SMART Nutrient Cymru

Arbed maetholion a chynyddu gwerth systemau ffermio glaswelltir

Mae cydweithrediad ymchwil unigryw yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu amaethyddiaeth glaswelltir yng Nghymru. 

Nod y prosiect yw gwneud y cylch maetholion mewn amaethyddiaeth pori mor effeithlon â phosibl, drwy edrych ar systemau diogelu dŵr a dal maetholion mewn gwlân ac mewn “cig anghofiedig” fel afu oen. 

Mae prosiect Maetholion SMART Cymru yn dwyn gwyddonwyr ynghyd â thri o randdeiliad sy’n ddolenni cyswllt allweddol yn y broses o drosglwyddo maetholion pwysig o’r cae i’r fforc. 

Gyda chefnogaeth gan Gymorth Arloesi Hyblyg SMART (FIS) Llywodraeth Cymru, mae ymchwilwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydweithio â Gwlân Prydain, Dŵr Cymru a Hybu Cig Cymru. 

Prif ffocws y prosiect yw optimeiddio maetholion o laswelltiroedd Cymru o ganlyniad i newid hinsawdd ac mewn ymateb i’r galw cynyddol am systemau cynhyrchu bwyd sero net. 

Wrth i ddigwyddiadau tywydd eithafol ddod yn fwy cyffredin, mae Cymru a rhannau eraill o’r DU yn profi glaw trwm a llifogydd, yn aml wedi’u dilyn gan sychder – amodau sy’n peri problemau i’r rhai sy’n defnyddio’r tir. 

Dywedodd Dr Christina Marley, Darllenydd mewn Glaswelltiroedd Cynaliadwy a Bwydydd Amaethyddol yn IBERS a Llywydd Cymdeithas Glaswelltir Prydain: 

“Daeth y syniad cychwynnol ar gyfer y prosiect hwn yn ystod trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws y diwydiant a’r sylweddoliad bod angen i ni gyfuno syniadau a gwneud defnydd gwell o adnoddau presennol er mwyn helpu ifynd i’r afael â heriau newid hinsawdd sy’n wynebu ffermwyr a gwella dulliau dal a defnyddio maetholion.” 

Cafodd cais am gyllid ar gyfer camau cynnar yr ymchwil ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru aa dyfarnwyd cyllid SMART FIS Lefel 1 i’r prosiect yn 2023. Y flwyddyn ganlynol, yn hydref 2024, Maetholion SMART Cymru oedd y prosiect cyntaf idderbyn cyllid Lefel 2. 

Mae tair prif elfen i’r prosiect cydweithredol:

1. Cynyddu gwerth cynhyrchion gwlân

1. Cynyddu gwerth cynhyrchion gwlân 

Gan adeiladu ar astudiaeth beilot flaenorol a ariannwyd gan brosiect ‘Tyfu Cymru’n Wyrdd’ Llywodraeth Cymru a’i arwain gan Dr Siân Mackintosh o IBERS, mae Maetholion SMART Cymru yn archwilio defnyddiau newydd ar gyfer gwlân iddatblygu cynhyrchion gwerth ychwanegol i’w defnyddio ar y fferm. 

Dywedodd Dr Mackintosh: 

“I’r diwydiant tecstiliau, cyfyngedig yw gwerth gwlân garw, sy’n nodweddiadol o fridiau defaid mynydd a bryn, ac o’r herwydd mae adennill costau cneifio yn anodd. Bydd datblygu defnyddiau newydd ar gyfer gwlân yn rhoi mwy o wydnwch economaidd i ffermwyr defaid drwy gynyddu gwerth gwlân. Bydd y prosiect hefyd yn defnyddio priodweddau gwerthfawr y gwlân i wella dal maetholion ac i liniaru effeithiau tywydd eithafol ar y fferm.” 

Dywedodd Andrew Hogley, Prif Weithredwr British Wool: 

“Mae gwlân yn ffibr naturiol unigryw gyda’r gallu i ddal hyd at 30% o’i bwysau mewn dŵr. Mae’r prosiect hwn yn ymchwilio i botensial gwlân Cymru i atal dŵr rhag rhedeg i ffwrdd ac i ddal maetholion ar raddfa tirwedd. Y nod terfynol ywdatblygu cynnyrch gwlân Cymreig â gwerth ychwanegol i fynd i’r afael â’r heriau sy’n deillio o amrywiadau eithafol yn y cyflenwad dŵr. 

Mae’r cynnydd mewn digwyddiadau glaw trwm wedi’u dilyn gan sychder eithafol oherwydd newid hinsawdd yn cael effaith negyddol ar ein ffermwyr a’n tirwedd. Drwy wneud hyn, rydyn ni hefyd yn ceisio cynyddu’r galw am Wlân Cymru a’i gwerth er mwyn gwella enillion i’n haelodau ledled Cymru."

2. Diogelu llif a safon dŵr 

2. Diogelu llif a safon dŵr 

Dŵr Cymru yw’r chweched cwmni dŵr a charthffosiaeth mwyaf o’r deg cwmni rheoledig yng Nghymru a Lloegr. Mae’n gyfrifol am ddarparu dŵr yfed i dair miliwn o bobl mewn 1.4 miliwn o gartrefi a busnesau. 

Mae amrywiadau mewn glawiad a digwyddiadau tywydd eithafol yn cynyddu’r tebygolrwydd o erydiad pridd yn ogystal â gwaddodion a maetholion yn ein cyflenwadau dŵr, gan amlygu’r angen am ddulliau arloesol i leihau llif dŵr o laswelltiroedd Cymru. 

Dywedodd Nigel Elgar, Rheolwr Prosiect Dŵr Cymru: 

“Mae darparu dŵr yfed o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid yn hollbwysig i ni. Po lanaf yw’r dŵr cyn cyrraedd ein gweithfeydd trin, y lleiaf o gemegau ac ynni sydd eu hangen i’w wneud yn ddiogel ac yn berffaith i’n cwsmeriaid. Dyna pam rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o ddiogelu a gwella ein ffynonellau dŵr. 

Rydym yn falch o fod yn rhan o brosiect Maetholion SMART Cymru, sy’n adeiladu ar ymchwil flaenorol lle bu ffermwyr yn plannu porfeydd amgen i weithredu fel rhwystrau naturiol. Mae’r rhwystrau hyn yn helpu i leihau dŵr wyneb acerydiad pridd o laswelltiroedd amaethyddol sy’n gallu effeithio ar ein hafonydd a’n cronfeydd dŵr. 

Mae cydweithio ag academydddion a rheolwyr tir yn hanfodol i’n helpu i gyflawni ein nod o ddiogelu ansawdd y ffynhonnell naturiol hanfodol hon ac i sicrhau cyflenwadau dŵr gwydn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.” 

3. Gwella dwysedd maetholion cig oen a defnyddio cynhyrchion cig na werthfawrogir 

3. Gwella dwysedd maetholion cig oen a defnyddio cynhyrchion cig na werthfawrogir 

Yn aml gelwir offal yn “gig anghofiedig”. Roedd yn rhan bwysig o ddeiet pobl yng Nghymru a’r DU ar un adeg. Ond mae poblogrwydd afu, arennau, tafod a chalon oen wedi dirywio yn y blynyddoedd diwethaf, er eu bod yn ffynhonnellgyfoethog o faetholion hanfodol fel fitamin A, fitamin B12, haearn, copr a sinc. 

Gan gydweithio â Hybu Cig Cymru, mae ymchwilwyr IBERS yn archwilio’r rhesymau dros y cwymp yn y galw am offal yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’i werth maethyddol uchel. 

Dywedodd Dr Siân Mackintosh o IBERS: 

“Pan nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio, mae’r cig maethlon ‘anghofiedig’ yma yn cynrychioli colled sylweddol o faetholion o’n cadwyn fwyd, a gellid eu defnyddio yn lle i gefnogi iechyd deietegol pobl fel rhan o ddeiet cytbwys.” 

Dywedodd Dr Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Polisi a Datblygu Prosiectau’r Dyfodol yn HCC: 

“Rydyn ni’n credU bod potensial sylweddol i’r cigoedd anghofiedig hyn gael eu hailgyflwyno i’n deiet ni. Yn ystod sesiynau blasu a gynhaliwyd fel rhan o’r prosiect hwn, roedd defnyddwyr yn hoffi’r blas ac yn awyddus i ddysgu mwy am ryseitiau a dulliau coginio, yn ogystal â’r gwerth y gall ei gynnig. 

Drwy edrych ar ffyrdd o wneud y defnydd gorau o gynhyrchion maethlon oen nad sy’n cael eu gwerthfawrogi, y nod yw cynyddu cynaliadwyedd y gadwyn gyflenwi a chynnig cyfleoedd marchnata newydd.” 

Ychwanegodd Dr Christina Marley: 

“Mae prosiect Maetholion SMART Cymru yn unigryw gan ei fod yn dod â gwybodaeth a chryfderau tri phartner gwahanol ynghyd, sydd i gyd yn gweithio tuag at yr un nod – sef dal maetholion o fewn systemau bwyd amaethyddol sy’neiliedig ar laswelltir. 

Rydyn ni’n gobeithio y bydd y data gwyddonol a’r dystiolaeth rydyn ni’n eu casglu yn darparu man cychwyn ar gyfer ymchwil mwy manwl i’r heriau hyn. Ni fyddem wedi cyrraedd y pwynt hwn heb gefnogaeth SMART FIS. Yn ogystal â darparu’r cyllid cychwynnol, mae’r rhaglen hefyd wedi rhoi mynediad i gyngor ac wedi cynnig hyblygrwydd i addasu ac arloesi pan fo angen.”

Cyllido’r Prosiect 

Caiff prosiect Maetholion SMART Cymru ei arwain gan IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Gwlân Prydain, Hybu Cig Cymru a Dŵr Cymru. Ariennir y prosiect drwy gynllun SMART FIS sy’n cael ei gyllido gan LywodraethCymru. Mae IBERS yn derbyn cyllid strategol gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biodechnegol a Biolegol (BBSRC) UKRI. 

Cymorth Arloesi Hyblyg 

Mae Cymorth Arloesi Hyblyg SMART FIS Llywodraeth Cymru yn helpu busnesau, y trydydd sector, cyrff sector cyhoeddus a sefydliadau ymchwil i arloesi a chreu cynnyrch a gwasanaethau newydd,  

Cymorth gyda’ch cais 

Os ydych chi’n aelod o staff Prifysgol Aberystwyth ac yn chwilio am gyngor a chefnogaeth ar gyflwyno cais SMART FIS, anfonwch e-bost at yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi.