BEACON yn sicrhau buddsoddiad £12 miliwn

Prosesu glaswellt ar gyfer cynhyrchion yn BEACON, Prifysgol Aberystwyth

Prosesu glaswellt ar gyfer cynhyrchion yn BEACON, Prifysgol Aberystwyth

03 Rhagfyr 2015

Mae cynllun technoleg werdd arobryn BEACON wedi sicrhau cyllid ychwanegol o £12 miliwn drwy Lywodraeth Cymru i barhau i ddatblygu’r economi werdd yng Nghymru dros y pedair blynedd nesaf.

Cyhoeddwyd y buddsoddiad newydd o £12miliwn heddiw (Dydd Iau 3 Rhagfyr) gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru, Jane Hutt yn ystod digwyddiad yn Stadiwm Liberty, Abertawe i ddathlu cyflawniadau rhaglenni Ewropeaidd yng Nghymru 2014-2020, a lansiwyd flwyddyn yn ôl.

Gyda chefnogaeth £8 miliwn o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd, bydd y prosiect BEACON yn gweld gwyddonwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe yn gweithio gyda diwydiant i ddatblygu deunyddiau adnewyddadwy, tanwydd a chemegau.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid: “Mae buddsoddiad yr UE heddiw o £8 miliwn ym mhrosiect BEACON yn newyddion ardderchog a fydd yn caniatáu i fusnesau yng Nghymru i elwa ar ymchwil gwyddonol uwch i ddatblygu cynnyrch newydd, creu swyddi ac i dyfu economi carbon isel Cymru.”

Mae BEACON yn gydweithrediad a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru o dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth â Phrifysgolion Bangor ac Abertawe ble mae gwyddonwyr yn arbenigo mewn bio-buro.

Maent yn gweithio gyda mentrau bach a chanolig eu maint, i ddatblygu deunyddiau adnewyddadwy, tanwydd a chemegolion yn ogystal â phrosesau amgylcheddol newydd a rhai wedi eu haddsu, sydd yn economaidd gynaliadwy.

Bio-buro yw prosesu cynaliadwy o fiomas i greu ystod eang o gynhyrchion megis, cemegau a deunyddiau, a bio-ynni - biodanwyddau, pŵer ac / neu wres.
Sefydlwyd BEACON yn 2011 ac mae wedi cyflawni neu ragori ar ei holl dargedau mewn cynorthwyo cwmnïau a chreu swyddi yn yr economi werdd yng Nghymru ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Trwy gronni gwybodaeth a defnyddio arbenigedd ein tair prifysgol ar y cyd, yr ydym yn rhoi Cymru ar y map yn y sector hwn sy'n tyfu ac yn chwarae rhan wrth ymateb i her fawr byd-eang.

“Mae BEACON yn defnyddio'r ymchwil academaidd mwyaf datblygedig i ddarparu atebion ymarferol i broblemau byd-eang.

“Mae'r ymchwil yr ydym yn ei wneud yma mewn bio-buro yn datblygu prosesau soffistigedig i droi cnydau a dyfir yn lleol i mewn i gemegau gwerthfawr a chynnyrch masnachol, sydd yn amrywio o danwydd i golur, deunyddiau fferyllol, tecstilau, cynhyrchion bwyd ac iechyd.

“Mae bio-buro yn golygu bod defnydd llawn yn cael ei wneud o gnydau, tra'n torri'n ôl ar allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae IBERS eisoes yn gwneud gwaith arloesol wrth gynhyrchu tanwydd o gnydau ynni fel miscanthus (glaswellt eliffant Asiaidd) a glaswelltydd siwgr uchel.”

Dywedodd yr Athro Iain Donnison o IBERS Prifysgol Aberystwyth a Chyfarwyddwr BEACON: “Mae BEACON yn cael ei yrru gan dargedau heriol ar gyfer mabwysiadu technolegau a gostyngiadau gwyrdd mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr a osodwyd gan lywodraethau cenedlaethol a'r Undeb Ewropeaidd.”

“Mae technolegau carbon isel gan gynnwys bio-buro a biotechnoleg ddiwydiannol yn cael eu gweld fel sectorau twf pwysig a bydd angen cadwyni cyflenwi cynaliadwy a fydd yn creu gweithgaredd economaidd a swyddi, a'r rhain sy'n darparu'r ffocws ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud yn ac ar gyfer Cymru yn BEACON.”