Astudiaeth yn datgelu rhaniad genetig gogledd / de y Barcud Coch yng Nghymru

Y Barcud - Credit Mike Hayward Ymddiriedolaeth y Barcud Cymreig

Y Barcud - Credit Mike Hayward Ymddiriedolaeth y Barcud Cymreig

02 Mawrth 2015

Mae astudiaeth o boblogaeth fodern y Barcud Coch yng Nghymru wedi datgelu rhaniad genetig gogledd / de sy'n rhedeg ar hyd Dyffryn Tywi.

Dyma un o ganfyddiadau astudiaeth o statws genetig y Barcud Coch yng Nghymru gan Ilze Skujina, sy’n fyfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cynhaliwyd yr ymchwil yn rhan o brosiect i ddarparu canllawiau ar gadwraeth tymor hir y Barcud Coch.

Yn wreiddiol o Latfia, astudiodd Ilze Skujina am radd israddedig yma ym maes Gwyddor Ceffylau ac mae hi bellach yn astudio am PhD yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

Mae'r Barcud Coch yn aderyn ysglyfaethus o faint canolig a chanddo gorff coch-frown, adenydd onglog a chynffon fforchog.

Ar droad yr 20fed ganrif, roeddent wedi diflannu’n llwyr yn Lloegr a'r Alban â dim ond llond dwrn o barau bridio yn goroesi yng Nghymru.

Yn y 1930au y bu’r pwynt isaf a dim ond un nyth oedd i’w chael yng Nghymru.

Ond, o ddiwedd y 1960au, cynyddodd poblogaeth barcutiaid Cymru yn araf a chyrraedd tua 100 o barau erbyn 1990.

Oherwydd bod yr hen gynefinoedd yn ehangu ac yn cael eu hadfeddiannu ar raddfa gymharol araf, cychwynodd cadwriaethwyr ar raglen ganolog i ailgyflwyno’r Barcud Coch ar draws gweddill y Deyrnas Gyfunol gan ddefnyddio rhai adar o Gymru ond yn bennaf, adar o boblogaethau Ewropeaidd eraill.

Mae hyn wedi bod yn un o'r rhaglenni mwyaf llwyddiannus o ailgyflwyno unrhyw rywogaeth ac mae Barcutiaid Coch yn awr yn olygfa gyffredin ar draws Lloegr a'r Alban ac amcangyfrifir bod 1,800 o barau bridio yn y DG.

Dywedodd Ilze; "Fe wnes i gadw cwmni i'r Athro Mike Hayward o Ymddiriedolaeth Barcutiaid Cymru a Tony Cross o Ecology Matters ac Ymgynghorydd adar i Ymddiriedolaeth Barcutiaid Cymru, ar eu gwaith yn monitro nythod a’u hymweliadau’n tagio cywion ar draws ardaloedd craidd traddodiadol y rhywogaethau yng Nghymru a'r ardaloedd cyswllt rhwng y poblogaethau sydd yn ehangu yng Nghymru a Lloegr yn Sir Amwythig a Swydd Henffordd a chasglu samplau plu a chael DNA oddi wrthynt.

“Profwyd mai hon oedd y ffordd fwyaf effeithlon o gasglu DNA, ac yn bwysicaf oll, nad oedd yn amharu ar yr ardar. Mae'r moleciwl yn gweithredu fel cod bar ac yn rhoi gwybodaeth genetig am y cysylltiadau rhwng poblogaethau ac unigolion.

“Gan ddefnyddio'r cyfleusterau diweddaraf yn y labordy Cymhwyso Genomeg yn IBERS a marcwyr genetig newydd a ddatblygwyd yn ein labordy, nid yn unig roeddwn yn gallu cadarnhau eto bod poblogaeth fodern y barcud Cymreig yn dal i syrthio mewn i grwpiau Gogledd a De (fel a ganfuwyd yn y 1980au gan ddefnyddio'r stiliwr bys genetig sengl oedd ar gael ar y pryd) ond hefyd bod gwahaniaeth genetig rhwng poblogaeth y barcud hynaf Canolog-Gymraeg a'r barcud coch cymharol newydd yn Swydd Amwythig a Swydd Henffordd.”

Esboniodd Robert McMahon, Ymchwil Cyswllt yng Nghanolfan Ffenomeg IBERS sydd yn goruchwylio gwaith ymchwil Ilze; “Mae astudiaethau maes o adar a fodrwywyd yn y 1970au yn awgrymu bod barcutiaid yn tueddu i nythu’n agos i’r man lle wnaethant ddeor, ond dyma arwydd cyntaf o arwyddocâd genetig yr ymddygiad hwn yn yr hyn sydd fel arall yn edrych fel un poblogaeth unigol wedi ehangu o 100 i 1000 o barau bridio dros y blynyddoedd ers hynny.

“Er eu bod yn gallu hedfan dros 100km yn ddyddiol a bod eu dosbarthiad daearyddol a’u niferoedd wedi ehangu’n sylweddol, mae adar y Gogledd a'r De yn dewis nythu’n agos i'r man lle cawsant eu geni ac mae hyn wedi cynnal rhwystr genetig rhannol-sefydlog dros 30 o dymhorau bridio.

“Mae'r ymchwil hefyd yn canfod tystiolaeth bod y barcutiaid a gafodd eu hailgyflwyno wedi dechrau paru gydag adar Cymru.”

Ychwanegodd Tony Cross o Ymddiriedolaeth Barcudiaid Cymru; "Roeddem yn gwybod wrth weld y tagiau bod o leiaf rhai o'r barcutiaid arloesol a fagodd gyntaf yng Ngorllewin Lloegr, Swydd Henffordd a Swydd Amwythig, yn ddisgynyddion o’r stoc Prydeinig gwreiddiol, ond rydym hefyd yn gwybod, er gwaethaf diffyg tystiolaeth o adar wedi'u marcio, ei bod yn debygol iawn bod adar a gafodd eu hail-gyflwyno ac a oedd yn deillio o boblogaethau o Sbaen a’r Almaen yn debygol iawn o fod wedi treiddio i’r boblogaeth leol. Mae'n wych cael “prawf” genetig o hyn trwy waith Ilze ac mi fydd yn ddiddorol astudio os yw cynhyrchiant a’u dewis o gynefinoedd wedi eu dylanwadu gan darddiad genetig.”

Yn rhan o'i hymchwil PhD, mae Ilze yn astudio genomau adar a'u cysylltiad â hirhoedledd, agwedd a ddaeth i fod o ganlyniad i brosiect y Barcud Coch.

Ychwanegodd Ilze; “Cefais Ysgoloriaeth Owen Price i astudio fy Noethuriaeth. Mae’r ysgoloriaeth nid yn unig wedi fy ngalluogi i ddilyn fy llwybr gyrfa dewisol, ond mae ganddo'r potensial i ddylanwadu ar gymuned wyddonol y byd trwy gynyddu dealltwriaeth gyffredinol o heneiddio.”

Cyllidwyd MPhil Ilze gan Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) dan Raglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, mewn partneriaeth ag Ecology Matters yn Nhalybont, ac mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Barcutiaid Cymru yn Llandrindod.