Darlithydd IBERS yn cyflwyno malwod clyfar i Soapbox Science

Dr Sarah Dalesman

Dr Sarah Dalesman

03 Mehefin 2015

Bydd Dr Sarah Dalesman, sy’n Gymrawd Gyrfa Gynnar Ymddiriedolaeth Leverhulme a darlithydd yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno rhywfaint o’i gwaith ar ddysgu a chof mewn digwyddiad Soapbox Science yn Abertawe ar 6 Mehefin, ac yn holi “A yw malwod yn glyfar?”

Dywedodd Sarah: “Rwyf i wedi bod yn gweithio ar ddysgu a chof gan ddefnyddio malwod pwll ers rhai blynyddoedd. Mae Soapbox Science yn gyfle rhagorol i siarad am y gwaith hwn gyda’r cyhoedd mewn lleoliad mor hygyrch. Rwyf i wrth fy modd i gael fy newis i siarad.

“Mae hwn yn gyfle i’r cyhoedd ddod i ddysgu pam fod gen i ddiddordeb ym  maes cof malwod, pwnc nad yw o bosib yn ymddangos yn berthnasol i bawb. Rwyf i’n gobeithio argyhoeddi pobl yn ogystal â bod yn bwysig i falwod, bod astudio eu cof nhw hefyd yn gallu dweud rhywbeth wrthym ni am y ffordd mae meddyliau anifeiliaid eraill yn gweithio, gan gynnwys pobl. Gan fod hwn yn ddigwyddiad agos-atoch, bydd croeso i unrhyw un holi, anghytuno a dechrau trafodaeth! Rwyf i’n teimlo’n gyffrous iawn ac ychydig bach yn nerfus i weld beth fydd gan bobl i’w ddweud am fy ymchwil.”

Amcan Soapbox Science yw codi ymwybyddiaeth am fenywod sy’n gweithio ym myd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (pynciau STEM), gan gynnig cyfle iddyn nhw gyflwyno eu gwyddoniaeth i’r cyhoedd mewn cyfres o ddigwyddiadau ledled y wlad drwy gydol y flwyddyn. Dywedodd Sarah: “Rwyf i wir yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli rhai o wyddonwyr benywaidd y dyfodol i ddilyn eu breuddwyd! Ar hyn o bryd mae menywod wedi’u tangynrychioli yn y gymuned wyddonol, ond mae cymaint ganddyn nhw i’w gynnig. Mae’n yrfa hwyliog a difyr, a does byth un diwrnod diflas. Rwyf i am annog unrhyw ferched neu fenywod ifanc sy’n meddwl y gallen nhw fwynhau’r yrfa hon i fynd amdani!”

Cynhelir Soapbox Science Abertawe rhwng hanner dydd a phedwar y prynhawn ddydd Sadwrn 6 Mehefin yn y 360 Beach and Watersports Café, Heol Mumbles, Abertawe. Mae’n lleoliad delfrydol, sy’n caniatáu i ymwelwyr fwynhau diwrnod difyr ar y traeth a chael eu hysbrydoli gan rai o wyddonwyr benywaidd blaenllaw Cymru.

Darllenwch fwy am gyfraniad Sarah i Soapbox Science yma: http://soapboxscience.org/?p=1940

Dilynwch baratoadau Sarah ar gyfer Soapbox Science ar twitter @Snail_memory neu am y diweddaraf am y digwyddiadau ar draws y wlad @SoapboxScience

Mae NERC yn noddi Sarah i fynd i’r digwyddiad fel rhan o Haf Gwyddoniaeth ei Hanner Canmlwyddiant http://www.nerc.ac.uk/about/whatwedo/engage/public/anniversary/