IBERS yn hau gwenith y gaeaf

Dydd Iau 18 Mawrth 2010

Mae ffermydd IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dechrau hau gwenith y gaeaf ym Morfa Mawr, Llan-non, mewn ymgais i geisio lleihau costau cynhyrchu’r flwyddyn nesa’. Mae Dr. Huw Mc Conochie, Rheolwr Ffermydd Y Brifysgol yn annog ffermwyr eraill i wneud yr un fath, er mwyn arbed arian a chael system o dyfu cnydau sy’n cael y gorau o’r tir.

Rhan o fwriad ffermydd IBERS yw defnyddio arbenigedd ac ymchwil gwyddonwyr y sefydliad i wella amaethyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r cynhaeaf silwair a grawn india corn llwyddiannus yn nechrau’r hydref, yn awr yn cael ei ddilyn gan blannu 25 hectar o wenith y gaeaf.
Yn ôl Rheolwr Ffermydd IBERS, Dr Huw McConochie, “Mae llawer o ffermwyr yn teimlo’i bod yn rhy hwyr yn y tymor i hau cnydau’r gaeaf ond, cyn belled â bod cyflwr y pridd yn caniatáu, gallwch hau cnydau gaeaf hyd at ddiwedd Ionawr”.

Mae’r strategaeth yn ganlyniad i bris cynyddol gwenith, yn y tymor byr a’r hir - mae’n ymddangos eisoes y bydd prisiau’r dyfodol yn cyrraedd mwy na £147 y dunnell.

“Dyw hi ddim yn rhy hwyr i edrych i’r dyfodol, cynllunio ymlaen a gostwng pris porthiant y gaeaf nesaf trwy hau gwenith y gaeaf eich hunan,” meddai Huw.

Ar hyn o bryd, mae pris gwenith yn ddrutach na phris ei dyfu – tua £130 y dunnell – ar yr amod bod ffermwyr yn cael tua 4 tunnell o bob acer. Mae’r gwellt sy’n cael ei gynhyrchu hefyd werth mwy na £40 am bob tunnel o rawnfwyd, sy’n golygu ei fod yn fwy deniadol fyth i ffermwyr da byw.

Er mwyn lleihau’r gost o sefydlu’r cnwd, er mwyn cynnal strwythur y pridd ac annog gweithgaredd biolegol yn y pridd, mae IBERS yn defnyddio system ‘min-till’, gyda chyn lleied o aredig â phosib. Mae’n cynnwys peiriant tyrchu 5 metr a pheiriant hau 3 metr yn cael ei dynnu.

Yn ôl Huw, “Yn groes i’r dulliau confensiynol o sefydlu cnwd, trwy aredig a hau gyda chyfuniad og bŵer, gall y system hon ddelio gyda phridd salach, sy’n bwysig pan fo’r tywydd yn wael a chyflwr y pridd heb fod cystal yn ystod yr hydref a’r gaeaf..”

O edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, mae grawnfwyd y gwanwyn yn gnydau delfrydol i ddilyn cnydau porthiant y gaeaf.

“Mae sofl cnydau gwraidd a brassicae yn cynnig cyfle ardderchog i sefydlu cnydau grawn gan ddefnyddio’r system min-till, gan fod y pridd yn hawdd i’w weithio ac am fod aredig ar ôl y cnydau hyn yn dadwneud y lles a wnaed gan y cnwd wrth atal chwyn,” meddai Huw.

Yn IBERS, bydd cnydau grawn y gaeaf yn cael eu cynaeafu’n rawn tra bod cnydau grawn y gwanwyn yn aml yn cael eu crimpio neu eu cynaeafu’n gyfan ar gyfer porthiant. Mae hwn yn gnwd llwyddiannus iawn i sefydlu gwndwn newydd.

“R’yn ni’n hoffi arloesi yn y ffordd y byddwn yn sefydlu ein cnydau ac yn y cyfuniad o gnydau y byddwn yn eu tyfu,” meddai Huw. “A ninnau’n fferm ymchwil, r’yn ni wastad yn barod i ddatblygu dulliau newydd o ffermio ac fe fydden ni’n croesawu unrhyw syniadau gan ffermwyr a chwmnïau fel ei gilydd ynglŷn â dulliau newydd o dyfu rhagor o borthiant gartref.”

Manylion pellach:
Dr. Huw McConochie trwy e-bost: hum@aber.ac.uk neu
Dawn Havard 01970 628440 / 07779 645598 / dbh@aber.ac.uk