ar weithredu sy’n seiliedig ar amgylchedd dan reolaeth er mwyn dod i ddeall dyfalbarhad, gwydnwch a pherfformiad planhigion. Mae’r lleiniau llawn offer hyn wedi galluogi IBERS i gymryd rhan ym mhrosiect EMPHASIS ESFRI, sef rhwydwaith traws-Ewropeaidd o gyfleusterau amrywiol sy’n ymchwilio i’r hinsawdd er mwyn galluogi bridio rhagfynegol ac ymchwilio i hinsawdd y dyfodol. Yn ogystal, defnyddir y lleiniau yn Rhaglen Strategol Graidd y BBSRC mewn Cnydau Gwydn, sef prosiect GRACE H2020, ac mae data’n cael ei ddefnyddio i lywio’r gwaith o fodelu cynhyrchiant biomas yn Hyb Bio-ynni Supergen EPSRC yn Aberystwyth a chan bartneriaid eraill.
Yn 2020, aeth IBERS ati i ailsefydlu Canolfan yr Ucheldir ar safle Pwllpeiran drwy gymryd y brydles ar gyfer 190 ha o’r tir cyffiniol (Ffridd) ar ôl i Lywodraeth Cymru ei brynu oddi wrth Defra. Mae hyn yn ategu buddsoddiad cynharach o £2.4M gan y BBSRC i gefnogi datblygiad Pwllpeiran fel llwyfan yr ucheldiroedd. Mae gan Bwllpeiran hanes hir o ymchwil i laswelltir yr ucheldiroedd, ac ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif roedd yn gartref i’r arbrofion amaethyddol radical a gynhaliwyd gan Thomas Johnes o Stad yr Hafod. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif daeth yn ganolbwynt i Gynllun Gwella Tir Uchel Cahn, sef canolfan arloesol George Stapledon. Mae Pwllpeiran bellach yn darparu continwwm glaswelltir o dir pori wedi’i ailhadu o ansawdd cymharol dda, i borfa barhaol a phorfa garw lled-naturiol, i weundir a gorgors. Mae system fwydo electronig Porth Calan ar gyfer anifeiliaid cnoi cil bychain (yr unig gyfleuster o’r fath yn y Deyrnas Unedig) yn gallu cadw hyd at 48 o ddefaid, ac mae lle ar gyfer 4 siambr mesur methan. Mae Pwllpeiran yn ficrocosm ar gyfer yr ucheldir a dyma’r unig gyfleuster o’r fath yng Nghymru a Lloegr. Mae ei ymchwil yn hanfodol i sicrhau sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer polisïau ar adeg o newid gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol digynsail.
