fetabarcodio DNA er mwyn dadansoddi dietau llysysyddion

 

Mae’r erthygl hon yn manylu ar astudiaeth a arweiniwyd gan Dr Hannah Vallin ac a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Ecology and Evolution ym mis Ionawr 2026. Gwnaed yr ymchwil ar y cyd â’r Athro Mariecia Fraser (IBERS), yn ogystal â chydweithwyr o Brifysgol Sheffield (Dr Helen Hipperson) a Sefydliad James Hutton  (Yr Athro Robin Pakeman).

Mae'r astudiaeth yn ymchwilio i sut y gellir defnyddio metabarcodio DNA, sef techneg sy'n adnabod y planhigion y mae anifeiliaid wedi'u bwyta trwy ddadansoddi darnau mân o DNA planhigion yn eu carthion. Mae'n gweithio trwy ddefnyddio codau bar DNA, sef darnau byrion a neilltuol o god genynnol sy'n gweithredu fel tagiau adnabod moleciwlaidd ar gyfer gwahanol rywogaethau o blanhigion. Trwy gymharu'r codau bar hynny â’r hyn sydd yn y cronfeydd data cyfeirio, gall ymchwilwyr weld pa blanhigion oedd yn bresennol yn niet yr anifail, hyd yn oed pan fo'r deunydd wedi’i dreulio’n ormod i’w adnabod yn weledol.

Pam bod hyn yn bwysig?

Mae’n bwysig deall beth mae llysysyddion yn ei fwyta, am sawl rheswm. Mae cyfansoddiad y diet yn effeithio ar iechyd, twf a chynhyrchiant anifeiliaid, ac yn helpu rheolwyr tir i sicrhau bod eu systemau pori yn aros yn gynaliadwy. Mae hefyd yn dylanwadu ar sut mae llysysyddion yn ffrufio'r dirwedd ac felly yn effeithio ar fioamrywiaeth, strwythur cynefinoedd, a gwytnwch ecosystemau yn yr hirdymor. Trwy ddysgu pa blanhigion sy'n cael eu bwyta, gall ymchwilwyr a rheolwyr tir:

  • ddeall yn well beth yw effeithiau’r pori,
  • cynllunio strategaethau cadwraeth, a
  • chynorthwyo â gwneud penderfyniadau ynghylch systemau ffermio ucheldir ac iseldir ar sail tystiolaeth.

Yr Astudiaeth

Cynhaliodd yr ymchwilwyr brofion i weld pa mor gywir roedd dau god bar DNA a ddefnyddir yn aml (sef ITS2 a trnL) o ran yn adlewyrchu dietau gwirioneddol defaid a fwydir ar gymysgedd o borthiant a reolir.  Darganfuwyd drwy’r profion, er bod y dechneg yn ddibynadwy o ran adnabod llawer o rywogaethau o blanhigion, y prif elfennau o’r diet yn ogystal â’r rhai oedd yn llai cyffredin yn y porthiant, eto nad oedd mor gywir wrth amcangyfrif y gyfran o bob planhigyn yn y diet—yn enwedig pan fo'r porthiant yn fwy anodd ei dreulio. Canfuwyd rhai rhywogaethau, fel Medicago sativa, hyd yn oed pan oeddynt yn rhan fechan iawn o’r deit (1%) ond roedd y canlyniadau DNA yn tueddu i roi cynrychiolaeth uwch iddynt oherwydd sawl tueddiad biolegol.

Mae'r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at y cryfderau yn ogystal â’r cyfyngiadau sydd i fetabarcodio DNA ar gyfer ecoleg pori. Pwysleisiodd yr awduron werth defnyddio marcwyr DNA lluosog a rheolaethau graddnodi i wella cywirdeb, ond nodwyd hefyd fod y dull eisoes yn cynnig dealltwriaeth bwysig am sut mae llysysyddion yn bwyta a’r rhyng-gweithredu rhwng phlanhigion ac anifeiliaid.

Mae'r gwaith hwn yn bwydo’n uniongyrchol i ymrwymiad IBERS i amaethyddiaeth gynaliadwy, diogelu cyflenwadau bwyd, ac ecosystemau gwydn. Trwy fonitro’n well beth mae anifeiliaid pori yn ei fwyta, a sut mae eu dietau yn newid gyda’r porthiant sydd ar gael, yr hinsawdd, a sut y defnyddir y tir, mae'r ymchwil hon yn cryfhau ein dealltwriaeth am sut i reoli glaswelltiroedd mewn ffyrdd sy'n cadw’r ddysgl yn wastad rhwng cynhyrchiant a bioamrywiaeth a stiwardiaeth amgylcheddol. Mae'n cyfrannu at y nod strategol ehangach o ddatblygu dulliau a seilir ar dystiolaeth sy'n helpu ffermwyr, llunwyr polisi a chadwraethwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth gadarn a fydd yn cefnogi ffermio proffidiol a thirweddau iach fel ei gilydd.

Fe ellir gweld y papur, Evaluating the Quantitative Accuracy and Application of DNA Metabarcoding for Dietary Reconstruction in Ruminants, ar-lein yn (https://doi.org/10.1002/ece3.72878).